Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Ydych chi’n ffotograffydd brwdfrydig, yn mwynhau cipio eiliadau arbennig neu archwilio delweddau haniaethol neu draddodiadol ond am fynd ychydig bach ymhellach gyda’ch sgiliau?
Bydd y cwrs rhagarweiniol hwn yn cynnig y cyfle i chi greu cyfres o ddelweddau gyda chefnogaeth tiwtor creadigol a fydd yn ennyn eich diddordeb angerddol a’ch dawn am ffotograffiaeth.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Wyneb i Wyneb
£90
Disgrifiad o'r Rhaglen
Yn ogystal bydd yn cynnig y cyfle i chi archwilio gwahanol themâu bob wythnos ac yn dysgu ystod o osodiadau a thechnegau camera i chi i helpu gyda’ch proses greadigol.
Mae golygu delweddau hefyd yn rhan o’r cwrs gan ddefnyddio Adobe Photoshop yn ogystal ag ennill gwybodaeth o sut i gadw delweddau ar storfa’r cwmwl ac USB.
Pan fyddwch yn cwblhau’r cwrs byddwch yn mynd adref gyda phortffolio unigryw o ddelweddau newydd sbon.
Os oeddech chi dan 19 oed ar 1af Medi 2023 y gost fydd £25 yn unig.
Caiff deunyddiau sylfaenol eu darparu ond bydd eich tiwtor yn dweud wrthych am unrhyw ddeunyddiau ychwanegol y bydd angen i chi eu prynu eich hunan.
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar bob cwrs er mwyn caniatáu digon o hyfforddiant un i un. Os yw cwrs yn llawn pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn a rhoddir gwybod i chi pan ddaw lle ar gael.
Caiff yr holl leoedd eu harchebu ar sail ‘cyntaf i’r felin’.
Cysylltwch â susan.hayward@colegsirgar.ac.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr.