Prentisiaethau - Gwybodaeth i gyflogwyr
Pam cyflogi prentis?
Cynllunnir prentisiaethau o gwmpas anghenion eich busnes a gallant helpu i drawsffurfio eich sefydliad trwy gynnig llwybr i fachu talent newydd ffres. Gall fod yn gyfle i uwchsgilio aelod presennol o’r staff neu gyflogi aelod newydd sbon o’r tîm i ymuno â’ch gweithlu.
Mae prentisiaid yn ennill cyflog wrth iddynt ddysgu. Pan fyddwch chi’n cyflogi prentis, rydych yn cefnogi ei ddatblygiad trwy ganiatáu iddo hyd at 20% o’i oriau gwaith ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith yn y coleg. Mae hyn yn sicrhau ei fod yn ennill y cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer ei broffesiwn tra’n darparu gweithlu medrus i chi hefyd.
Os ydych chi’n dewis ailhyfforddi aelodau o’ch staff neu gyflogi prentis, gall helpu gyda:
- Lleihau costau busnes
- Datblygu gweithlu medrus proffesiynol
- Darparu cyfleoedd i ehangu eich busnes
- Gwella cynhyrchiant
- Meithrin talent i wella eich gwasanaethau
- Rhoi hwb creadigol i’ch busnes
- Adeiladu sylfeini busnesau cryfach
- Ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
Cysylltu â ni
Angen help?
Cysylltwch â’n Tîm Prentisiaethau i drafod yr opsiynau a all gefnogi eich anghenion cyflogaeth yn y dyfodol.
- Ffoniwch ein tîm cyfeillgar - 01554 748000
- Ebost apprenticeship@colegsirgar.ac.uk