Llywodraethiant
Introduction
Ym mis Awst 2013, daeth Coleg Sir Gâr yn bartner strwythurol Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ac yn gwmni cofrestredig cyfyngedig trwy warant. Ym mis Awst 2017, daeth Coleg Ceredigion yn is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Coleg Sir Gâr, ar ôl bod yn is-gwmni uniongyrchol y cwmni rhiant PCYDDS yn flaenorol.
Mae Coleg Sir Gâr yn elusen gofrestredig a’i amcan, er budd y cyhoedd, yw darparu addysg uwchradd, addysg uwch ac addysg bellach fel y diffinir yn adran 18(1) Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Mae’r Coleg a’i Fwrdd Cyfarwyddwyr yn ymrwymedig i gadw at Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan, a dangos arfer gorau ym mhob agwedd ar lywodraethiant corfforaethol, a nodwyd yn y Cod Llywodraethiant Da ar gyfer Colegau yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am gymeradwyo’r cynlluniau strategol ar gyfer y Coleg ac am lywodraethu a rheoleiddio ei gyllidau, cyfrifon, buddsoddiadau, eiddo, busnes a materion. Ceir esboniad o’i brif gyfrifoldebau yn Erthyglau Cymdeithasu’r Coleg.
Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn dod â barn annibynnol yng nghyswllt materion yn ymwneud â strategaeth, perfformiad, adnoddau a safonau ymddygiad. Mae’n cydnabod, fel cwmni sydd yng ngofal cyllid cyhoeddus a phreifat, bod ganddo ddyletswydd benodol i gynnal y safonau uchaf o lywodraethiant corfforaethol bob amser.
Os oes diddordeb gennych mewn dod yn aelod o’r Bwrdd Llywodraethu cysylltwch â:
damion.gee@colegsirgar.ac.uk
Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc y Bwrdd, i gael mwy o wybodaeth.
-
Mae gan John Edge radd MA yn y Gyfraith o Rydychen, a chefndir mewn Datblygu Busnes Rhyngwladol, Ymgynghoriaeth, Cydsoddiadau a Chaffaeliadau a Mentrau ar y Cyd. Ar ôl amrywiol swyddi Ymgynghorydd Rheoli, daeth yn Gyfarwyddwr Datblygiad Rhyngwladol, ac yna’n Bennaeth Caffaeliadau ar gyfer cwmni logisteg mawr yn y DU, yn datblygu eu rhwydwaith byd-eang.
Mae ei yrfa wedi cwmpasu creu strategaeth, cynllunio a gweithredu; datblygu busnes parhaus, ac arfarniadau rheolaeth a pherfformiad. Ynghyd â Chydsoddiadau a Chaffaeliadau (M&A) bu hefyd yn ymwneud â diwydrwydd dyladwy, yn cynnwys rfarniadau busnes a meysydd bancio, cyfreithiol, ariannol, treth, eiddo, cyflogaeth, amgylcheddol, pensiynau ac yswiriant, er enghraifft, cyd-drafod deliau a chontractau terfynol. Cwmpasodd ei yrfa chwe chyfandir, gyda ffocws ar Ogledd America, Ewrop, ac Asia.
Symudodd i Geredigion, a thra’n parhau â gwaith ymgynghori, cymerodd radd BSc mewn Ecoleg, ac mae’n canolbwyntio ar wirfoddoli mewn prosiectau cymunedol, addysg a phrosiectau cadwraeth yn lleol ac yn aml yn rhyngwladol. Yng Ngheredigion mae’n ddirprwy gadeirydd ei gymdeithas gymunedol leol; cynghorwr gyda Chyngor ar Bopeth; a iaradwr ar gyfer Coed Cadw, ac mae’n gwarchod ei dir ac eiddo ei hun fel ‘ffermwr gweithredol’.
-
Mae Abigail Salini yn Rheolwr Hyfforddi ac Adnoddau Dynol ar gyfer Thermal Earth Ltd sydd wedi’i leoli yn Rhydaman ac mae ganddi 11 o flynyddoedd o brofiad yn y sector adnewyddadwy.
Cyn hyn roedd yn gweithio i gwmni adeiladu lleol fel Rheolwr AD ac roedd yn ymwneud â’r cynllun prentisiaeth ar y cyd Sgiliau Adeiladu Cyfle sy’n gynllun prentisiaeth ar y cyd rhanbarthol ar draws De Orllewin Cymru.
-
Ar hyn o bryd mae Dr Cornish yn Bennaeth a Phrif Weithredwr ar gyfer Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rhan o Grŵp Prifysgol Cymru:Y Drindod Dewi Sant.
Cychwynnodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Maesteg lle bu’n astudio Safon Uwch cyn symud ymlaen i astudio ar gyfer gradd anrhydedd mewn ffiseg ym Mhrifysgol Lerpwl ac yna doethuriaeth mewn ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n aelod o’r Sefydliad Ffiseg (CPhys MinstP) ac mae wedi gweithio fel asesydd cymheiriaid i Estyn am bron i 20 mlynedd, yn asesu safonau colegau addysg bellach eraill yng Nghymru.
Fel Pennaeth, mae’n aelod o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (PSBs) yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ac mae’n eistedd ar Fwrdd Pentref Llesiant Llanelli. Mae’n cynrychioli Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion trwy Golegau Cymru, sefydliad ymbarél sy’n cynrychioli’r holl Golegau Addysg Bellach yng Nghymru. Mae wedi gweithio ym maes Addysg Bellach ers dros 25 mlynedd, gan ddal ystod eang o swyddi addysgu, rheoli ac arweinyddiaeth yn ystod yr amser hynny.
-
Tyfodd Damion i fyny yn Nyfnaint gan gwblhau Safon Uwch cyn symud ymlaen i astudio gradd anrhydedd mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn dilyn y Brifysgol, cymerodd ychydig bach o amser i chwarae mewn digwyddiadau golff amatur cenedlaethol cyn dechrau gwaith ym maes twristiaeth golff gan ymgymryd â rheolaeth Rhaglen Golff Brittany Ferries.
Wrth adleoli i Gymru yn 2019 treuliodd bum mlynedd fel Rheolwr y Clwb yng Nghlwb Golff Castell-nedd cyn symud ymlaen yn 2014 i fod yn Rheolwr Cyffredinol Clwb Golff Ashburnham ym Mhorth Tywyn gan ddatblygu ei brofiad rheoli a llywodraethu. Ar ôl wyth mlynedd a hanner yn y rôl a oedd yn cynnwys gweithio gyda Chlwb R&A a Golff Cymru a bod yn aelod gweithredol o Gymdeithas y Rheolwyr Clybiau Golff (GCMA) mae Damion wrth ei fodd yn ymuno â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fel Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd.
-
Mae Erica Cassin yn ymarferydd lefel Bwrdd proffesiynol, a hithau wedi gweithredu ar lefelau Gweithredol ac Anweithredol. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad mewn Adnoddau Dynol, gan gynnwys rolau fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ar gyfer cyflogwyr sector preifat mawr mewn sectorau gofal iechyd, fferyllol a gwasanaethau ariannol yn y DU. Mae Erica’n fedrus o ran arwain newid a thrawsffurfiad sefydliadol, newid diwylliant, datblygu talent ac arweinyddiaeth. Mae hi’n frwdfrydig iawn dros alluogi pobl i gyrraedd eu potensial llawn, ac mae hi wedi gweithio gyda thimau amrywiol, mawr yn meithrin diwylliant o ymgysylltiad dwys, cynhwysiant, grymuster a chydweithio. Mae gan Erica bortffolio o rolau anweithredol, yn cynnwys rolau Cyfarwyddwr Anweithredol ym Mhorthladd Aberdaugleddau, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, lle mae hi hefyd yn gadeirydd y Pwyllgorau Adnoddau Dynol a Thaliadau.
Yn ddiweddar cafodd ei phenodi yn Gadeirydd ar gyfer Gyrfa Cymru, ac mae hi’n Ymddiriedolwraig ar gyfer yr elusen genedlaethol Self Management UK. Yn ogystal mae Erica wedi bod yn fentor ar gyfer y Sefydliad Symudedd Cymdeithasol. Mae Erica yn meddu ar radd BA mewn Economeg Ddiwydiannol, mae hi’n Gymrawd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), ac mae ganddi Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Hyfforddi Personol a Busnes.
-
Yn enedigol o Lanelli, ac yn siaradwr Cymraeg rhugl, mynychodd Huw Ysgol Gyfun y Strade cyn ennill gradd BA (Anrh) mewn Cyfrifyddu a Chyllid o Ysgol Fusnes Bryste. Gan benderfynu parhau â’i yrfa ym maes cyllid, cymhwysodd Huw fel Cyfrifydd Siartredig gyda Bevan & Buckland yn Abertawe cyn ymuno â KPMG ym Mryste. Ar ôl pedair blynedd fel Rheolwr Archwilio gyda KPMG, symudodd Huw i ddiwydiant gan ddod yn Uwch Reolwr Ariannol Cymru a De-orllewin Lloegr ar gyfer y Cwmni FTSE 250 WS Atkins plc “Atkins”.
Ar ôl secondiad i Qatar, cafodd ei ddyrchafu’n Uwch Reolwr Ariannol - De’r DU ar gyfer cangen Dylunio a Pheirianneg Atkins, cyn penderfynu dychwelyd i’w wreiddiau ac ymuno â Chlwb Rygbi’r “Scarlets,” Llanelli fel eu Pennaeth Cyllid ac Ysgrifennydd y Cwmni, cyn iddynt symud i stadiwm newydd ym mis Gorffennaf 2008.
