Ysgol Gelf Caerfyrddin
Treftadaeth.
Treftadaeth.
Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin wedi bod yn darparu addysg Gelf ers 1854, fel un o’r Ysgolion Celf cyntaf i gael eu sefydlu ym Mhrydain yn dilyn yr Arddangosfa Fawr yn y Palas Grisial yn Llundain. Byth ers hynny mae’r Ysgol wedi bod yn datblygu’n barhaus, wrth ymateb i ddatblygiadau cymdeithasol, creadigol a diwylliannol ac anghenion newidiol ei myfyrwyr, y diwydiant a’r gymuned ehangach. Mae ein treftadaeth yn bwysig i ni ac mae hyn yn dylanwadu ar ethos ein Hysgol.
Ethos.
Mae’r Ysgol yn gymuned gyfeillgar, ddynamig a chreadigol sydd ag awyrgylch ‘Ysgol Gelf’ go iawn; ac sydd yn adnabyddus am ei diwylliant cynhwysol a’i pholisi drws agored ar draws adrannau. Rydym yn adnabod ein myfyrwyr ac yn ymdrechu i ddatblygu eu hunigoliaeth. Mae ein dull yn un cytbwys, gan ein bod yn cefnogi myfyrwyr wrth eu herio ar yr un pryd.
Gwledig.
Rydym yn wledig, gan ein bod wedi ein lleoli yn un o siroedd harddaf Cymru ond eto mae gennym lu o gysylltiadau ym myd celf a dylunio; mae gennym gysylltiadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol trwy brosiectau byw, digwyddiadau, cystadlaethau, ymweliadau addysgol, alumni a chysylltiadau â diwydiant. Caiff ein graddau Celf a Dylunio eu dilysu gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Siop Gelf y Pensil.
Mae Siop Gelf y Pensil Lwcus yn rhan annatod o’n hysgol gelf ac yn adnodd ar gyfer ein myfyrwyr. Mae wedi’i lleoli yn Ysgol Gelf Caerfyrddin ar Gampws Heol Ffynnon Job Coleg Sir Gâr Mae’r siop gelf yn cadw amrywiaeth eang o ddeunyddiau celf, crefft a dylunio arbenigol o ansawdd uchel sy’n addas ar gyfer ystod eang o gymwysiadau, o bensiliau, siarcol, llyfrau braslunio, papur mewn dewis o bwysau, i baent acrylig, olew a dyfrlliw ar gyfer yr artistiaid cain, i offer ar gyfer y ceramegydd, y cerflunydd a’r gemydd a llawer, llawer mwy!
Mae Laura Thomas, artist sefydledig tecstilau wedi’u gwehyddu a darlithydd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, wedi ennill aur yn Eisteddfod genedlaethol 2024.
Gwnaeth Will Matthews, myfyriwr sylfaen celf a dylunio, argraff ar y panel a’r cyhoedd yng ngwobrau celf Osi Rhys Osmond gan ennill y wobr gyffredinol a dewis y bobl.
Treuliodd bron i 30 o fyfyrwyr celf a dylunio o Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr dridiau ym Merlin yn archwilio diwylliant yr Almaen a phob dim creadigol.