Celf a Dylunio Lefel 3 (Cwrs Coleg)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r cwrs celf a dylunio lefel tri hwn gan Gorff Dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yn darparu cyfle delfrydol i’r myfyrwyr hynny sydd â diddordeb yn y celfyddydau gweledol i archwilio, datblygu ac ehangu eu brwdfrydedd creadigol o fewn strwythur cymhwyster sydd yn ysgogol, yn ymestynnol ac sy’n helpu darparu proses bontio gefnogol o addysg bellach i addysg uwch.
Caiff y cwrs ei gyflwyno dros ddwy flynedd a bydd cynnwys y cwrs yn sicrhau y bydd yn dysgu i chi’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i gyrsiau gradd addysg uwch lefel pedwar, neu gyfleoedd addysg a hyfforddiant eraill.
Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn archwilio ystod o ddisgyblaethau a phrosesau celf a dylunio a fydd yn llywio eich dewis o arbenigedd yn yr ail flwyddyn.
Yn yr ail flwyddyn byddwch yn datblygu prosiect mawr o fewn y ddisgyblaeth o’ch dewis ac yn cynhyrchu portffolio gweledol sy’n addas ar gyfer ceisiadau am raddau celf a dylunio arbenigol a chyfleoedd gwaith.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o ddatblygiad sgiliau, arbrofi a symbyliad ar draws ystod o ddisgyblaethau.
Ei nod yw rhoi cipolwg i chi ar ymwybyddiaeth feirniadol a chyd-destunol yn ogystal â dealltwriaeth o ystod o ddulliau a sgiliau priodol i ddatrys problemau creadigol cymhleth a chyflwyno gwaith i gynulleidfaoedd priodol. Mae hyn yn ei dro yn eich helpu i nodi’r maes penodol o fewn celf a dylunio rydych chi am arbenigo ynddo.
Mae sylwadau tiwtor a chymheiriaid yn rhoi modd i adfyfyrio’n effeithiol a phriodol ar sgiliau, dulliau, gweithredoedd a chanlyniadau eich gwaith. Mae hyn yn eich annog i gymryd perchnogaeth o’ch dysgu eich hun, eich datblygiad a gwneud penderfyniadau.
Ym mlwyddyn un mae’r cwrs yn cynnwys naw uned sy’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau celf, dylunio a chrefft, gan gynnwys gwaith 2D, 3D a gwaith seiliedig ar amser, ymchwil, ymwybyddiaeth gyd-destunol, sgiliau datblygiad creadigol a sgiliau dilyniant.
Ym mlwyddyn dau cwblheir pedair uned arall i gyflawni’r diploma estynedig lefel tri. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Tystysgrif Her Sgiliau neu Sgiliau Hanfodol ynghyd ag uned iaith Gymraeg a sgiliau cyflogadwyedd.
Bydd cwblhau’r cwrs Diploma Estynedig lefel tri yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch sy’n cynnwys ystod eang o raddau mewn amrywiaeth o bynciau creadigol, ac mae’n darparu’r sgiliau a all arwain at gyfleoedd addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth eraill mewn amrywiaeth eang o alwedigaethau. Mae llawer o’n myfyrwyr yn dewis mynd ymlaen yn uniongyrchol i’n rhaglenni gradd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, y byddwch chi’n gymwys i gael bwrsariaeth dilyniant mewnol o £1,000 ar eu cyfer.
Caiff pob uned ei hasesu’n fewnol a’i dilysu’n fewnol ac eithrio’r prosiectau mawr terfynol, sy’n cael eu cymedroli’n allanol gan y Corff Dyfarnu, Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL).
Asesir pob uned ar waith portffolio’r myfyriwr. Yn ychwanegol at hyn, mae unedau’r prosiect mawr terfynol hefyd yn gorffen gydag arddangosfa sy’n cael ei hasesu.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf, crefft a dylunio i’w cyfweliad. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y Diploma Estynedig Lefel 3 feddu ar: 5 TGAU graddau A* - C, sy’n cynnwys naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel 2 yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol. Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Mae yna ffi stiwdio o £150 y flwyddyn ar gyfer y cwrs hwn a fydd yn darparu deunyddiau sylfaenol i chi ddatblygu eich gwaith ymarferol yn ein gweithdy a’n cyfleusterau stiwdio.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.