BA (Anrh) Dylunio 3D ac Animeiddio (Cwrs Prifysgol)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Mae’r cwrs Dylunio 3D ac Animeiddio hwn yn rhaglen sydd wedi datblygu o dechnolegau datblygol mewn diwydiant creadigol sy’n esblygu’n barhaus. Mae’r cwrs yn annog myfyrwyr i archwilio syniadau arloesol a modernaidd tra’n ennill sgiliau cyfunol mewn celf, dylunio a thechnoleg. Bydd yna ffocws ar gipio, creu ac allbynnu modelau ac amgylcheddau 3D digidol, gan ganolbwyntio’n benodol ar lwyfannau Realiti Rhithwir. Gyda phwyslais ar sgiliau, mae’r cwrs yn canolbwyntio ar hanfodion dylunio 3D trwy amrywiaeth o brosiectau ymarferol sy’n cynnwys modelu 3D, animeiddio 3D, realiti rhithwir a realiti estynedig; gan greu canlyniadau ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau cyfoes. Mae’r defnydd o’r sgiliau yn niferus, o greu asedau ar gyfer y diwydiant gemau fideo a VFX i ail-adeiladu digidol ar gyfer y sector treftadaeth.
Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r amser cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. Mae’r rhaglen yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu portffolio o waith dylunio 3D sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Caiff myfyrwyr fynediad i gyfleusterau rhagorol gydag ystafelloedd cyfrifiadurol o safon uchel gyda’r fersiynau diweddaraf o feddalwedd safon y diwydiant ac adnoddau blaengar gan gynnwys cyfarpar Realiti Rhithwir, sganiwr laser 3D llaw, cyfarpar ffotogrametreg a chamerâu 360 proffesiynol. A gyda dosbarthiadau bach, caiff myfyrwyr ddigon o fynediad i’r cyfleusterau hyn.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Caiff myfyrwyr fynediad i gyfleusterau rhagorol gydag ystafelloedd cyfrifiadurol o safon uchel gyda’r fersiynau diweddaraf o feddalwedd safon y diwydiant ac adnoddau blaengar gan gynnwys cyfarpar Realiti Rhithwir, sganiwr laser 3D llaw, cyfarpar ffotogrametreg a chamerâu 360 proffesiynol. A gyda dosbarthiadau bach, caiff myfyrwyr ddigon o fynediad i’r cyfleusterau hyn.
Bydd y flwyddyn olaf yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich gwaith mewn arddangosfa diwedd blwyddyn.
Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac astudiaeth annibynnol.
Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso’r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy’n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.
Mae’r sector 3D yn ffynnu ar hyn o bryd, wedi’i danio gan ddatblygiadau mewn technoleg a’r llwyfannau sy’n tyfu’n wastadol lle gellir rhoi cyd-destun i’r sgiliau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys y diwydiant chwarae gemau cyfrifiadurol; Ffilm/Teledu; delweddu pensaernïol; treftadaeth; argraffu 3D; hysbysebu; peirianneg; darlunio a llawer mwy.
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Gweithdrefnau dethol
Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein drwy UCAS. Ein cod Sefydliad UCAS yw C22 a chod y cwrs yw W290. Gwneir cynigion yn seiliedig ar y cais UCAS, graddau disgwyliedig (os yw’n berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a’ch bod chi’n iawn ar gyfer y cwrs. Oherwydd datblygu perthynas â chi o’r cychwyn cyntaf, mae ein cyfraddau tynnu’n ôl yn fach iawn. Rydym yn ymdrechu’n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.
Mae croeso i ymgeiswyr hŷn sydd â phrofiad blaenorol perthnasol ac fe’u hystyrir ar sail unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.
Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.
Nod y Fframwaith hwn yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth bwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credyd fesul lefel ar hyd eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae modiwlau’r Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a dangos tystiolaeth, o ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar yrfaoedd sy’n gysylltiedig â’ch maes pwnc chi. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gallu digidol, ymchwil a rheoli prosiect, yn ogystal â’r fath gymwyseddau personol â chyfathrebu, creadigrwydd, hunanfyfyrio, gwytnwch a datrys problemau.
Dewch i wybod mwy am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion