Skip page header and navigation

Dilyniant, Cyngor Gyrfaol ac Entrepreneuriaeth

Dilyniant, Cyngor Gyrfaol ac Entrepreneuriaeth

Lansiwch eich dyfodol gyda’n rhaglen ‘Byddwch yn Uchelgeisiol’.

Be Ambitious Logo

Lansiwch Eich Dyfodol gyda Ni!

Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rydyn ni’n credu mewn grymuso ein dysgwyr nid yn unig i ragori’n academaidd, ond i esgyn i’w dyfodol gyda hyder ac uchelgais. Mae’r tîm Byddwch yn Uchelgeisiol yma i sicrhau bod gennych y sgiliau, yr adnoddau, a’r gefnogaeth i gymryd y cam cyffrous nesaf, p’un a yw’n plymio i yrfa ddynamig, archwilio mentrau entrepreneuraidd, neu barhau eich taith addysgol.

Trophy

Fe wnaeth Gwobr Beacon Cymdeithas y Colegau (AOC) gymeradwyo’r coleg ar gyfer gwobr y Cwmni Gyrfaoedd a Menter am Ragoriaeth mewn Gyrfaoedd a Menter 2024

Mae Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AOC) yn cydnabod y gweithgareddau gorau a mwyaf arloesol mewn colegau ar draws y DU. Gan adeiladu ar ein strategaeth goleg ehangach rydyn ni’n goleg arweiniol yng Ngorllewin Cymru ar gyfer Gyrfaoedd a Menter. Bydd dysgwyr yn elwa ar amgylchedd ysbrydoledig ac yn cael y cyfle i ddatblygu gwobrau Gyrfaoedd a Menter Efydd, Arian, Aur a Phlatinwm. Mae pob gwobr yn cydnabod yr ymrwymiad y mae dysgwyr wedi datblygu eu sgiliau a’u cymwyseddau a werthfawrogir gan gyflogwyr. 

Arweiniad Gyrfaol wedi’i Deilwra’n Arbennig i Chi 

Ddim yn siŵr pa lwybr i gymryd? Plymiwch i mewn i’n sesiynau un-i-un personoledig rhad gyda’n hymgynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig sydd bob amser yn barod i’ch arwain drwy eich opsiynau. Rydyn ni’n darparu’r arweiniad a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i nodi eich diddordebau brwd, archwilio llwybrau gyrfa, a sbarduno eich taith broffesiynol.

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn falch o fod wedi derbyn Marc Gyrfa Cymru ar gyfer ein gwasanaeth Gyrfaoedd. Cydnabyddiaeth am ein hymrwymiad i welliant parhaus mewn ansawdd o fewn ein coleg i fodloni gofynion Llywodraeth Cymru a nodir yn ‘fframwaith Gyrfaoedd a Byd Gwaith ar gyfer pobl ifanc 11-19 oed yng Nghymru’. 

Mae ymgynghorwyr Gyrfa Cymru ar gael ar y campws i gynnig cyngor ac arweiniad gyrfaol. Mae’r adnodd cyfleus hwn yn darparu cyngor personoledig i’ch cynorthwyo wrth wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eich dyfodol. 

Datglowch Eich Ysbryd Entrepreneuraidd

Ydych chi’n breuddwydio am lansio eich busnes eich hun neu am wneud eich marc fel entrepreneur? Mae ein rhaglenni entrepreneuriaeth, menter, a menter gymdeithasol wedi’u cynllunio i danio eich creadigrwydd a meithrin eich craffter o ran busnes. Plymiwch i weithdai ymdrochol a chael mewnwelediadau amhrisiadwy gan entrepreneuriaid sydd wedi bod yn eich lle chi. P’un a ydych yn dychmygu’r busnes technoleg newydd mawr nesaf neu siop goffi fwtîc, rydyn ni yma i helpu troi eich breuddwydion yn realiti.

Ffurfio Cysylltiadau Sy’n Cyfrif 

Nid gair ffasiynol yn unig yw rhwydweithio, dyma’r allwedd i agor drysau ac ehangu eich gorwelion. Bydd y tîm Byddwch yn Uchelgeisiol yn darparu cyfleoedd digymar i chi gysylltu â gweithwyr proffesiynol diwydiant, cyn-fyfyrwyr a chyd-ddysgwyr. O ddigwyddiadau rhwydweithio a chyfresi siaradwyr gwadd i leoliadau gwaith, o waith rhan-amser i waith llawn amser, byddwn ni’n eich helpu i adeiladu rhwydwaith proffesiynol cadarn a fydd yn eich cynnal drwy gydol eich taith yrfaol.

Adnoddau i’ch Gyrru Chi Ymlaen

Ni ddylai mynediad i adnoddau fod yn rhwystr i lwyddiant. Dyna pam rydyn ni’n cynnig ystod o offer a gwasanaethau cefnogi i’ch grymuso ar eich llwybr i lwyddiant. O baratoi CV ac ar gyfer cyfweliad i gyfleoedd ariannu, cymorth UCAS a rhaglenni diwydiant, rydyn ni’n ymrwymedig i ddarparu’r adnoddau i chi sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y dirwedd gystadleuol sydd ohoni heddiw.

Barod i Esgyn? Gadewch i ni Wneud iddo Ddigwydd!

Nid yw eich taith yn dod i ben pan fyddwch yn cwblhau eich cwrs, dim ond dechrau mae. Mae’r tîm Byddwch yn Uchelgeisiol yma i hybu eich uchelgeisiau, dathlu eich llwyddiannau, a’ch grymuso i wneud eich marc ar y byd. P’un a ydych yn barod i gamu i’r gweithlu, lansio eich busnes eich hun, neu barhau eich addysg, byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd.

Cysylltwch â'r Tîm Byddwch Uchelgeisiol





Beth yw eich iaith well?/What is your preferred language?:

Rheswm dros gysylltu/Reason for getting in touch: