Skip page header and navigation

Dylunio, Printio, Gwneud Sgarff neu Ddarn Crog (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Dosbarth nos 10 wythnos

Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn lle cewch greu a mynd adref â’r hyn rydych chi wedi’i wneud.  

Byddai hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un, waeth beth yw eu profiad blaenorol gyda phrintio a phwytho, sydd â diddordeb mewn addurniadau patrwm arwyneb.   Ymunwch â’r dosbarth hwn i feithrin sgiliau newydd, gweithio gydag unigolion o’r un anian a dysgu mwy am yr hyn sydd gan ein Hysgol Gelf fendigedig yng Nghaerfyrddin i’w gynnig.   Byddwch yn cael defnydd llawn o’r cyfleusterau printio tecstilau. Byddai hwn yn gwneud anrheg fendigedig i unrhyw un sy’n dychwelyd i addysg, i unrhyw un sydd am ategu hobi neu os oes gennych chi ddiddordeb cyffredinol mewn tecstilau, ffasiwn neu fewnolion.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Wyneb i Wyneb
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
Dosbarth nos 10 wythnos

£100

Disgrifiad o'r Rhaglen

Trwy gyfres o weithdai byddwch chi’n adeiladu gwybodaeth a sgiliau mewn arwynebau wedi’u printio a’u haddurno. Byddwch chi’n datblygu syniadau dylunio o weithdai rhagarweiniol mewn lluniadu, gwneud marciau a chollage, ac yna cewch eich tywys drwy’r broses o brintio eich sgarff neu ddarn crog â llaw. Hefyd cewch y cyfle i ddysgu technegau gwnïo sylfaenol wrth ychwanegu addurniadau arwyneb a semau. 

Os oeddech chi dan 19 oed ar 1af Medi 2023 y gost fydd £25 yn unig.

Caiff deunyddiau sylfaenol eu darparu ond bydd eich tiwtor yn dweud wrthych am unrhyw ddeunyddiau ychwanegol y bydd angen i chi eu prynu eich hunan.

Mae lleoedd yn gyfyngedig ar bob cwrs er mwyn caniatáu digon o hyfforddiant un i un. Os yw cwrs yn llawn pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn a rhoddir gwybod i chi pan ddaw lle ar gael.

Caiff yr holl leoedd eu harchebu ar sail ‘cyntaf i’r felin’.

Cysylltwch â susan.hayward@colegsirgar.ac.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr.

Mwy o gyrsiau Celf a Dylunio

Chwiliwch am gyrsiau