Dysgu Digidol Uniongyrchol
Beth yw Dysgu Digidol Uniongyrchol?
O’r blaen learndirect oedd enw ein Dysgu Digidol Uniongyrchol, fodd bynnag mae’r coleg bellach wedi cynyddu’r ddarpariaeth gymunedol hon i gynnwys ystod ehangach o gyrsiau eDdysgu!
P’un a hoffech chi wella eich sgiliau cyflogadwyedd, neu gwblhau cwrs TG, mae gennym ystod o gyrsiau ar-lein hyblyg i weddu i’ch holl anghenion. Cyn i chi ddechrau, byddwn yn darganfod pam rydych chi am ddysgu ac yn awgrymu pa rai o’n cyrsiau sydd orau i chi. Caiff holl gyrsiau Dysgu Digidol Uniongyrchol eu cyrchu drwy’r rhyngrwyd, fodd bynnag mae ein dosbarthiadau a leolir yn y gymuned yn cynnwys cymorth wyneb yn wyneb hefyd.
Mae ein portffolio yn cynnwys dros 3000 o gyrsiau ar-lein, a thrwy ddefnyddio technoleg heddiw i gyflwyno dysgu trwy’r ffonau symudol, gliniaduron a’r rhyngrwyd, mae Dysgu Digidol Uniongyrchol yn chwalu’r rhwystrau i ddysgu y mae llawer o bobl yn eu hwynebu: diffyg amser, arian a ffitio o gwmpas y teulu ac ymrwymiadau eraill. Trwy ddysgu ar-lein gyda ni gallwch chi ddysgu ar amser, mewn lle ac ar gyflymdra sy’n gyfleus i chi.
Y cyrsiau mwyaf poblogaidd yw cyfrifiadura, sgiliau byw a chyflogadwyedd. Rydym yn darparu ar gyfer myfyrwyr o bob lefel a chaiff pob cwrs ei dorri i lawr yn ddarnau bach sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl ddysgu ar eu cyflymdra eu hunain.
Sut i wneud cais
I gael mwy o wybodaeth ar amrywiol gyrsiau ffoniwch 01554 748345 neu e-bostiwch ldd@colegsirgar.ac.uk