Skip page header and navigation

Cyflwyniad i Wneud Printiau (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
5.30pm i 8.30pm, 3 awr bob dosbarth, un noson x 10 wythnos = cyfanswm o 30 awr

Hoffech chi greu a bod yn berchen ar bortffolio o’ch gwaith print unigryw eich hun gan ddefnyddio technegau intaglio a cherfweddol?

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i chi greu corff o waith print ar lefel ragarweiniol mewn technegau traddodiadol o wneud printiau.

Archwiliwch ddeunyddiau a phrosesau trwy ymatebion unigol a mynegiannol i ddelweddau gwreiddiol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
5.30pm i 8.30pm, 3 awr bob dosbarth, un noson x 10 wythnos = cyfanswm o 30 awr

£90

Disgrifiad o'r Rhaglen

Bydd myfyrwyr yn arbrofi i ganfod llwybr ymholi personol a chrynhoi tystiolaeth o ymchwil mewn deunyddiau, artistiaid, technegau a datblygiad syniadau.

Caiff portffolio o waith ei adeiladu drwy gydol y cwrs ar gyfer ei gymryd adref ar gwblhau.

Cynhelir y cwrs yn Ysgol Gelf Caerfyrddin y coleg sy’n gampws cyfeillgar ac anffurfiol sy’n addysgu pob peth yn ymwneud â chelf a dylunio.

Os oeddech chi dan 19 oed ar 1af Medi 2023 y gost fydd £25 yn unig.

Caiff deunyddiau sylfaenol eu darparu ond bydd eich tiwtor yn dweud wrthych am unrhyw ddeunyddiau ychwanegol y bydd angen i chi eu prynu eich hunan.

Mae lleoedd yn gyfyngedig ar bob cwrs er mwyn caniatáu digon o hyfforddiant un i un. Os yw cwrs yn llawn pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn a rhoddir gwybod i chi pan ddaw lle ar gael.

Caiff yr holl leoedd eu harchebu ar sail ‘cyntaf i’r felin’.

Cysylltwch â susan.hayward@colegsirgar.ac.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr.

Mwy o gyrsiau Celf a Dylunio

Chwiliwch am gyrsiau