Skip page header and navigation

Safon Uwch

Gyda dros 30 o bynciau ar gael, mae astudio Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr yn ffordd hynod hyblyg o ddatblygu eich addysg.

Bydd y gallu i astudio pynciau lluosog yn eich galluogi i arbenigo yn eich meysydd diddordeb neu i gadw eich opsiynau ar agor os nad ydych wedi penderfynu ar eich llwybr yn y dyfodol.  Bydd astudio Safon Uwch gyda ni yn eich galluogi i deilwra eich profiad i’ch cryfderau a’ch uchelgeisiau, gan sicrhau bod eich amser yn y coleg mor foddhaus ag y mae’n werth chweil.

Yn naturiol, gall astudio Safon Uwch arwain at astudiaethau israddedig yn y brifysgol, gyda 85-90% o’n myfyrwyr ar gyfartaledd yn dewis y llwybr hwn bob blwyddyn.   Fodd bynnag, nid addysg uwch yw’r unig opsiwn.   Bydd astudio Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr yn eich helpu i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau ac ymchwil annibynnol, sydd i gyd yn rhinweddau hanfodol mewn unigolion cyflawn sy’n gwneud ceisiadau llwyddiannus am brentisiaethau cystadleuol a swyddi.  

Mae 6ed Sir Gâr, ein cyfadran Safon Uwch, wedi’i leoli ar gampws y Graig.   Mae ein staff gwybodus a phrofiadol yn ymrwymedig i gefnogi pob dysgwr i gyflawni ei botensial.   Yn ystod eich amser gyda ni, bydd tiwtoriaid yn eich helpu i lywio’r pontio o’r ysgol i’r coleg a’ch paratoi i gymryd eich camau nesaf yn hyderus, p’un a ydych yn dewis parhau â’ch gweithgareddau academaidd neu gymryd y camau cyntaf i fyd gwaith. 

Os ydych chi’n meddwl bod Safon Uwch yn 6ed Sir Gâr yn opsiwn i chi, dewch lawr i gampws y Graig ar un o’n nosweithiau agored, cewch sgwrsio am opsiynau pwnc gyda’n tiwtoriaid cyfeillgar a llenwi ffurflen gais.  Gyda’n gilydd gallwn agor drysau i fyd o gyfleoedd.

Astudio Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

01
Mae gan 6ed Sir Gâr staff arbenigol, profiadol sy'n cyflwyno'r holl bynciau a gynigir ar gyfer Safon Uwch.
02
Rydym yn ymfalchïo yn ein hagwedd feithringar a gofalgar. Gwerthfawrogwn y gall y pontio o’r ysgol i’r coleg fod yn anodd.
03
Cymorth arbenigol i baratoi ar gyfer eich llwybrau yn y dyfodol boed hynny i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, prifysgolion grŵp Russell, prentisiaethau neu fenter a chyflogadwyedd.

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

Sir Gar 6 logo
  1. Astudio Addysg Uwch mewn Prifysgolion, gan gynnwys Caergrawnt

  2. Ennill Prentisiaethau mewn cwmnïau mawreddog gan gynnwys KPMG (Un o’r ‘pedwar cwmni cyfrifyddu mawr’)

  3. Gyrfaoedd llwyddiannus mewn meddygaeth, y gyfraith, gwyddoniaeth  

Courses

Myfyriwr benywaidd yn dewis llyfr o silff llyfrgell.

Sut i ddewis eich cyrsiau coleg

Gall gwneud penderfyniadau ynghylch eich pynciau neu fath o gymwysterau deimlo’n llethol, yn enwedig pan fydd yn teimlo y gallai eich dewisiadau nawr ddylanwadu ar eich dyfodol.  Ond peidiwch â phoeni, cynlluniwyd y dudalen hon i’ch helpu i rannu’r broses yn gamau a’i gwneud mor ddi-straen â phosibl.