Skip page header and navigation

Tystysgrif AU mewn Ffotograffiaeth (CertHE)

  • Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
1 flwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

Mae ffotograffiaeth yn ffurf o gelfyddyd gyfareddol ac yn gyfwng i fynegi’n greadigol. 

Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein rhaglenni gradd.  Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol mewn Ffotograffiaeth.   

Mae’n mynd i’r afael â dulliau gweledol, cysyniadol a thechnegol eang sy’n adlewyrchu datblygiadau a thueddiadau ymarfer ffotograffig yr unfed ganrif ar hugain. Mae cynnwys y cwrs yn integreiddio technolegau digidol ac analog modern yn llwyr ag arferion gwaith traddodiadol.

Mae myfyrwyr yn gadael gyda phortffolio sy’n dangos hunaniaeth bersonol, sy’n hanfodol i sicrhau llwyddiant galwedigaethol a chyflogaeth, gyda sgiliau trosglwyddadwy, arbenigol, ymarferol i seilio cam nesaf eu datblygiad gyrfa arnynt.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Rhan amser
Côd sefydliad:
C22
Côd UCAS:
CAPH
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan y rhaglen adnoddau da gydag ystod o gamerâu proffesiynol, goleuadau stiwdio a lleoliad ar gyfer ffotograffiaeth gyfoes, gan gynnwys adnoddau cyfrifiadurol pwrpasol gyda meddalwedd o safon y diwydiant ar gyfer gwaith ystafell dywyll digidol proffesiynol, prosesu delweddau creadigol a hefyd ystafell dywyll draddodiadol gyda dulliau gweithio analog i adlewyrchu’r diddordeb newydd mewn ffotograffiaeth arian.

Bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i archwilio gwneud delweddau mynegiadol ar gyfer ymarfer celf, tra bod yn ymwybodol hefyd o’r potensial ehangach i gymdeithas o ddefnyddwyr amlgyfrwng sy’n troi o gwmpas y gweledol, yn ogystal ag ymarfer ffotograffiaeth proffesiynol ar gyfer y diwydiannau llawrydd a chreadigol. Mae ystod eang o ddulliau ffotograffig yn cynnig cyfleoedd i weithio ym maes ffotograffiaeth ddogfennol, ffasiwn, golygyddol a chelfyddyd gain, a thrwy hynny ennyn potensial galwedigaethol a chyflogadwyedd cynaliadwy.

Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Ffotograffiaeth Ymarferol a Golygyddol, Datblygu Iaith Weledol, Delweddu: Cysyniad a Phroses, Ymarfer Digidol Creadigol (a ddefnyddir o fewn ffotograffiaeth), Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.

Ar ôl cwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os ydych yn dewis gwneud hynny.

Ar ôl cwblhau’r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3), mae myfyrwyr yn aml yn symud ymlaen â hyn, gyda rhagolygon gyrfa o ddod yn: Ffotograffydd Celfyddyd Gain, Ffotograffydd Ffasiwn, Ffotograffydd Dogfennol, Ffotonewyddiadurwr, Ffotograffydd Hysbysebu, Ffotograffydd Lluniau Llonydd ar gyfer ffilm a theledu, Ffotograffydd Bywyd Gwyllt / Tirwedd, Athro/Darlithydd, Astudiaeth Ôl-raddedig (MA, PhD). 

Mae graddedigion diweddar wedi cael eu cydnabod mewn nifer o wobrau proffil uchel, gan gynnwys BAFTA Cymru, Gwobr Portread Ffotograffig Taylor Wessing, Sefydliad Ffotograffiaeth y Byd, Gwobr Printspace Trajectory, a Chymdeithas y Ffotograffwyr. Mae’r rhain hefyd wedi’u cydnabod am gomisiynau gan y Senedd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru / Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, a Ffotogallery, ymhlith llawer o lwyddiannau eraill.

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a’ch bod chi’n iawn ar gyfer y cwrs. 

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Mwy o gyrsiau Celf a Dylunio

Chwiliwch am gyrsiau