Ymadawyr Ysgol 16-18

Introduction
Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion mae gennych amrywiaeth o opsiynau o ran y math o gymhwyster y gallwch wneud cais amdano.
- Mae Safon Uwch yn rhoi’r cyfle i chi astudio nifer o bynciau gwahanol ar yr un pryd, byddwch yn dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn bennaf a chewch eich asesu ar waith cwrs a chanlyniadau arholiadau.
- Mae cyrsiau galwedigaethol yn eich paratoi ar gyfer gyrfa o’ch dewis. Maen nhw’n cyfuno cymysgedd o waith theori a dysgu ymarferol a gallant gynnwys peth profiad gwaith.
- Mae prentisiaethau’n ffordd o ennill arian wrth ennill cymwysterau hefyd. Byddwch yn dysgu yn y swydd, gydag un diwrnod yr wythnos yn y coleg i’w ategu.

Sut i ddewis eich cyrsiau
Gall gwneud penderfyniadau ynghylch eich pynciau neu fath o gymwysterau deimlo’n llethol, yn enwedig pan fydd yn teimlo y gallai eich dewisiadau nawr ddylanwadu ar eich dyfodol. Ond peidiwch â phoeni, cynlluniwyd y dudalen hon i’ch helpu i rannu’r broses yn gamau a’i gwneud mor ddi-straen â phosibl.