Skip page header and navigation

Introduction

Neidia ‘Mlaen I’r Rhannau Da â Twf Swyddi Cymru+

Am ennill arian, bod yn annibynnol a chael dy droed ar yr ysgol yrfa?

Efallai dy fod yn chwilio am y swydd iawn neu am gymryd y camau nesaf ym myd addysg ac angen rhywfaint o help llaw.

Dyna lle gall Twf Swyddi Cymru+ dy helpu. Mae’n ffordd wych o roi hwb i dy hyder ac yn gyfle heb ei ail i ti gael blas ar waith a allai fod o ddiddordeb i ti. Bydd gen ti hefyd fynediad at hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi â thâl gyda chyflogwyr yn dy ardal.

• Rhwng 16-19 oed?
• Newydd adael yr ysgol?
• Di-waith?
• Neu’n ansicr am eich gyrfa yn y dyfodol?

Jobs Growth Wales logo - girl with sunglasses - text that says Fast Forward to the good bits with JobsGrowth Wales +

Bydd yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ yn dy helpu i benderfynu beth i’w wneud nesaf. Mae hefyd yn lle da i ddechrau os wyt ti angen rhagor o gymorth i gymryd rhan mewn cyflogaeth ac addysg.

Mae’n rhoi’r cyfle i ti gael blas ar swyddi a allai fod o ddiddordeb i ti cyn i ti ymrwymo i gwrs neu brentisiaeth. Bydd hefyd yn dy helpu i fod yn barod a symud ymlaen i’r byd gwaith.

Byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster Cyflogadwyedd.
Telir lwfans hyfforddiant o £30 a chostau teithio i chi fel bo’n briodol.

Angen cymwysterau neu gymorth pellach i gymryd dy gam nesaf?

Os oes gen ti swydd benodol neu lwybr gyrfa mewn golwg, bydd yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ yn dy helpu i wireddu hyn.

Galli di ennill sgiliau newydd yn y pwnc o’th ddewis, a chymwysterau i dy helpu i gamu ymlaen i lefel uwch.

Galli di hefyd gael profiad gwaith gyda chyflogwyr lleol. Efallai y byddi di hyd yn oed yn cael cyfweliad swydd go iawn ar ddiwedd dy brofiad gwaith - a bydd y cymorth y byddi di’n ei gael gan Twf Swyddi Cymru+ yn dy helpu i wneud argraff dda.

Telir lwfans hyfforddiant o £55 a chostau teithio i chi fel bo’n briodol.

apprenticeships@colegsirgar.ac.uk
01554 748616

  • Bydd hyn yn cynnwys dau ddiwrnod yn y Coleg yn astudio Trin Gwallt Lefel 1 a Chymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol. Hefyd byddwch yn mynychu tri diwrnod o brofiad gwaith mewn Salon.

  • Bydd hyn yn cynnwys tri diwrnod yn y Coleg yn astudio Adeiladu Lefel 1 a Chymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol. Hefyd byddwch yn ennill profiad gwaith ar safle am ddau ddiwrnod yr wythnos.

  • Bydd hyn yn cynnwys dau ddiwrnod yn y Coleg yn astudio Cerbydau Modur Lefel 1 a Chymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol. Hefyd byddwch yn ennill profiad gwaith mewn garej am dri diwrnod yr wythnos.

  • Bydd hyn yn cynnwys tri diwrnod yn y Coleg yn astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Gofal Plant Lefel 1 a Chymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol. Hefyd byddwch yn ennill profiad gwaith mewn lleoliad gofal plant am ddau ddiwrnod yr wythnos.

Angen rhywfaint o gymorth i gael gwaith?

Os wyt ti’n gwybod beth rwyt ti am ei wneud ac yn chwilio’n frwd ac yn barod i ddechrau gweithio, gall yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ dy helpu i gael swydd.

Mae’r elfen cyflogaeth yn caniatáu hyd at 10 wythnos o brofiad gwaith i chi gyda lwfans hyfforddiant o £55. Yna byddwch yn symud ymlaen i waith â thâl ar yr isafswm cyflog ar gyfer eich oedran, am uchafswm o chwe mis.

Bydd eich Ymgynghorydd Cymru’n Gweithio wedi nodi eich bod yn canolbwyntio ar alwedigaeth ac yn barod am swydd.

Bydd angen i chi fod yn:

  • Chwilio am waith

  • Dangos cymhelliant ac ymrwymiad

  • Meddu ar ddisgwyliadau realistig o ran ennill cyflogaeth

Gellir rhoi cymorth:

  • I fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau

  • Ar gyfer paratoi cysylltiedig â gwaith / Lleoliad gwaith

  • Sgiliau Hanfodol

Telir costau teithio i chi am hyd at 10 wythnos fel bo’n briodol.

I’r rhai sydd ei angen, mae cymorth ariannol a phersonol ychwanegol ar gael i dy helpu i gwblhau dy raglen Twf Swyddi Cymru+. Bydd meini prawf cymhwyster yn gymwys, a bydd ein cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn trafod dy amgylchiadau wrth iddyn nhw asesu dy anghenion.