Dwyieithrwydd
Introduction
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i ddatblygu eu darpariaeth a’u hethos dwyieithog. Rydym yn hyrwyddo dwyieithrwydd ac yn annog ein holl fyfyrwyr i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn unigryw i Gymru ac yn bwysig iawn i ni fel coleg.
Gall pawb sy’n byw yng Nghymru fod yn falch o’r iaith, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ei siarad hi eu hunain. Mae’r iaith yn perthyn i bawb sy’n byw yma ac mae buddion addysgol, cyflogadwyedd a chymdeithasol o fod yn gallu siarad dwy iaith.
Gallwch fod yn rhan o ddau ddiwylliant a mwynhau’r amrywiaeth o idiomau, dywediadau, hanes, barddoniaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a thraddodiadau. Mae siarad Cymraeg, hyd yn oed ar lefel sylfaenol iawn, yn wych ar gyfer eich CV a gallai agor drysau i bob math o gyfleoedd i chi yn y dyfodol.
Bellach mae llawer o swyddi yng Nghymru yn gofyn am y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg hefyd, felly gallai astudio’n ddwyieithog roi mantais i chi pan fyddwch chi’n chwilio am waith. Mae eich sgiliau dwyieithog yn werthfawr iawn a dylech fanteisio ar y cymorth y gallwn ei roi i chi yn y coleg i ddatblygu’r sgiliau hynny ymhellach. Gallwn ni eich helpu i wella eich cyfleoedd gyrfaol trwy ganiatáu i chi astudio ystod o gyrsiau’n ddwyieithog, yn enwedig ym meysydd pwnc blaenoriaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Astudiaethau Ar Dir a Chwaraeon.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n ein cefnogi i greu cyfleoedd hyfforddi a dysgu yn Gymraeg i ysbrydoli dysgwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu buddsoddiad a’u cefnogaeth.
Cyfleoedd
Mae llawer o gyfleoedd i ddefnyddio a dathlu’r Gymraeg ar draws y Coleg, er enghraifft:
- Lleoliadau profiad gwaith a phrentisiaethau yn Gymraeg
- Cyfarwyddyd ar ble i ddod o hyd i gyrsiau dysgu Cymraeg lleol
- Astudio rhan o’ch cwrs yn Gymraeg neu’n ddwyieithog
- Mynychu sesiynau sgiliau ‘Cymraeg ar gyfer y Gweithle’
- Ailsefyll eich TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf
- Gweithgareddau cyfoethogi Cymraeg fel siaradwyr ymweliadol, gemau, ymweliadau
- Cyfleoedd dilyniant i gyrsiau cyfrwng Cymraeg Addysg Uwch
- Digwyddiadau dwyieithog trawsgolegol i ddathlu ein treftadaeth Gymreig a’n diwrnodau gwyliau e.e. Diwrnod Shwmae, Dydd Santes Dwynwen, Dydd Miwsig Cymru, Dydd Gŵyl Dewi, Rygbi’r Chwe Gwlad, yr Eisteddfod Genedlaethol, cystadlaethau a digwyddiadau chwaraeon Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru.
Dysgu a Gwella dy Gymraeg
Mae siarad Cymraeg, hyd yn oed ar lefel sylfaenol iawn, yn wych ar gyfer eich CV a gallai agor drysau i bob math o gyfleoedd i chi yn y dyfodol.
Bellach mae llawer o swyddi yng Nghymru yn gofyn am y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg hefyd, felly gallai astudio’n ddwyieithog roi mantais i chi pan fyddwch chi’n chwilio am waith.
Mae eich sgiliau dwyieithog yn werthfawr iawn a dylech fanteisio ar y cymorth y gallwn ei roi i chi yn y coleg i ddatblygu’r sgiliau hynny ymhellach. Gallwn eich helpu i wella eich cyfleoedd gyrfa drwy ganiatáu i chi:
- Astudio ystod o gyrsiau yn ddwyieithog
- Datblygu eich sgiliau iaith
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg
Gall dysgwyr gael mynediad i diwtorialau yn Gymraeg, cwblhau asesiadau neu aseiniadau drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae llawer o unedau y gellir eu hastudio yn Gymraeg neu’n ddwyieithog. Bydd astudio eich cwrs galwedigaethol yn ddwyieithog yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer y gweithle a bydd yn rhoi ystod ehangach o opsiynau i chi pan fyddwch yn gadael y Coleg.
Oeddech chi’n gwybod bod y rheiny sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog, ar gyfartaledd, yn ennill cyflog uwch? Mae arolygon cyflogwyr yn dangos bod prinder gweithwyr gyda Sgiliau Iaith Gymraeg, a pha swydd bynnag yr ewch amdani yng Nghymru, gallwch fod yn siŵr y bydd gallu siarad Cymraeg yn eich rhoi gam ar y blaen mewn cyfweliad. Gall gweithiwr sy’n siarad Cymraeg fod yn werthfawr iawn i fusnes a gall helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’w gwsmeriaid.
Mae manteision eraill yn cynnwys:
Darllen – mae pobl ddwyieithog yn rhoi mwy o bwyslais ar ystyr geiriau yn hytrach na’u sain. Gall hyn helpu gyda’u darllen. Mae ymchwil yn dangos y gall deall dwy iaith i lefel uchel fod o fudd i’r ymennydd.
Meddwl yn greadigol – mae gan berson dwyieithog o leiaf ddau air ar gyfer popeth a dau gysyniad gwahanol. Mae hyn yn golygu y gall person dwyieithog feddwl am bethau’n fwy hyblyg.
Sensitifrwydd – mae angen i bobl ddwyieithog wybod pa iaith i siarad â phwy a phryd. O ganlyniad, gallant ddatblygu mwy o sensitifrwydd i anghenion gwrandawyr na phobl sy’n siarad un iaith yn unig.
Dysgu a Gwella dy Gymraeg
- Cystadlaethau Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru a digwyddiadau chwaraeon
- Cymorth gan diwtor personol sy’n siarad Cymraeg
- Adnoddau dwyieithog
- Sesiynau Bitesize Cymraeg ar gyfer y Gweithle
- Gwersi sgiliau iaith Gymraeg i gefnogi cyflogadwyedd (ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Gwasanaethau Cyhoeddus)
- Yr opsiwn i ysgrifennu eich aseiniadau ac ymgymryd ag asesiadau ac arholiadau yn Gymraeg (lle mae cyrff Dyfarnu Arholiadau yn caniatáu)
- Gweithgareddau cyfoethogi Cymraeg - siaradwyr ymweliadol, gemau, ymweliadau
- Cyfle i ennill eich sgiliau hanfodol yn ddwyieithog neu’n Gymraeg
- Cymorth un-i-un i gwblhau gwaith yn Gymraeg neu’n ddwyieithog
- Cyfarwyddyd ar ddefnyddio apiau i helpu gydag astudio dwyieithog
- Siarad yr iaith mewn lleoliadau anffurfiol ar draws y coleg (cadwch lygad allan am y rheiny sy’n gwisgo’r symbol oren Cymraeg ar eu laniardau) a dechreuwch eich sgyrsiau gyda’r Gymraeg yn gyntaf bob amser.