Skip page header and navigation

Introduction

Fel myfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rydych chi’n aelodau o Undeb y Myfyrwyr yn awtomatig. Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu manteisio’n llawn ar bopeth sydd gennym i’w gynnig,
gan gynnwys digwyddiadau coleg, cynrychiolaeth myfyrwyr a gwybodaeth am fywyd myfyrwyr.

Ein gwaith ni yw gwneud yn siŵr eich bod yn cael profiad gwych yn ystod eich amser yn y coleg a bod myfyrwyr yn cael eu cynrychioli’n llawn a’u safbwyntiau’n cael eu clywed. Er mwyn eich cynrychioli’n
iawn fel dysgwyr, mae’n bwysig ein bod yn cael ein cyfarwyddo gan eich syniadau a’ch profiadau chi.

Etholir tîm o swyddogion bob blwyddyn trwy etholiadau electronig lle caiff yr holl fyfyrwyr y cyfle i bleidleisio i’w Llywydd ac Is-lywyddion ym mis Mai. Yn dilyn hynny swyddogion rhyddid megis LGBTQ+,
Swyddog Menywod ac ati ym mis Hydref. Mae’r swyddogion a etholir yn cynrychioli myfyrwyr ar draws yr holl gampysau ac yn aelodau o amrywiol bwyllgorau lle caiff eu lleisiau eu clywed.

Mae llais y myfyrwyr yn rhan annatod o lwyddiant y coleg ac mae hwn yn llwyfan ardderchog i fyfyrwyr helpu i lywio’r coleg i ysbrydoli dysgwyr, cyflawni potensial ac ennill rhagoriaeth. 

Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei feddwl trwy gysylltu ag un o’ch swyddogion myfyrwyr etholedig, cynrychiolwyr cwrs neu Lywydd Undeb y Myfyrwyr trwy anfon e-bost i Undeb y Myfyrwyr yn studentu@colegsirgar.ac.uk