Skip page header and navigation

PLA

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg ac i weithio o amgylch anghenion busnes a chyflogaeth, y nod yw uwchsgilio’r gweithlu mewn meysydd y nodwyd bod eu hangen yn rhanbarthol.

  • Hyfforddiant a chymwysterau rhan-amser, hyblyg, wedi’u hariannu’n llawn
  • Symud ymlaen yn eich gyrfa
  • Newid sector cyflogaeth
  • Gwella eich rhagolygon cyflogaeth trwy gadw eich rôl neu sicrhau gwell cyflogaeth

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.


Yn ogystal, rhaid i chi fod:
●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
●    yn hunangyflogedig neu
●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
●    nid yw eich cyflog sylfaenol blynyddol yn mynd dros £32,371.
 

Ni allwch gael PLA os nad ydych yn bodloni un o’r meini prawf hyn, os ydych mewn addysg lawn amser, yn ymgymryd â rhaglen brentisiaeth neu’n ddi-waith ar hyn o bryd. Gallwch gysylltu â ni o hyd i gael cyngor ynglŷn â pha gyllid arall sydd ar gael ar bdi@colegsirgar.ac.uk

Cyllid ReAct+

Os cawsoch eich gwneud yn ddi-waith neu eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallech chi fod yn gymwys i gael cymorth wedi’i deilwra er mwyn eich helpu i gael cyflogaeth, cyn gynted â phosibl.