Skip page header and navigation

Introduction

Mae gennym ystod eang o gefnogaeth ar gael ar gyfer eich iechyd meddwl a’ch lles.  Byddwn yn gwneud asesiad cychwynnol gyda chi a byddwn yn gwneud yn siŵr bod y lefel gywir o gefnogaeth wedi’i rhoi ar waith, a gyda’r person cywir. Hefyd byddwn ni’n gweithio gyda chi wrth i ni symud ymlaen drwy’r flwyddyn i fonitro eich cynnydd a’ch lles cyffredinol.

Mae Mentoriaid Lles ar gael i chi ar draws yr holl gampysau ar gyfer gwaith grŵp neu gymorth 1:1 sy’n fwy ymlaciol a chyfrinachol.  Hefyd mae gennym ni adnoddau ar-lein rhagorol y gallech eu cael yn ddefnyddiol iawn.

Mae Mentor Lles ar gael i’ch helpu a’ch cynghori ar ystod eang o bethau a bydd yn eich cefnogi cymaint ag y gallant er mwyn goresgyn rhwystrau sy’n effeithio ar eich astudiaethau.   Mae pob dysgwr yn gallu cael mynediad i’r cymorth, a chyhyd â bod y mentoriaid yn gwybod beth all y broblem fod, byddant yn gwneud eu gorau i helpu.  Maen nhw ar gael i siarad â thiwtoriaid ar eich rhan os nad ydych yn hyderus eto, ac yna byddant yn gweithio gyda chi i ddatblygu’r hyder a’r gwytnwch i symud ymlaen mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.  

Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, gweithgareddau pontio a gweithdai ar amrywiol bynciau i helpu adeiladu hyder a gwytnwch. 

Gall y gefnogaeth hon gael effaith bositif ar eich profiad yn y coleg, felly beth am alw heibio a dweud helo a dod i wybod beth gall y Mentoriaid Lles wneud i chi.

Mae’r gwasanaeth cynghori yn rhan o’r Tîm Lles ac mae’n darparu cyngor i’r holl ddysgwyr sydd wedi’u cofrestru ar unrhyw un o’r campysau ar draws y coleg.

Beth yw cynghori?

Weithiau cyfeirir at gynghori fel ‘therapi siarad’.  Mae cynghorwyr yn defnyddio’u sgiliau i’ch helpu i ddeall yn well y materion sy’n achosi pryder i chi. Gallai’r rhain gynnwys siarad am ddigwyddiadau bywyd yn y presennol neu’r gorffennol, teimladau, perthnasoedd, a ffyrdd o feddwl neu batrymau ymddygiad.  Gall cynghori eich helpu i ddod o hyd i well ffyrdd o ymdopi gydag unrhyw anawsterau y gallwch fod yn eu hwynebu.  Gall cael mynediad i’ch gwasanaeth cynghori wella eich profiad fel dysgwr gan ddarparu cyfle i chi archwilio eich problemau mewn lleoliad diogel a phreifat. Mae’r tîm o gynghorwyr yn weithwyr proffesiynol tra chymwys a phrofiadol a fydd yn gweithio ochr yn ochr â chi i greu newid positif.  

Gyda beth all cynghori helpu?

Mae ein cynghorwyr yn brofiadol mewn gweithio gyda llawer o wahanol faterion. Mae cynghori ar gyfer unrhyw un sy’n cael anawsterau o unrhyw fath, os yw’n achosi pryder i chi yna mae o bwys.  

Gall pawb yng Ngholeg Ceredigion a Choleg Sir Gâr gael mynediad i gymorth iechyd meddwl ar-lein yn rhad ac am ddim gyda Togetherall, unrhyw adeg, unrhyw ddydd.  P’un a ydych chi’n brwydro i ymdopi, yn teimlo’n isel neu ddim ond angen lle i siarad, gall Togetherall eich helpu i archwilio eich teimladau mewn amgylchedd cefnogol diogel.

Beth yw Togetherall?
  • Cymuned ar-lein lle mae aelodau yn anhysbys i’w gilydd, maen nhw’n gallu rhannu sut maen nhw’n teimlo a chefnogi ei gilydd
  • Mae’n darparu mynediad 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn
  • Mae wedi’i reoli’n glinigol gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig ar gael 24/7 i gadw’r gymuned yn ddiogel
  • Hunanasesiadau ac adnoddau argymelledig
  • Offer creadigol i helpu mynegi sut rydych yn teimlo
  • Ystod eang o gyrsiau hunan-dywysedig i’w gwneud ar eich cyflymder eich hun