Safonau’r Iaith Gymraeg.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod fframwaith cyfreithiol er mwyn cyflwyno dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau ymddygiad ar y Gymraeg.
Mae’r dyletswyddau sy’n deillio o’r safonau yn golygu dylai sefydliadau beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ynghyd â hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg sef ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
Pwrpas y safonau yw:
- ei gwneud hi’n eglur i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau o ran y Gymraeg
- ei gwneud hi’n fwy eglur i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg
- sicrhau mwy o gysondeb o ran gwasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd
Mae’n rhaid i Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion gydymffurfio â Safonau yn y meysydd canlynol:
- Cyflenwi Gwasanaethau
- Llunio Polisi
- Gweithredu
- Cadw Cofnodion
Bydd y Safonau hyn yn weithredol o’r 1af o Ebrill 2018. Ceir copi o’r Safonau sydd yn berthnasol i Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion isod:
Cwynion
Os oes gennych unrhyw gwynion ynghylch y defnydd o’r Gymraeg yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, cysylltwch â ni ar:
Gwybodaeth Bellach
Os hoffech fwy o wybodaeth am y Safonau, cysylltwch â:
Jan Morgan, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell