Tystysgrif AU mewn Gemwaith (CertHE)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Mae dylunio gemwaith yn broses greadigol gyffrous sy’n rhoi boddhad ac sy’n eich galluogi i gyfuno estheteg, crefftwaith, a mynegiant personol i greu darnau o waith celf unigryw y gellir eu gwisgo.
Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein Rhaglenni Gradd. Bydd y cwrs yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol yn eu pwnc dewisol a dysgu amdanynt.
Yn ystod y flwyddyn astudio gyntaf, caiff myfyrwyr y cyfle i archwilio sgiliau ymarferol sy’n amrywio o ffurfio metel, ffabrigo, torri â laser, enamlo a chastio. Ochr yn ochr â hyn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithdai lluniadu a ystyrir yn hanfodol i ddatblygiad sgiliau dylunio ac arsylwi. Byddant hefyd yn datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol fanwl a gwybodus am y maes gemwaith.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei hawyrgylch ‘deuluol’, a’i pholisi drws agored. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. Mae’r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar grefft a sgil. Byddwch yn cael eich man gwaith unigol eich hun a mynediad i weithdai cerameg a gemwaith pwrpasol. Mae’r rhain yn cynnwys mannau pwrpasol ar gyfer ffabrigo gemwaith, enamlo a chastio metel, torri â laser a thechnoleg argraffu decal metel o’r radd flaenaf.
Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os byddwch yn dewis gwneud hynny.
Ar ôl cwblhau’r radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) mae’r gyrfaoedd sydd ar gael yn cynnwys gemydd annibynnol, artist neu ddylunydd, dylunydd cyfwisgoedd, artist cymhwysol, addysgwr, curadur arddangosfeydd, prynwr adwerthu, gweinyddwr celfyddydau, gweithiwr celf cymunedol, therapydd celf, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), arloeswr ac ati.
Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Ymchwilio i Ddefnyddioldeb, Proses a Delweddu, Enamel, Ffurf ac Arwyneb, Datblygu Iaith Weledol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a’ch bod chi’n iawn ar gyfer y cwrs.