Tystysgrif Addysg Uwch Cerameg (CertHE)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Mae’r cwrs cerameg hwn yn golygu dysgu drwy wneud ac arbrofi gyda deunyddiau. Cyflwynir gweithdai ymarferol, sy’n dysgu prosesau traddodiadol a chyfoes mewn cerameg i grwpiau bach, lle mae myfyrwyr yn archwilio eu syniadau a’u potensial dylunio trwy broses cerameg fynegiannol, dylunio a gwneud.
Mae’r cymhwyster lefel pedwar annibynnol hwn yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol yn eu pwnc dewisol a’u dysgu.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei hawyrgylch ‘deuluol’, a’i pholisi drws agored. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. Mae’r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar grefft a sgil. Byddwch yn cael eich man gwaith unigol eich hun a mynediad i weithdai cerameg pwrpasol. Mae’r rhain yn cynnwys mannau pwrpasol ar gyfer castio slip a gwaith plastr, castio, taflu, labordy gwydro, amrywiaeth helaeth o odynau nwy a thrydan, raku a chyfleusterau tanio mewn pydew a thechnoleg argraffu decal ceramig a metel o’r radd flaenaf.
Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Prosesau a Chynnyrch Cerameg, Ymchwilio i Ddefnyddioldeb, Datblygu Iaith Weledol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.
Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os byddwch yn dewis gwneud hynny.
Ar ôl cwblhau’r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) y swyddi sydd ar gael yw dylunydd gwneuthurwr 3D annibynnol, artist neu ddylunydd cerameg, crochenydd stiwdio, gwneuthurwr modelau ar gyfer theatr a ffilm, artist cymhwysol, addysgwr, curadur arddangosfeydd, gweinyddwr celfyddydau, gweithiwr celf cymunedol, therapydd celf, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), arloeswr ac ati.
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a’ch bod chi’n iawn ar gyfer y cwrs.
Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.