Skip page header and navigation

Introduction

Ydych chi’n gyfathrebwr hyderus sy’n dwlu ar fod yn rhan o rywbeth? Ydych chi’n berson positif sy’n hoffi helpu eraill? Hoffech chi roi nôl i gymuned eich coleg a gloywi eich CV yn y broses? Ymunwch â’n rhaglen Ysgoloriaeth Llysgennad a gallwch chi roi hwb i’ch sgiliau arweinyddiaeth a gwneud i’ch ceisiadau yn y dyfodol sefyll allan o’r dorf tra’n cefnogi’r coleg a chynrychioli eich cwrs.

Beth sydd ynddo i chi?
  • Byddwch yn Arweinydd: Datblygwch eich sgiliau arweinyddiaeth a chyfathrebu trwy helpu allan mewn amrywiol ddigwyddiadau coleg ar hyd y flwyddyn.
  • Sefwch Allan: Bydd profiad fel llysgennad yn gwneud i’ch ceisiadau ar gyfer y brifysgol a swyddi ddisgleirio a’ch helpu i sefyll allan o’r dorf.
  • Cewch eich Gwobrwyo: Byddwch y derbyn dillad Llysgennad a hwb ariannol o £100, wedi’i dalu mewn dau randaliad (Gorffennaf a Rhagfyr). Defnyddiwch e ar gyfer llyfrau, teithio, llety, neu gyfarpar!
Pwy ddylai ymgeisio?

Ymgeisydd delfrydol yw cyfathrebwr hyderus sy’n barod i ymrwymo i gyfrannu at fywyd coleg ac sy’n meddu ar brofiad blaenorol o helpu ei gymuned yn ei ysgol/clwb ac ati.

  • Fel llysgennad, byddwch yn hyrwyddo a chynrychioli Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion o fewn y coleg a thu hwnt hefyd. Byddwch yn amlygu eich maes astudio penodol, gan roi gwybod i eraill beth mae eich cwrs fel a beth yn hollol yw profiad coleg.

    Byddwch yn helpu allan mewn digwyddiadau allweddol yn cynnwys:

    • Nosweithiau Agored 
    • Digwyddiadau Gwobrwyo
    • Nosweithiau Rhieni 
    • Diwrnodau Rhagflas Ysgolion Partner
    • Sgyrsiau Blwyddyn 11 mewn Ysgolion Partner
    • Croesawu gwesteion pwysig i Goleg Sir Gâr

    Fel llysgennad byddwch yn atebol i aelodau staff allweddol y coleg gan gynnwys:

    • Cyfarwyddwyr y Campysau
    • Cyfarwyddwyr Cwricwlwm
    • Cyfarwyddwr Recriwtio, Dilyniant a Phartneriaethau 
    • Rheolwr Marchnata
    • Cymryd rhan Weithredol yn y Gymuned: Wedi dangos cyfranogiad mewn gweithgareddau ysgol neu gymuned.
    • Sgiliau Cyfathrebu Cryf: Hyderus a chymwys mewn cyflwyniadau ar-lein a chyflwyniadau a wneir yn bersonol.
    • Ymrwymiad i Ddigwyddiadau Coleg: Ar gael i gefnogi amrywiol ddigwyddiadau coleg ar hyd y flwyddyn, gan gynnwys nosweithiau.
    • Potensial fel Arweinydd: Gallu profedig i gymryd y cam cyntaf ac arwain cymheiriaid mewn lleoliadau gwahanol.
    • Agwedd Gadarnhaol: Parodrwydd i gynrychioli’r coleg gyda brwdfrydedd a phroffesiynoldeb.
    • Hyd: Un flwyddyn (Ionawr i Ragfyr). Os ydych mewn cwrs blwyddyn, eich tymor fydd o Ionawr i Orffennaf, gyda chymorth ariannol o £50.
    • Proses ymgeisio: I ddod yn llysgennad, bydd angen i chi gyflwyno cais ym mis Hydref. Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, cewch wahoddiad i weithdy cyfweliad grŵp. Yn ystod y gweithdy hwn, byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau a gynlluniwyd i ddangos eich sgiliau cyfathrebu, arweinyddiaeth, a gwaith tîm. Bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn ystod y broses hon yn ein helpu i wneud ein dewis terfynol. Cysylltir ag ymgeiswyr drwy e-bost ym mis Rhagfyr, wedi i weithdai gael eu cwblhau ar bob campws. 
    • Sut i Wneud Cais: Dylid cyflwyno ceisiadau ar-lein erbyn 4pm ar ddydd Gwener 25ain Hydref 2024. (Dolen i ffurflen gais) 
  • Mae croeso i chi gysylltu â’ch Tiwtor i gael mwy o wybodaeth.

Jenna Loweth
“Mae helpu eraill yn rhywbeth rwyf bob amser wedi teimlo’n frwd yn ei gylch. Rwyf am sicrhau bod y pontio i gymuned y coleg mor hawdd ag y gall fod, ac i wneud yn siŵr bod yr holl ddymuniadau ac anghenion posibl yn cael eu cwmpasu mewn ffyrdd sy’n gwneud i bobl deimlo’n fwyaf cyfforddus.”
Jenna Loweth