Tystysgrif AU mewn Ymarfer Celfyddyd Gain (CertHE)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Mae rhaglen y Radd Ymarfer Celfyddyd Gain yn unigryw o fewn Cymru oherwydd cyfleusterau’r ffowndri bwrpasol a’r stiwdio brintiau ddynodedig. Mae’r cwrs yn rhoi pwyslais ar arbrofi mewn amgylchedd stiwdio cyffrous wedi’i gefnogi gan weithdai arbenigol; gan archwilio’r gorffennol i lywio ymarfer cyfoes.
Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sydd yn flwyddyn gyntaf ein rhaglen radd sy’n canolbwyntio ar arferion celfyddyd gain. Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol yn eu pwnc dewisol, a’u dysgu.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hysgol gelf yn cynnig mannau gwaith unigol a gweithdai penodol i chi ar gyfer ffabrigo dur, cerfio carreg, coed, plastr, lluniadu’r byw, peintio, a stiwdio brintiau ar gyfer gwaith bloc pren, lithograffeg cerrig ac ysgythru. Mae’r adran yn cynnwys yr unig ffowndri yn y DU sy’n arbenigo mewn castio efydd, alwminiwm a haearn. Mae’r flwyddyn gyntaf wedi’i strwythuro o gwmpas ymchwilio seiliedig ar sgiliau i gerflunio, peintio, a gwneud printiau, gan ddysgu drwy brofiad ymarferol mewn amgylchedd diogel a chynhwysol. Mae’r holl fyfyrwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau lluniadau cynrychiadol drwy arsylwi’n agos ar fywyd llonydd a’r ffurf.
Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os oeddech yn dewis gwneud hynny.
Ar gwblhau’r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) rydym wedi cael myfyrwyr yn mynd ymlaen i fod yn artistiaid hunangyflogedig, cerflunwyr, cynorthwywyr artistiaid, entrepreneuriaid, dylunwyr golygfeydd, therapyddion celf, adeiladwyr set, gweithwyr sector cyhoeddus, addysgwyr, curaduron arddangosfeydd, beirniaid celf / newyddiadurwyr, ymchwilwyr, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), arloeswyr, dylunwyr ac ati.
Blwyddyn seiliedig ar sgiliau wedi’i chyflwyno drwy gyfres o weithdai, gan gynnwys, Modelu, Gwneud Moldiau a Chastio, Peintio, Theori Lliw a Chyfryngau Cymysg, Ffabrigo Dur, Cerfio mewn Coed a Charreg, Gwneud Printiau, Lluniadu, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesu ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Does dim ffioedd stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a’ch bod chi’n iawn ar gyfer y cwrs.