Lles Actif a Gwobr dug Caeredin
Introduction
Mae Lles Actif yn rhan bwysig iawn o fywyd coleg, ac rydyn ni’n ceisio annog pob myfyriwr ar bob campws a chwrs I fanteisio’n llawn ar yr amrywiol gynigion er mwyn cyfoethogi eu profiad yn y coleg. Lles Actif wedi esblygu i fod yn rhaglen sydd wedi’i chynllunio’n benodol i fyfyrwyr (ac yn aml gan fyfyrwyr) i barhau ar y siwrnai actif honno yn y coleg - yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion a thu hwnt.
Mae sawl ffordd o gymryd rhan yn lles actif;
- chwaraeon tîm,
- dosbarthiadau amser cinio,
- sesiynau galw heibio,
- gwersi wedi’u hamserlennu,
- cydio a mynd,
- cystadlaethau,
- digwyddiadau,
- gwirfoddoli a mwy.
Rydyn ni’n cyflwyno cyfarpar a gweithgareddau newydd yn gyson a byddwn yn edrych ar badlfyrddio, tag laser a heriau Blazepod yn 2024/25.
Sefydlwyd y rhaglen Lles Actif yng Ngholeg Sir Gâr yn 2009. Mae’r tîm yn rhan o’r Tîm Lles, a chaiff ei arwain gan ein cydlynydd Kayleigh Brading. Yn ogystal Kayleigh yw’r rheolwr Gwobr Dug Caeredin ar gyfer y coleg, a chaiff ei chefnogi gan dîm o staff sy’n helpu hwyluso gweithgareddau dros bob un o saith o gampysau Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae cyfleoedd hefyd yn bodoli I gyflawni gwobrau efydd ac aur Dug Caeredin tra rydych yn y coleg. Cewch fwy o wybodaeth am hyn yn Ffair y Glas ac yn y sgyrsiau cynefino yn ystod wythnosau cyntaf y tymor, neu, gallwch chi bob amser siarad ag aelod o’r tîm Lles Actif neu e-bostio Kayleigh kayleigh.brading@colegsirgar.ac.uk