Skip page header and navigation

Sut i wneud cais am gwrs

1. I wneud cais am gwrs, bydd angen i chi ddod o hyd i’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, ar wefan y coleg, a chlicio ar y botwm Gwneud Cais.
2. Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru gyda’r coleg, bydd angen i chi Greu cyfrif, a fydd yn caniatáu i chi olrhain eich cais.
    • Defnyddiwch gyfeiriad e-bost personol, ac nid cyfeiriad e-bost ysgol. Pan fyddwch yn creu eich cyfrif, byddwch yn creu eich cwestiwn atgoffa cyfrinair eich hun, ac ateb, rhag ofn y byddwch yn anghofio eich cyfrinair yn y dyfodol.
    • Os oes gennych chi gyfrif Prospect eisoes, ond ni roddwyd mewngofnodiad coleg i chi eto, yna gallwch chi ddefnyddio mewngofnodiad eich cyfrif Prospect (eich e-bost personol fel arfer) a’ch cyfrinair i fewngofnodi. 
    • Os ydych chi’n fyfyriwr yn y coleg ar hyn o bryd, a rhoddwyd manylion eich cyfrif coleg i chi, ac mae gennych gyfrif Google coleg actif, byddwch yn gallu mewngofnodi i Prospect (system ymgeisio’r coleg), gan ddefnyddio eich e-bost coleg, a chyfrinair eich e-bost coleg, gan ddefnyddio’r ddolen “Cliciwch yma i fewngofnodi gyda’ch cyfrif Google coleg” ar dudalen fewngofnodi Prospect.
  • Beth yw fy Enw Mewngofnodi Prospect?

    Dangosir eich mewngofnodiad Prospect ar yr holl gyfathrebiadau a gewch gan y coleg.  Fel arfer, hwn fydd y cyfeiriad e-bost personol rydych wedi ei gofrestru gyda ni.   Os ydych yn ansicr o hyd, yna gallwch gysylltu â ni yma - admissions@colegsirgar.ac.uk

    Sut ydw i’n ailosod fy nghyfrinair Prospect?

    Gallwch ailosod eich cyfrinair Prospect yma - https://apply.colegsirgar.ac.uk/ResetPassword.

    Dylech roi eich cyfeiriad e-bost personol, ac yna clicio ar cyflwyno.  Os deuir o hyd i’r e-bost personol rydych wedi’i roi, yna anfonir e-bost atoch gyda dolen i ailosod eich cyfrinair. Os nad ydych yn derbyn yr e-bost, yna cysylltwch â ni yma - admissions@colegsirgar.ac.uk.

3. Ar sgriniau ymgeisio’r coleg, rhaid cwblhau unrhyw feysydd sydd wedi’u nodi â seren (*). Gallwch gadw eich cynnydd gyda chais, a mynd yn ôl ato yn nes ymlaen, os dymunwch. Fodd bynnag, dylech nodi bod rhai o’n cyrsiau’n gallu llenwi’n gyflym.
4. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, fe welwch neges gadarnhau, a dylech dderbyn e-bost cadarnhau.

Os oes cyfweliadau ar gael i chi eu bwcio, gofynnir i chi ddewis un. Os nad oes cyfweliadau ar gael bryd hynny, anfonir e-bost atoch yn eich gwahodd i drefnu cyfweliad, wrth i slotiau cyfweliadau ddod ar gael, ar gyfer eich cwrs.

Bydd y coleg yn cysylltu â chi trwy e-bost, galwadau ffôn a negeseuon testun, felly sicrhewch fod eich manylion cyswllt yn gywir, ac yn gyfredol.

    • Fy Nhudalen Hafan - Cynnydd y Cais, bwcio cyfweliadau, Dewisiadau Pynciau UG (os yn berthnasol), Derbyn Cynigion ac ati
    • Manylion Personol - Manylion cyswllt, manylion cyfeiriad, Dewisiadau o ran yr Iaith Gymraeg, Cyfle Cyfartal, Cymorth sydd ei angen mewn cyfweliad, cwestiwn gwneud cais am gludiant
    • Fy Ngheisiadau - Rhestr o’ch ceisiadau cyfredol
    • Fy Nghynigion - Rhestr o unrhyw gynigion rydych wedi’u derbyn (os oes rhai yn bodoli)
    • Fy Nghymwysterau - y cymwysterau rydych wedi’u rhoi, yn ystod y broses ymgeisio
    • Fy Nhystiolaeth - Unrhyw ddogfennau rydych wedi’u llwytho i fyny  
    • Fy Nghyfathrebiadau - Manylion sylfaenol unrhyw e-byst a gynhyrchwyd gan y system rydych wedi’u derbyn.
    • Fy Niogelu Data - Unrhyw drefniadau diogelu data neu gytundebau dysgwyr a nodir gan y coleg
    • Fy Anghenion Cymorth - Manylion unrhyw wybodaeth ADY rydych wedi’i rhoi
    • Fy Manylion Meddygol - Manylion unrhyw gyflyrau meddygol / iechyd / iechyd meddwl rydych wedi’u rhoi