Skip page header and navigation

Academi Chwaraeon

Academi Chwaraeon Coleg Sir Gâr

Introduction

Os yw chwaraeon yn rhan fawr o’ch bywyd ac rydych yn gweithio tuag at lwyddiant yn eich maes, yna bydd ymuno â’r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr yn eich helpu i gyflawni’r uchelgeisiau hynny, gan eich cadw hefyd ar y trywydd iawn i gael y canlyniadau academaidd gorau. 

Mae ein Hacademi Chwaraeon ar flaen y gad oherwydd ei chyflawniadau rhyfeddol ac rydym yn falch o fod wedi meithrin llawer o athletwyr sydd wedi cyrraedd y brig o ran llwyddiant. Ymysg ein cyn-fyfyrwyr enwog mae sêr y Llewod sef Josh Adams a Gareth Davies, y seiclwraig sy’n Bencampwr y Byd sef Emma Finucane, a Ffion Lewis, chwaraewraig flaenllaw yn nhîm rygbi rhyngwladol menywod Cymru.

Two female student athletes playing football.
Two people in Team GB sports kit racing on a tandem bike in a velodrome.
Student in sports kit pushing a sled in the gym.

Mae ein Hacademi wedi’i chynllunio’n unigryw i integreiddio hyfforddiant chwaraeon yn ddi-dor â’ch astudiaethau academaidd, gan roi cyfle cytbwys i chi ragori yn y ddau faes.   Wrth wraidd ein cenhadaeth mae ymrwymiad i lunio athletwyr ifanc yn unigolion o safon, gan sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i ffynnu yn eich gyrfaoedd chwaraeon.   Ond nid rhagoriaeth athletaidd yw unig nod ein fframwaith, rydym yn blaenoriaethu llwyddiannau academaidd hefyd ac wedi creu amgylchedd cyfannol ar gyfer myfyrwyr-athletwyr.

Felly, p’un a yw eich dawn yn perthyn i chwaraeon tîm fel pêl-rwyd, pêl-droed, a rygbi, neu chwaraeon unigol fel athletau, beicio, bocsio, triathlon, traws gwlad, neu chwaraeon eraill, mae ein rhaglen gynhwysfawr yn cynnig y gefnogaeth gadarn sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i ymdopi yn y coleg wrth geisio rhagoriaeth chwaraeon.

Fel aelod o’r Academi Chwaraeon bydd gennych fynediad i amrywiaeth o gyfleusterau i helpu eich datblygiad, gan gynnwys cae chwarae 3G o’r radd flaenaf sy’n sicrhau cyfleusterau hyfforddi trwy gydol y flwyddyn mewn amodau tywydd amrywiol.  Yn ogystal, mae gennym gyfleuster codi pwysau a chyflyru sy’n arwain y sector a gynlluniwyd i fodloni gofynion athletwyr elit, ochr yn ochr â champfa a  swît gwyddor chwaraeon.   Caiff y cyfleusterau hyn eu hategu gan neuadd chwaraeon, sy’n cynnig gofod amlddefnydd ar gyfer llu o chwaraeon a gweithgareddau dan do. 

Byddwch hefyd yn elwa ar y partneriaethau cryf rydym wedi’u meithrin â sefydliadau nodedig, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru (URC), y Scarlets, Clwb Pêl-droed Llanelli, clwb codi pwysau Llanelli, Colegau Cymru, ac AoC Sport. 

Felly, os hoffech chi ymuno ag academi chwaraeon Coleg Sir Gâr ac anelu at ragoriaeth mewn chwaraeon a gwaith academaidd hefyd, llenwch y ffurflen isod neu galwch heibio i ymweld â ni ar un o’n diwrnodau agored.