Partneriaethau Rhyngwladol - Llunio’r Dyfodol Gyda’n Gilydd
Introduction
Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rydym yn credu yng ngrym cydweithio i feithrin arloesedd, cynaladwyedd, a rhagoriaeth mewn addysg. Mae ein Strategaeth Ryngwladol yn brawf o’n hymrwymiad nid yn unig i addysgu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, ond hefyd i gyfrannu’n gadarnhaol at addysg fyd-eang, yr economi, a chynaladwyedd amgylcheddol.
Mae ein cenhadaeth yn mynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth - mae’n ymwneud â chreu cymuned ddysgu fyd-eang gydgysylltiedig, fywiog. Mewn cydweithrediad â Cholegau Cymru Rhyngwladol, Cymru Fyd-eang a Taith, rydym yn mynd ati’n weithredol i geisio partneriaethau â sefydliadau addysgol, diwydiannau, a sefydliadau byd-eang i:
- Rannu Arferion Gorau - Trwy gydweithio â phartneriaid byd-eang, rydym yn rhoi lle blaenllaw i bersbectifau a methodolegau addysgu amrywiol, gan gyfoethogi’r profiad dysgu i bawb.
- Meithrin Arloesi - Mae prosiectau ymchwil a mentrau ar y cyd yn darparu amgylchedd ysbrydoledig ar gyfer syniadau a chamau arloesol sy’n torri tir newydd, gan ddatrys problemau byd go iawn.
- Ehangu Cyfleoedd - Mae’r partneriaethau hyn yn agor llwybrau newydd ar gyfer teithiau myfyrwyr a staff, gan sicrhau bod ein cymuned yn elwa ar addysg wirioneddol fyd-eang.
- Grymuso Addysgwyr - Rhoi’r offer a’r wybodaeth i’n haddysgwyr i ysbrydoli ac ennyn diddordeb myfyrwyr, gan eu paratoi ar gyfer byd sy’n newid yn gyflym.
Nid rhan o’n cwricwlwm yn unig yw cynaladwyedd; mae’n rhan annatod o’n gweithrediadau a’n mentrau. Rydym wedi ymrwymo i roi arferion ecogyfeillgar ar waith ar draws ein campysau ac annog ein cymuned i gymryd rhan weithgar mewn ymdrechion cynaladwyedd. Rydym yn cefnogi prosiectau ymchwil sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd amgylcheddol, gyda’r nod o gyfrannu dealltwriaeth a datrysiadau gwerthfawr i heriau byd-eang.
Mae ein gweledigaeth yn ymestyn i rannu ein model addysgol a’n harbenigedd ar raddfa fyd-eang trwy brosiectau allforio. Nod y mentrau hyn yw teilwra ein rhaglenni addysgol llwyddiannus i ddiwallu anghenion poblogaethau amrywiol ar draws y byd. Yn ogystal, rydym yn cynnig ein harbenigedd i helpu datblygu sefydliadau a systemau addysgol yn rhyngwladol, gan hybu addysg o ansawdd i bawb.
“Yn dilyn ymweliadau diweddar dysgwyr ag amrywiol wledydd ar draws y byd, cefais fy ysbrydoli’n wirioneddol gan eu profiad a’u gwell gwerthfawrogiad o wahanol ddiwylliannau. Mae strategaeth ryngwladol y coleg yn gosod cyfeiriad ar gyfer ein gwaith rhyngwladol, sut rydyn ni’n ymgysylltu â’r byd ehangach ac yn rhannu arfer gorau. Bydd yn darparu cyfleoedd i ehangu ein cysylltiadau ar gyfer rhaglenni cyfnewid i ddysgwyr a hefyd staff. Bydd gwaith masnachol yn nodwedd o’n portffolio rhyngwladol ond yn fwyaf oll rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gydag ystod o bartneriaid byd-eang i gyflawni ein cyrchnodau.” Dr Andrew Cornish - Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol