Mynediad i Addysg Uwch - Celf a Dylunio (Cwrs Coleg)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Rhaglen lefel 3 yw hon sydd yn rhoi cyfle i chi astudio celf a dylunio mewn ffyrdd archwiliol, ymchwiliol ac arbrofol.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt o bosibl unrhyw gymwysterau ffurfiol blaenorol, ond sydd mewn cyfweliad portffolio yn arddangos brwdfrydedd, ymrwymiad i gelf a dylunio, a bod ganddynt y potensial i gwblhau’r cwrs a gwneud cais am le ar gyrsiau gradd creadigol.
Yn draddodiadol, mae’r rhaglen yn cynnwys ystod amrywiol o grwpiau oedran ac anogir chi i ddatblygu eich sgiliau creadigol a thechnegol trwy ddarlithoedd, gweithdai a phrosiectau.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae cynnwys y rhaglen yn cwmpasu lluniadu, peintio, astudiaethau dylunio 2D / 3D a Hanes Celf; unedau sydd yn darparu ymwybyddiaeth gyffredinol, gwybodaeth a dealltwriaeth o gelf, dylunio a’i gyd-destunau.
Mae’r unedau Celf yn golygu gweithio’n uniongyrchol o arsylwi i ddatblygu sgiliau dadansoddol, cofnodi a chyfansoddol y byddwch yn eu cymhwyso i waith creadigol, personol o fewn ystod o ddisgyblaethau.
Cyflwynir y rhaglen gan dím o ymarferwyr ac mae’n cynnwys arbenigeddau mewn celfyddyd gain 2D, cerameg, tecstilau a chreadigrwydd digidol. Ynghyd á phrosiect mawr terfynol, mae’r unedau hyn yn rhoi sail gadarn mewn Celf a Dylunio ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i Lefel 4.
Mae’r cwrs Mynediad i Addysg Uwch: Celf a Dylunio yn cwmpasu cyfres o unedau gwerth cyfanswm o 60 credyd sy’n cynnwys unedau craidd ac academaidd sy’n orfodol.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys sgiliau astudio craidd gan gynnwys cyfathrebu, sgiliau meddwl a pharatoi portffolio.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys sgiliau astudio craidd gan gynnwys Sgiliau Academaidd, Sgiliau Meddwl ac Astudiaethau Cyd-destunol.
Rydych yn cyflwyno gwaith ar gyfer ei asesu ar ddiwedd pob uned astudio. Caiff pob uned arbenigol ei graddio. Mae’r gwaith yn ddarostyngedig i ddilysu mewnol ac allanol.
Mae yna ffi stiwdio o £150.00 ar gyfer y cwrs hwn, a bydd hyn yn darparu deunyddiau sylfaenol i chi ar gyfer datblygu gwaith ymarferol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf, crefft a dylunio i’w cyfweliad.
Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad. Er nad yw’n ofyniad mynediad, mae’n fuddiol cael TGAU mewn mathemateg a Saesneg. Mae lefel dda o lythrennedd yn hanfodol.