Cyflwyniad i Gerflunio (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Yn ystod y cwrs 10 wythnos hwn, dangosir hanfodion cerflunio cyfryngau cymysg i egin gerflunwyr o bob gallu, mewn amgylchedd cyfeillgar a llawn hwyl.
Ar hyd y cwrs bydd yna arddangosiadau ymarferol a bydd cyfle i bob un ohonoch weithio gydag ystod o ddeunyddiau’n cynnwys clai, plastr, pren, cardbord, ac yn y blaen.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Wyneb i Wyneb
- Saesneg
£100
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gan ddilyn rhaglen a gynlluniwyd yn ofalus byddwch yn cael y cyfle i weithio tuag at greu darn unigol o waith cerflunio sy’n ymgorffori unrhyw themâu neu gysyniadau sydd o ddiddordeb i chi.
Trwy drafodaethau deinamig gyda’r tiwtor a chymheiriaid, byddwch yn datblygu eich gallu i ddarllen cerflunio wrth ddatblygu syniadau fydd yn arwain at greu darn o gelfyddyd gerfluniol.
Cynhelir y cwrs yn adran gerflunio Ysgol Gelf Caerfyrddin y coleg lle mae pob peth creadigol yn digwydd ar draws y campws.
Os oeddech chi dan 19 oed ar 1af Medi 2023 y gost fydd £25 yn unig.
Caiff deunyddiau sylfaenol eu darparu ond bydd eich tiwtor yn dweud wrthych am unrhyw ddeunyddiau ychwanegol y bydd angen i chi eu prynu eich hunan.
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar bob cwrs er mwyn caniatáu digon o hyfforddiant un i un. Os yw cwrs yn llawn pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn a rhoddir gwybod i chi pan ddaw lle ar gael.
Caiff yr holl leoedd eu harchebu ar sail ‘cyntaf i’r felin’.
Cysylltwch â susan.hayward@colegsirgar.ac.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr.