Skip page header and navigation

Byddwch Yn Barod

  • Byddwch yn bresennol ym mhob gwers.
  • Byddwch yn brydlon i bob gwers.
  • Cymerwch ran lawn yn eich cwrs gan gynnwys tiwtorialau, cyfarwyddyd gyrfaol, ymweliadau, profiad gwaith ac unrhyw gymorth ychwanegol a drefnir ar eich cyfer.
  • Dewch â’r offer cywir ar gyfer pob gwers.
  • Anelwch at ragoriaeth ym mhopeth a wnewch.
  • Cwblhewch eich holl waith erbyn y terfynau amser cytunedig.
  • Gwnewch gynnydd yn erbyn unrhyw dargedau a gytunwyd ac a osodwyd.
  • Cydweithiwch â myfyrwyr eraill i gyflawni eich cyrchnodau.
  • Byddwch yn bresennol ym mhob arholiad / asesiad yr ydych wedi eich cofrestru ar eu cyfer.
  • Rhowch wybod am unrhyw absenoldeb trwy gysylltu â swyddfa eich campws cyn 10am ar bob dydd yr ydych yn absennol.
  • Defnyddiwch y cyfleusterau TG fel yr amlinellir yn y Polisi Defnydd TG Derbyniol yn unig.
  • Diffoddwch bob ffôn symudol mewn ardaloedd dysgu [h.y. ystafelloedd dosbarth neu ganolfannau adnoddau dysgu] oni bai eich bod wedi cael caniatâd y tiwtor a defnyddiwch eich ffôn symudol mewn ffordd briodol yn unig yn ardaloedd cyffredin y myfyrwyr.
  • Cadwch at y rheolau ymddygiad ar gludiant y coleg, ymweliadau addysgol ac mewn ardaloedd cyffredin fel llyfrgelloedd a ffreuturau.

Byddwch Yn Barchus

  • Dangoswch barch tuag at yr holl staff, myfyrwyr a’r gymuned leol wrth i chi ymwneud a siarad â nhw.
  • Parchwch ymrwymiad y Coleg i gydraddoldeb a pheidiwch â gwahaniaethu yn erbyn grwpiau neu unigolion.
  • Peidiwch â defnyddio iaith dramgwyddus.
  • Ysmygwch a fepiwch yn y cysgodfannau ysmygu/fêpio dynodedig yn unig.
  • Gwerthfawrogwch amgylchedd y coleg trwy beidio â gollwng sbwriel.
  • Peidiwch â difrodi dodrefn neu adeiladau’r coleg.
  • Dylech osgoi gwisgo dillad â sloganau neu logos tramgwyddus.

Byddwch Yn Ddiogel

  • Peidiwch â chymryd rhan mewn unrhyw weithred neu fygythiad o drais, bwlio, brawychu neu gam-drin geiriol.
  • Peidiwch â rhoi eich hun neu eraill mewn perygl o gael niwed.
  • Peidiwch â dod ag unrhyw eitemau y gellid eu hystyried yn arf i’r coleg neu i’r gwaith - er enghraifft cyllyll, drylliau.
  • Peidiwch byth â dod â chyffuriau neu alcohol i dir ac adeiladau’r coleg neu fod dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol.
  • Defnyddiwch y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel.
  • Cadwch eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr (ID) gyda chi bob amser pan fyddwch yn y coleg.