Skip page header and navigation

Introduction

Mae’n ofynnol fod pob corff sy’n derbyn arian cyhoeddus, megis y Coleg, yn cydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae’r Ddeddf hon yn hyrwyddo diwylliant mwy agored ac atebol yn y sector cyhoeddus trwy fynnu bod pob ‘awdurdod cyhoeddus’ yn mynd ati i sicrhau bod gwybodaeth ar gael, a hynny trwy gynllun cyhoeddi.

Mae cynllun cyhoeddi yn disgrifio’r wybodaeth y mae awdurdod cyhoeddus yn ei chyhoeddi, neu’n bwriadu ei chyhoeddi. Mae Coleg Sir Gâr wedi mabwysiadu’r cynllun cyhoeddi model a ddatblygwyd ar gyfer y sector Addysg Bellach sydd ar gael o Wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Byddwch yn dod o hyd i’r rhan fwyaf o’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein gwefan. Dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae gennych yr hawl i ofyn am unrhyw wybodaeth a gedwir gennym nad yw eisoes ar gael trwy ein cynllun cyhoeddi. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i ni ryddhau gwybodaeth y mae eithriad yn y Ddeddf yn berthnasol iddi. Mewn amgylchiadau o’r fath byddwn yn esbonio i chi pam nad ydym yn rhyddhau’r wybodaeth.

Dylid gwneud ceisiadau am wybodaeth ychwanegol yn ysgrifenedig a byddwn yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Mewn rhai amgylchiadau, pan fyddwn yn mynd i gostau hyd at y terfyn priodol (h.y. £450), efallai y bydd angen i ni godi ffi, a fydd yn cael ei chyfrifo yn ôl y rheoliadau ffioedd a gyhoeddwyd trwy wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. I ofyn am wybodaeth nad yw ar gael trwy ein gwefan neu mewn fformat gwahanol, e-bost: foi@colegsirgar.ac.uk

Mae’r cyfeiriad e-bost yn cael ei warchod rhag spam bots. Mae angen alluogi Javascript i’w weld. Mae’n bwysig bod ein cynllun cyhoeddi yn diwallu eich anghenion. Os ydych yn gweld y cynllun yn anodd ei ddeall, rhowch wybod i ni. Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ynglyn â sut y gellid gwella ein cynllun. Dylid anfon unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y cynllun hwn yn ysgrifenedig i’r cyswllt uchod.

Os nad ydym yn gallu datrys unrhyw gwyn, gallwch gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth, y corff annibynnol sy’n goruchwylio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.