Skip page header and navigation

Introduction

Rydym eisiau i’n HOLL fyfyrwyr fod yn ddiogel a rhoi gwybod i ni os ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw mewn perygl o gael niwed. Mae gennym bolisïau clir iawn ar Amddiffyn Plant ac Amddiffyn oedolion
sy’n Agored i Niwed.

Mae hyn yn golygu, os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael niwed neu mewn perygl o gael niwed, rydyn ni am i chi ddweud wrth aelod o staff.

Yn yr achos hwn gall niwed olygu cam-drin corfforol (cael eich taro), cam-drin geiriol (cael eich bwlio neu fygwth), cam-drin ariannol (rhywun yn cymryd eich arian) neu gam-drin rhywiol. 

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi, neu rywun rydych yn ei adnabod mewn perygl o gael niwed, DYWEDWCH WRTH AELOD O STAFF.

Bydd staff yn trin unrhyw beth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol, nid yw hyn yn golygu y gallant ei gadw’n gyfrinachol oherwydd efallai y bydd angen iddynt ei adrodd wrth aelod o staff a enwir sy’n gyfrifol am ddiogelu, ond ni fydd y wybodaeth yn cael ei gwneud yn hysbys yn ehangach. Mewn rhai achosion, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i adrodd am faterion wrth yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol.

Cofiwch, gallwch chi siarad ag unrhyw aelod staff am eich pryderon, neu os hoffech chi gysylltu’n uniongyrchol ag aelod o’r Tîm Diogelu, fe welwch eu manylion cyswllt isod, ar wefan y coleg, ac yn
gyraeddadwy trwy godau QR ar bosteri ar draws y coleg cyfan. 

Cofiwch, gallwch chi siarad âg UNRHYW aelod staff os oes pryderon gennych a gallwch chi bob amser e-bostio’r cyfrifon canlynol a bydd un o’r tîm diogelu yn cysylltu â chi:

Dyma restr o gysylltiadau os ydych chi am drafod unrhyw Faterion diogelu:

Tom Snelgrove - Arweinydd Diogelu Dynodedig / Cyfarwyddwr Dysgwyr 

Jamie Davies - Rheolwr Lles a Dirprwy Diogelu Dynodeig

Elaine James - Cydlynydd Lles y De / Wellbeing Coordinator South 

Alison Davies - Campws Rhydaman - Lefel Mynediad  

Gweld ein Polisi Diogelu