Skip page header and navigation

Cyflwyniad i Gelf a Dylunio (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
12 Wythnos

Mae celf a dylunio yn faes eang ac amrywiol sy’n cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau ac ymarfer creadigol.

Cwrs 12 wythnos, un diwrnod yr wythnos yw hwn, sy’n darparu amgylchedd hamddenol, cyfeillgar sy’n llawn cyfle i archwilio a dilyn celf a dylunio mewn ffyrdd archwiliadol, ymchwiliol ac arbrofol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
12 Wythnos

£90

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r cwrs yn croesawu ystod lawn o fyfyrwyr, nad ydynt efallai wedi ennill unrhyw gymwysterau ffurfiol blaenorol, ond sy’n dangos brwdfrydedd dros, ac ymrwymiad i gelf a dylunio.

Mae cynnwys y rhaglen yn cynnwys lluniadu, paentio, printio a cherameg.

Os oeddech chi dan 19 oed ar 1af Medi 2023 y gost fydd £25 yn unig.

Caiff deunyddiau sylfaenol eu darparu ond bydd eich tiwtor yn dweud wrthych am unrhyw ddeunyddiau ychwanegol y bydd angen i chi eu prynu eich hunan.

Mae lleoedd yn gyfyngedig ar bob cwrs er mwyn caniatáu digon o hyfforddiant un i un. Os yw cwrs yn llawn pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn a rhoddir gwybod i chi pan ddaw lle ar gael.

Caiff yr holl leoedd eu harchebu ar sail ‘cyntaf i’r felin’.

Cysylltwch â kate.mckenny@colegsirgar.ac.uk / susan.hayward@colegsirgar.ac.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr. 

Mwy o gyrsiau Celf a Dylunio

Chwiliwch am gyrsiau