Diploma Sylfaen mewn Celf, Dylunio a'r Cyfryngau Lefel 3/4 (Cwrs Prifysgol, Cwrs Coleg)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Mae celf a dylunio yn cynnig sianel unigryw ar gyfer hunanfynegiant ac mae’n helpu unigolion i gyfleu eu meddyliau, eu hemosiynau a’u syniadau mewn ffyrdd gweledol sy’n ysgogol ac arloesol.
Mae ein rhaglen fywiog yn cynnig profiad diagnostig sy’n eich annog i arbrofi a gwneud dewisiadau gwybodus ar gyfer astudiaethau ac ymarfer creadigol yn y dyfodol.
Mae’n gweithredu fel pont rhwng eich astudiaethau lefel tri (Safon Uwch a chyfwerth) a blwyddyn gyntaf gradd. Gallwch archwilio ystod eang o sgiliau a fydd yn eich helpu i ddod yn feddyliwr ochrol, hyblyg wrth baratoi ar gyfer lle mewn addysg uwch a chyflogaeth.
Byddwch yn astudio mewn amgylchedd creadigol sy’n symbylu dyfeisgarwch, arbrofi a dadansoddi. Caiff y rhaglen ei dysgu yn Ysgol Gelf Caerfyrddin y coleg sy’n ganolbwynt creadigrwydd a chewch hefyd eich gofod stiwdio eich hun i wneud gwaith prosiect.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Byddwch yn archwilio pob maes cwricwlwm o fewn celf a dylunio cyn dewis pa lwybr arbenigol sy’n addas i’ch diddordebau personol chi. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau wrth weithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau a phrosesau a fydd yn eich helpu i gynhyrchu a datblygu syniadau a chanlyniadau.
Bydd ein darlithoedd astudiaethau cyd-destunol yn cefnogi eich astudiaethau. Mae’r elfen gyffrous hon o’r cwrs yn helpu i gynyddu eich hyder i feddwl yn greadigol a beirniadol, myfyrio personol a gwybodaeth bynciol o arferion hanesyddol a chyfoes.
Cyflwynir y rhaglen bum diwrnod yr wythnos am 35 o wythnosau ac nid oes ffioedd dysgu.
Rhennir y rhaglen yn dri cham:
Cam Un: Rydych chi’n mynychu ystod o weithdai i’ch cyflwyno i brosesau a ffyrdd o weithio.
Cam Dau: Rydych chi’n dewis ac yn dilyn eich llwybr arbenigol dewisol; i’ch cefnogi i adeiladu portffolio sy’n briodol i’ch cwrs astudio mewn addysg uwch neu gyflogaeth.
Cam Tri: Rydych chi’n aros o fewn eich llwybr arbenigol dewisol ond mae’r pwyslais ar uchelgais, unigoliaeth ac annibyniaeth. Byddwch yn cynnig ac yn datblygu eich arddangosfa diwedd y flwyddyn.
Bydd tiwtoriaid lefel gradd ac arbenigwyr pwnc yn eich dysgu, y mae gan y rhan fwyaf ohonynt eu hymarfer eu hunain a gallant rannu eu profiadau gyda chi. Byddwn yn eich helpu i adeiladu portffolio pwnc-benodol a bydd defnyddio cyfleusterau arbenigol yn eich cyflwyno i ffyrdd o weithio er mwyn paratoi ar gyfer astudio gradd neu fynd ymlaen i gyflogaeth.
Mae llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i brifysgolion ledled y DU neu’n dewis symud ymlaen yn uniongyrchol i raglenni gradd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, y byddwch chi’n gymwys i gael bwrsariaeth dilyniant mewnol o £1000 ar eu cyfer.
Rhaid i chi basio’r holl feini prawf ar bob cam i symud ymlaen i gamau dilynol.
Asesir unedau yn fewnol. Byddwch hefyd yn creu prosiect mawr terfynol a gaiff ei gymedroli’n allanol gan CBAC. Bydd y canlyniad yn rhoi gradd diploma derfynol o ragoriaeth, teilyngdod neu pas.
Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf a dylunio i’w cyfweliad. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs feddu ar: Gymhwyster Lefel 3 (gwell pe bai’n ymwneud â chelf) a 5 TGAU graddau A* - C neu gyfwerth, sy’n cynnwys naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith gyntaf) a mathemateg. Gellir derbyn myfyrwyr hŷn heb gymwysterau yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus a chyflwyniad o waith celf.
Mae yna ffi stiwdio o £150 ar gyfer y cwrs hwn. Bydd hyn yn darparu deunyddiau sylfaenol i chi ddatblygu gwaith ymarferol yn ein gweithdy a’n cyfleusterau stiwdio. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.