Skip page header and navigation

Introduction

Ydych chi’n barod i gamu allan o’ch cylch cysur ac i mewn i fyd o bosibiliadau anhygoel? Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, credwn fod y gwersi gorau yn cael eu dysgu trwy brofiad - a pha ffordd well i ddysgu na throchi eich hun mewn diwylliannau a syniadau newydd ar draws y byd? Ein Rhaglen Symudedd Rhyngwladol yw eich tocyn i daith a fydd yn ailddiffinio eich byd.

Mae ein Rhaglen Symudedd Rhyngwladol, a ariennir gan Taith a Turing, yn borth i brofiadau sy’n newid bywydau sy’n aros amdanoch chi mewn sawl lleoliad ar draws y byd sy’n cynnwys Fietnam, Slofenia, Sbaen a’r Eidal. 

Myfyrwyr ar daith i Wlad Groeg
Myfyrwyr gan Heneb

Sut y bydd taith ryngwladol o fudd i chi?

  • Profiadau Trawsffurfiol - Dychmygwch astudio cadwraeth crwbanod y môr yn ymarferol yng Ngwlad Groeg neu drafod rhwystrau i iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol yng Nghanada.  Mae’r profiadau hyn nid yn unig yn ychwanegu at eich gwybodaeth academaidd; maen nhw’n eich trawsffurfio, gan siapio eich persbectif, llwybr eich gyrfa, a’ch golwg ar fywyd.
  • Gwireddu Eich Potensial - Nid yw hyn yn ymwneud â theithio yn unig; mae’n ymwneud â pharatoi at ddyfodol nad oes iddo ffiniau.  Gyda’n Rhaglen Symudedd Rhyngwladol, rydych yn paratoi eich hun ar gyfer twf personol a phroffesiynol heb ei debyg.
  • Cynwysoldeb yn Ganolog - Mae pawb yn haeddu cyfle i archwilio’r byd.  Caiff ein rhaglenni eu cynllunio gyda chynwysoldeb mewn golwg, gan sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn gallu cychwyn ar deithiau anhygoel.
  • Cymuned Gefnogol: O gyfeiriadau cyn gadael i rwydweithiau cyn-fyfyrwyr, cewch eich cefnogi bob cam o’r ffordd.  Mae ein cymuned yma i sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf o’ch taith dramor.
  • Trochi Diwylliannol: Plymiwch yn ddwfn i ddiwylliannau newydd, gan ddysgu ieithoedd, arferion, a thraddodiadau o lygad y ffynnon.  Mae’n ymwneud â dod yn ddinesydd byd-eang yng ngwir ystyr y gair.

“Mae rhaglen symudedd rhyngwladol y coleg yn darparu cyfle i ddysgwyr ymdrwytho eu hunain mewn diwylliant gwahanol, ehangu eu gorwelion a datblygu sgiliau mewn paratoad ar gyfer astudio pellach a chyflogaeth.  Mae dysgwyr sydd wedi ymgysylltu â’r rhaglen hyd yma, wedi disgrifio’r profiad fel amhrisiadwy ac un sy’n newid bywydau.  Fel coleg rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad cyfartal i’r cyfleoedd bendigedig hyn.” Christy Anson-Harries - Cyfarwyddwr Recriwtio Dysgwyr, Dilyniant a Phartneriaethau 

Treuliodd bron i 30 o fyfyrwyr celf a dylunio o Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr dridiau ym Merlin yn archwilio diwylliant yr Almaen a phob dim creadigol.

A hotel building with a creative mural down the side

Mae myfyrwyr peirianneg a chyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr wedi cymryd rhan mewn ymweliad addysgol tramor â Chroatia ble ymwelon nhw â’r gystadleuaeth sgiliau fwyaf yn ne-ddwyrain Ewrop.

Students gathered around a monument

Mae myfyrwyr a phrentisiaid sy’n dilyn rhaglenni hyfforddi astudiaethau ceffylau yng Ngholeg Sir Gâr wedi dychwelyd yn ddiweddar ar ôl ymweliad â Sweden.

A student using a fake hoof doing shoe work