Skip page header and navigation

Sylfaen mewn Celf a Dylunio Lefel 3 / 4 (Cwrs Coleg, Mynediad Sylfaen)

  • Campws Aberystwyth
1 flwyddyn

Mae hon yn rhaglen fywiog sy’n eich annog i arbrofi a gwneud dewis mwy gwybodus ar gyfer eich astudiaethau ac ymarfer creadigol yn y dyfodol.

Trwy gynnig rhagflas o bob peth celf a dylunio bydd yn eich helpu i ddysgu mwy am eich doniau creadigol eich hun ac yn sicrhau, os ydych yn symud ymlaen i brifysgol, yna rydych chi’n gwneud dewis mwy sicr.

Mae’n gweithredu fel pont rhwng eich astudiaethau lefel tri (Safon Uwch a chyfwerth) a blwyddyn gyntaf gradd tra hefyd yn croesawu dysgwyr hŷn â chefndiroedd amgen. Gallwch archwilio ystod eang o sgiliau a fydd yn eich helpu i ddod yn feddyliwr ochrol, hyblyg wrth baratoi ar gyfer lle mewn addysg uwch a chyflogaeth.

Byddwch yn astudio mewn amgylchedd creadigol sy’n symbylu dyfeisgarwch, arbrofi a dadansoddi.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Byddwch yn archwilio amrywiaeth o feysydd cwricwlwm o fewn celf a dylunio cyn dewis pa lwybr arbenigol sy’n addas i’ch diddordebau personol chi.  Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau wrth weithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau a phrosesau a fydd yn eich helpu i gynhyrchu a datblygu syniadau a chanlyniadau.

Caiff eich astudiaethau eu cefnogi gan astudiaethau cyd-destunol ac yn ystod y rhain byddwch yn ymchwilio i ymarfer cyfoes a hanesyddol mewn celf a dylunio. Byddwch yn ennill mewnwelediad o syniadau a dulliau gwahanol ymarferwyr ac yn defnyddio eich ymchwil i lywio ac ysbrydoli eich ymarfer eich hun.

Cyfoethogir y dysgu gan weithdai a sgyrsiau oddi wrth artistiaid a dylunwyr ymweliadol ac mae yna nifer o deithiau i orielau celf trwy gydol y flwyddyn, yn lleol ac ymhellach i ffwrdd hefyd.

Mae’r stiwdios celf, mawr, pwrpasol yn caniatáu dosbarthiadau lluniadu’r byw yn ogystal â mannau unigol i alluogi datblygiad gweithgareddau arbenigol. Rhai o’r cyfleusterau sydd ar gael yw ystafell dywyll ffotograffiaeth, stiwdio oleuadau, gwasg brintio a chyfarpar sgrîn-brintio, peiriannau gwnïo, SLRs digidol, iPads, cyfrifiaduron Mac a mynediad i’r swît Adobe Creative.

Cyflwynir y rhaglen ar bedwar diwrnod yr wythnos (ar hyn o bryd dau ddiwrnod llawn a dau hanner diwrnod) am 35 wythnos ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu.

Caiff y cwrs ei gyflwyno mewn tri cham: Arbrofi, Arbenigo ac Arddangos. I ddechrau caiff myfyrwyr eu hannog i archwilio deunyddiau a ffyrdd o weithio mewn modd tra arbrofol, gan feithrin chwilfrydedd unigol a datblygu dealltwriaeth gysyniadol o gelf. O’r sail hon, bydd myfyrwyr yn dechrau datblygu arbenigedd o fewn disgyblaeth benodol o ymarfer celf, boed hynny’n ddylunio, celfyddyd gain, ffotograffiaeth ac ati, sy’n arwain at arddangosfa o waith yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Mae myfyrwyr yn symud ymlaen o’r cwrs Sylfaen i ystod o gyrsiau gradd mewn prifysgolion ledled y DU.   Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau ar lefel BA mewn disgyblaethau megis Celfyddyd Gain, Ffotograffiaeth, Graffeg, Darlunio, Pensaernïaeth a Chyfathrebu Ffasiwn.  Mae llwybrau dilyniant eraill yn cynnwys hunangyflogaeth a gweithio mewn amrywiol ddiwydiannau creadigol. Mae’r system diwtorial un-i-un yn galluogi rhoi sylw canolbwyntiedig ar ddilyniant unigolion y tu hwnt i’r cwrs.

Ceir pwyntiau asesu dynodedig trwy gydol y flwyddyn ar ôl cwblhau pob cam pryd y caiff gwaith cwrs ei asesu a’i ddilysu’n fewnol yn erbyn meini prawf graddio’r uned.   Ar ddiwedd y cwrs bydd safonwr o goleg celf arall yn ymweld, yn cytuno ar raddau gyda thiwtoriaid ac yn cwrdd â’r myfyrwyr.

Cymhwyster lefel tri (gwell pe bai’n ymwneud â chelf) a 5 TGAU graddau A* - C neu gyfwerth, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (Iaith gyntaf) neu Saesneg a mathemateg. Gellir derbyn myfyrwyr hŷn heb gymwysterau yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus a chyflwyniad o waith celf

Mae yna ffi o £60 ar gyfer deunydddiau.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol

Mwy o gyrsiau Celf a Dylunio

Chwiliwch am gyrsiau