Skip page header and navigation

Academi Theatr Gerdd

Students learning dance choreography
group of students in colourful costumes performing suessical the musical

P’un a ydych yn breuddwydio am ganu, dawnsio, neu actio ar lwyfan, mae Academi Theatr Gerdd Coleg Sir Gâr yn cynnig hyfforddiant ymarferol gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant, cyfleusterau blaengar, a chymuned fywiog o gyd-berfformwyr. Dyma’ch cyfle i droi eich angerdd yn yrfa, gyda chyfleoedd i berfformio mewn cynyrchiadau byw i ddatblygu eich sgiliau mewn amgylchedd cefnogol.  Byddwch yn dysgu arferion dawns mewn amrywiaeth o arddulliau o’ch hoff sioeau, yn mireinio eich galluoedd lleisiol, yn meistroli coreograffi, ac yn dod â chymeriadau’n fyw ar y llwyfan. Wrth y llyw mae Hayley Gallivan, gweithiwr proffesiynol yn y West-End gyda chydnabyddiaethau fel Elphaba yn Wicked (Apollo Theatre), a Martha yn Spring Awakening (Novello Theatre), gan gynnwys eu perfformiad aduno yn Victoria Palace, Llundain.

Bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd perfformio ychwanegol, a fydd yn cynnwys clyweliadau, gyda chastio yn cael ei bennu gan arddull y darn.  Fel rhan o raglen yr Academi Theatr Gerdd, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiol weithdai gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant megis Jack Philp Dance a Linzi Richards Dance. Cânt fynediad i ystafelloedd ymarfer o safon broffesiynol, gan gynnwys y stiwdio ddawns llawr crog, mur drychau, barrau bale, Swît Ffitrwydd yr Efail a Theatr yr Efail. Dyma lle mae eich angerdd yn cwrdd â rhagoriaeth broffesiynol!

Os ydych chi’n hoff o berfformio, camwch i’r sbotolau!  I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: hayley.brooks@colegsirgar.ac.uk 

Academi Gerddoriaeth

Mae’r Academi Gerddoriaeth yn cynnig gweithgareddau allgyrsiol ardderchog i’n dysgwyr. Cynhelir academïau ‘Jazz’ a ‘Band’ bob prynhawn Mercher. Mae amrywiaeth ein hacademïau yn caniatáu i fyfyrwyr gyflawni eu huchelgeisiau ym mha ddisgyblaeth bynnag y byddant yn dewis ei dilyn.

Mae’r Academi Gerddoriaeth yn darparu rhaglen gyfoethogi amrywiol sy’n ategu datblygiad cerddorol parhaus. Caiff myfyrwyr y cyfle i weithio o fewn stiwdios recordio byw’r coleg yn ogystal â defnyddio’r meddalwedd a thechnoleg fwyaf diweddar.  Hefyd caiff myfyrwyr y cyfle i berfformio mewn digwyddiadau Rhanbarthol a Chenedlaethol a’u hyfforddi gan ymarferwyr proffesiynol y diwydiant a chymryd rhan yng nghystadleuaeth Sgiliau’r DU.

Bob blwyddyn rydym yn cael sgyrsiau a gweithdai fel rhan o raglen yr Academi Gerddoriaeth a gyflwynir gan gerddorion sy’n enwog yn rhyngwladol yn ogystal â chyn-fyfyrwyr Coleg Sir Gâr.

Myfyriwr yn canu i feicroffon.Student singing into a microphone.

Côr

Mae Côr Coleg Sir Gâr yn ymfalchïo yn ei enw da sy’n ehangu’n gyflym yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt, ac mae’n cael ei wahodd yn aml i berfformio mewn digwyddiadau clodfawr.  Mae’r côr, sy’n cael ei gyfarwyddo gan arbenigwyr yn y diwydiant, yn cwrdd bob prynhawn dydd Mercher ac mae’n agored i fyfyrwyr ar draws y coleg cyfan o’r holl lefelau a meysydd astudio.

Mae’r repertoire yn bennaf yn cynnwys Theatr Gerdd Gyfoes gyda ffocws ar harmonïau agos a pherfformiad egni uchel, corfforol trwy gân. Yn ogystal, mae caneuon Cymraeg yn ein repertoire safonol.

Os hoffech wneud ffrindiau newydd a datblygu sgiliau newydd mewn amgylchedd hwyliog a chreadigol, efallai mai’r Côr yw’r ateb ac rydym yn croesawu pob myfyriwr!

Côr mewn du yn canu mewn theatr wedi'i goleuo'n dda