Tystysgrif AU mewn Celf Gysyniadol a Darlunio (CertHE)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Celf gysyniadol yw cynrychiolaeth weledol syniadau, dyluniadau a chysyniadau yng nghamau cynnar prosiect creadigol sy’n gwasanaethu fel offeryn archwilio gweledol a chyfathrebu.
Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein rhaglenni gradd. Bydd y cwrs yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol yn eu pwnc dewisol a dysgu amdanynt.
Datblygwyd y cwrs newydd a chyffrous hwn mewn ymateb i’r diwydiannau creadigol ehangol sy’n dylanwadu ar ein byd heddiw. Os oes gennych ddiddordeb mewn dylunio gemau a dylunio cysyniad cymeriad, dylunio amgylchedd ar gyfer ffilm neu ddarluniad mae ein cwrs Tystysgrif Addysg Uwch mewn Celf Gysyniadol a Darlunio yn fan cychwyn perffaith i chi.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei hawyrgylch ‘deuluol’, a’i pholisi drws agored. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail.
Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Caiff myfyrwyr fynediad i gyfleusterau rhagorol gydag ystafelloedd cyfrifiadurol o safon uchel gyda’r fersiynau diweddaraf o feddalweddd safon y diwydiant (gan gynnwys Adobe Suite, Zbrush, Blender ac Autodesk). Hefyd mae adnoddau blaengar sy’n cynnwys cyfrifiaduron Apple Macintosh o’r radd flaenaf, Microsoft Surface Studio a Wacom Cintiq. A gyda dosbarthiadau bach, caiff myfyrwyr ddigon o fynediad i’r cyfleusterau hyn.
Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Datblygu Iaith Weledol, Delweddu: Cysyniad a Phroses, Prosesau Digidol ac Ymarfer Digidol Creadigol, Darlunio Digidol Creadigol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.
Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os byddwch yn dewis gwneud hynny.
Ar ôl cwblhau’r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3), mae yna dwf aruthrol yn y byd celf gysyniadol a darlunio, gyda chyfleoedd niferus mewn diwydiant amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys swyddi yn y maes gemau, animeiddio a ffilm, gyda marchnadoedd posibl eraill megis darlunio ar gyfer llyfrau, comics, a meysydd eraill niferus sy’n gofyn am ymgeiswyr sydd â sgiliau lluniadu cryf a chreadigrwydd.
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.
Dylai myfyrwyr rhan-amser wneud cais drwy system ymgeisio’r coleg.
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a’ch bod chi’n iawn ar gyfer y cwrs.
Does dim ffi stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.