Skip page header and navigation

Cyflwyniad i Cerameg (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
5.30pm i 8.30pm, 3 awr bob dosbarth, un noson x 10 wythnos = cyfanswm o 30 awr

Dychmygwch eich hun ar droell crochenydd yn creu darnau unigryw o grefftwaith neu’n adeiladu â llaw eich darnau eich hun o gerameg i fynd adref gyda chi.

Gall y cwrs hwn gynnig y rhyddid creadigrwydd hwnnw i chi ynghyd â digon o gefnogaeth gan eich tiwtor mewn grwpiau bach. Dysgu hanfodion sgiliau gwneuthur y ceramegydd, mewn amgylchedd cyfeillgar a meithriniol yn stiwdio gerameg bwrpasol Ysgol Gelf Caerfyrddin.

Yn addas ar gyfer dechreuwyr, bydd y cwrs hwn yn agor i fyny cyfle i chi fynegi eich hun gyda phobl o’r un anian ar gampws sy’n addysgu holl ddisgyblaethau celf a dylunio yn unig.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Wyneb i Wyneb
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
5.30pm i 8.30pm, 3 awr bob dosbarth, un noson x 10 wythnos = cyfanswm o 30 awr

£100

Disgrifiad o'r Rhaglen

Oherwydd y galw, rydyn ni wedi ychwanegu dosbarth nos cerameg ychwanegol cyffrous mewn creu llestri cerameg gwydrog i ddilyn ymlaen o’n cwrs poblogaidd cyflwyniad i gerameg.  Byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a enillwyd ar y cwrs cyflwyniad i gerameg, ac yn dysgu’r hanfodion mewn dylunio ac ymchwil ceramig, llunio, torchi, slipiau, technegau gwydro, gwydreddau, slipiau ac ocsidau, rhoi gwydredd; dipio a chwistrellu.

Gan ddefnyddio ein stiwdios cerameg pwrpasol, bydd y nifer yn y dosbarth yn fach i ganiatáu digon o hyfforddiant un i un.

Mae lleoedd yn gyfyngedig ar bob cwrs er mwyn caniatáu digon o hyfforddiant un i un. Os yw cwrs yn llawn pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn a rhoddir gwybod i chi pan ddaw lle ar gael.

Cysylltwch â susan.hayward@colegsirgar.ac.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr.

Mwy o gyrsiau Celf a Dylunio

Chwiliwch am gyrsiau