Skip page header and navigation

Lluniadu’r Byw (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
5.30pm i 8.30pm, 3 awr bob dosbarth, un noson x 10 wythnos = cyfanswm o 30 awr

Dewch draw a gadewch i’ch creadigrwydd lifo gyda phobl o’r un bryd mewn amgylchedd artistig a chyfeillgar yn Ysgol Gelf Caerfyrddin y coleg.

Yn addas ar gyfer dechreuwyr, cewch eich cyflwyno i, a byddwch yn  archwilio’r elfennau, deunyddiau a phrosesau ffurfiol drwy ymatebion unigol a mynegiannol i’r testun.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Wyneb i Wyneb
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
5.30pm i 8.30pm, 3 awr bob dosbarth, un noson x 10 wythnos = cyfanswm o 30 awr

£100

Disgrifiad o'r Rhaglen

Bydd tiwtoriaid yn eich cefnogi i ddatblygu gwahanol dechnegau ac ymagweddau tuag at y testun gan ddefnyddio model byw. Byddwch yn cael y cyfle i greu corff o luniadau o’r byw sy’n dangos gwybodaeth am sgiliau creadigol mewn perthynas â thechnegau lluniadu traddodiadol, i roi ymatebion creadigol mewn cyd-destun trwy ymchwil celf hanesyddol a diwylliannol hefyd.

Os oeddech chi dan 19 oed ar 1af Medi 2023 y gost fydd £25 yn unig.

Caiff deunyddiau sylfaenol eu darparu ond bydd eich tiwtor yn dweud wrthych am unrhyw ddeunyddiau ychwanegol y bydd angen i chi eu prynu eich hunan.

Mae lleoedd yn gyfyngedig ar bob cwrs er mwyn caniatáu digon o hyfforddiant un i un. Os yw cwrs yn llawn pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn a rhoddir gwybod i chi pan ddaw lle ar gael.

Caiff yr holl leoedd eu harchebu ar sail ‘cyntaf i’r felin’.

Cysylltwch â susan.hayward@colegsirgar.ac.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr.

Mwy o gyrsiau Celf a Dylunio

Chwiliwch am gyrsiau