Datganiad Hygyrchedd
Introduction
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn ymroddedig i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.csgcc.ac.uk
Nodweddion Hygyrchedd
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio. Rydym yn cymryd cyngor ganddynt er mwyn gwella ein hygyrchedd.
Mae ychwanegu Alt Text yn orfodol er mwyn lanlwytho delwedd i’r wefan.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd yr elfennau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd:
- WCAG 2.4.2
Mae rhai dogfennau trydydd parti y mae’n rhaid i ni eu cael ar-lein am resymau cyfreithiol/arfer gorau (er enghraifft, ein hadroddiadau Perfformiad) ar fformat PDF ac efallai na fyddant yn gwbl hygyrch. Yn anffodus, ni allwn newid na thynnu’r dogfennau hyn yn ôl oherwydd deddfwriaeth anghyson.
Archwilio a phrofi
Rydyn ni wedi gosod yr estyniad porwr Axe Accessibility er mwyn i ni allu profi a gwella tudalennau yn rheolaidd, wrth iddynt gael eu hadeiladu neu eu diweddaru.
Byddwn yn cynnal archwiliad hygyrchedd blynyddol i sicrhau bod y wefan yn parhau i gydymffurfio.
Mae staff sy’n cynnal y wefan yn mynychu hyfforddiant hygyrchedd a chynadleddau er mwyn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am arfer gorau.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 14/10/2024.
Paratowyd y datganiad hwn mewn ymateb i wefan newydd sy’n mynd yn fyw.
Adolygu
Caiff y datganiad hwn ei adolygu a’i ddiweddaru ar ddiwedd 2025.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, neu os oes gennych unrhyw adborth ar hygyrchedd presennol gwefan Coleg Sir Gâr, cysylltwch ag Admissions@colegsirgar.ac.uk
01554 748000
Byddwn yn adolygu’r cais ac yn cysylltu â chi gyda datrysiad o fewn 10 diwrnod gwaith.
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych yn hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).