Cyflwyniad i Wniadwaith (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Ydy’r tueddiadau diweddaraf mewn gwneud dillad yn eich ysbrydoli neu a ydych yn chwilfrydig ynghylch llunio dillad? Efallai eich bod am ddysgu sut i wireddu dyluniadau neu rydych chi am ddysgu sut i wneud ychydig yn fwy gyda’ch diddordeb mewn llunio gwisgoedd.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Wyneb i Wyneb
- Saesneg
£100
Disgrifiad o'r Rhaglen
Gan weithio mewn ardal stiwdio gyfeillgar gyda grwpiau bychain, byddwch yn dysgu popeth sydd ei angen arnoch i allu gwneud dillad o batrymau masnachol.
Bydd y cwrs gwniadwaith hwn yn datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth o osod allan a thorri patrymau gwniadwaith i bwytho dilledyn gorffenedig.
Os oeddech chi dan 19 oed ar 1af Medi 2023 y gost fydd £25 yn unig.
Caiff deunyddiau sylfaenol eu darparu ond bydd eich tiwtor yn dweud wrthych am unrhyw ddeunyddiau ychwanegol y bydd angen i chi eu prynu eich hunan.
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar bob cwrs er mwyn caniatáu digon o hyfforddiant un i un. Os yw cwrs yn llawn pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn a rhoddir gwybod i chi pan ddaw lle ar gael.
Caiff yr holl leoedd eu harchebu ar sail ‘cyntaf i’r felin’.
Cysylltwch â susan.hayward@colegsirgar.ac.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr.