Skip page header and navigation

Tystysgrif AU mewn Dylunio 3D a Rhith-wirionedd (CertHE)

  • Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
1 flwyddyn yn llawn amser, dwy flynedd yn rhan-amser

Wedi’i ddatblygu o dechnolegau newydd diwydiant creadigol sy’n esblygu, caiff dysgwyr ar y cwrs dylunio 3D ac animeiddio lefel pedwar hwn eu hannog i archwilio syniadau arloesol tra’n ennill sgiliau cyfunol mewn celf, dylunio a thechnoleg. Cipio, creu a chanlyniadau modelau ac amgylcheddau 3D digidol, gan ganolbwyntio’n benodol ar lwyfannau Realiti Rhithwir a phwyslais ar sgiliau. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar amrywiaeth o brosiectau ymarferol sy’n cynnwys modelu 3D, animeiddio, realiti rhithwir a realiti estynedig, gan greu canlyniadau ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau cyfoes.

Gellir astudio’r cymhwyster hwn yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol mewn Dylunio 3D Digidol ac Animeiddio a’u dysgu.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Rhan amser
Iaith:
  • Cymysg
Côd sefydliad:
C22
Côd UCAS:
CA3D
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn yn llawn amser, dwy flynedd yn rhan-amser

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Caiff myfyrwyr fynediad i gyfleusterau rhagorol gydag ystafelloedd cyfrifiadurol o safon uchel gyda’r fersiynau diweddaraf o feddalwedd safon y diwydiant ac adnoddau blaengar gan gynnwys cyfarpar Realiti Rhithwir, sganiwr laser 3D llaw, cyfarpar ffotogrametreg a chamerâu 360 proffesiynol. A gyda dosbarthiadau bach, caiff myfyrwyr ddigon o fynediad i’r cyfleusterau hyn.

Mae’r rhaglen yn sicrhau bod myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth sylfaenol dda o gymwysiadau Dylunio 3D a Realiti Rhithwir sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Mae’r defnydd o’r sgiliau yn niferus, o greu asedau ar gyfer y diwydiant gemau fideo a VFX i ail-adeiladu digidol ar gyfer y sector treftadaeth.

Mae’r cwrs Tystysgrif Addysg Uwch yn flwyddyn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Datblygu Iaith Weledol, Delweddu: Cysyniad a Phroses, Prosesau Digidol, Ymarfer Digidol Creadigol (a ddefnyddir yn y diwydiant 3D), Cyflwyniad i Animeiddio 3D, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.

Ar ôl cwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os ydych yn dewis gwneud hynny.

Ar ôl cwblhau’r Radd BA (Anrh) lawn:- mae’r sector 3D yn ffynnu ar hyn o bryd, wedi’i danio gan ddatblygiadau mewn technoleg a’r llwyfannau sy’n tyfu’n wastadol lle gellir rhoi cyd-destun i’r sgiliau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys y diwydiant chwarae gemau cyfrifiadurol; Ffilm/Teledu; delweddu pensaernïol; treftadaeth; argraffu 3D; hysbysebu; peirianneg; darlunio a llawer mwy.

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a’ch bod chi’n iawn ar gyfer y cwrs.

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Mwy o gyrsiau Celf a Dylunio

Chwiliwch am gyrsiau