Yn 2012, sefydlodd Huw ei fusnes ymgynghori preifat ei hun gan ymgymryd â rolau Cyfarwyddwr Ariannol gyda nifer o fusnesau bach a chanolig ledled De Cymru.
Mae profiad Huw mewn ymarfer bach a mawr, ac amrywiol rolau masnachol heriol mewn diwydiant wedi arwain at agwedd hollol agored a chadarn ar bob agwedd ar fusnes.
-
Aeth Jacqui Kedward i Brifysgol Surrey lle enillodd hi radd BSc (Anrhydedd) mewn Rheolaeth Gwestai ac Arlwyo, ar ôl gweithio am flwyddyn gyda Chorfflu Arlwyo’r Fyddin Brydeinig. Yna enillodd gymwysterau fel cyfrifydd gan weithio mewn archwilio allanol a chyfrifon ariannol mewn practis preifat, yn ogystal â chefnogi busnesau gyda chyfrifiaduro eu cofnodion cyfrifyddu.
Bu’n Rheolwr Masnachol ac Ariannol ar gyfer Gerddi Aberglasne cyn dod yn Rheolwr Cyffredinol Sir Gaerfyrddin ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fel Rheolwr Cyffredinol roedd hi’n gyfrifol am holl staff, gwirfoddolwyr, asedau a buddiannau’r elusen o fewn y sir, o’r adeiladau twristiaeth hanesyddol rhaid talu i gael mynediad iddynt a’r ffermydd a osodir ar gytundeb, i’r ystad ar osod i breswylwyr ac asedau naturiol yn cynnwys yr arfordir.
Yna enillodd gymwysterau mewn Archwilio Mewnol a Sicrwydd Risg gan ei galluogi i ddefnyddio ei gwybodaeth weithredol a’i sgiliau cyfrifeg hefyd mewn Archwilio Mewnol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bellach mae hi’n gweithio fel Pennaeth Archwilio Mewnol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hi’n arwain y Tîm Archwilio Mewnol a System Rheolaeth Amgylcheddol gan ddarparu’r cynllun a strategaeth Archwilio Mewnol ynghyd ag archwilio cydymffurfiaeth ar gyfer y safon amgylcheddol ISO 14001. Yn ogystal, hi ydy’r arweinydd ar gyfer ymchwiliadau twyll a chwythu’r chwiban gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n Arbenigwr Gwrthdwyll Achrededig.
Symudodd i Sir Gaerfyrddin dros 20 mlynedd yn ôl a gyda’i gŵr mae hi’n ‘ffermwr gweithredol’ ar eu fferm yn ogystal â rhedeg busnes marchogaeth. Mae hi wedi bod mewn llawer o swyddi gwirfoddol gan gynnwys Cadeirydd Cymdeithas Dwristiaeth Sir Gaerfyrddin, Beiciau Gwaed Cymru a Chomisiynydd Rhanbarthol ar gyfer y Clwb Merlod (Pony Club).
-
Tyfodd Alan i fyny yn Sir Fynwy a graddiodd o Brifysgol Abertawe mewn Mathemateg Bur a Chyfrifiadureg a chymhwyster T.A.R. Mae wedi treulio ei fywyd gwaith cyfan mewn addysg.
Bu’n athro Mathemateg yng Nghastell-nedd i ddechrau ac yna’n athro Cyfrifiadura ym Mhorthcawl. Ymunodd â Choleg Technegol Llanelli fel darlithydd Cyfrifiadura. Symudodd ymlaen i reoli’r Gyfadran Cyfrifiadura ynghyd â meysydd pwnc eraill. Hefyd trefnodd gyrsiau masnachol ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd â phrosiect Ewropeaidd. Yn ogystal roedd yn arholwr C.B.A.C. ac yn arolygydd cymheiriaid gydag Estyn.
Am bum mlynedd cyn ymddeol o Goleg Sir Gâr, Alan oedd ei Reolwr Trawsnewid, yn cynorthwyo’r Pennaeth a’r Tîm Gweithredol i ddatblygu achos busnes uno gyda Grŵp Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant ac ar ôl yr uno bu’n cydlynu gweithgareddau integreiddio.
-
Magwyd Ben yn Llanelli, mynychodd Ysgol Iau Llangennech ac Ysgol Gyfun y Strade, cyn astudio ar gyfer ei Safon Uwch yng Ngholeg Gorseinon. Enillodd ei radd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Caerwysg ac yna aeth i Ysgol y Gyfraith Nottingham i astudio ar Gwrs Ymarfer Cyfreithiol cyn symud yn ôl i Abertawe i gymhwyso fel cyfreithiwr.
Mae Ben yn gyfarwyddwr Grŵp Hygrove, cwmni teuluol a leolir yn Abertawe. Mae adran adeiladu tai’r grŵp (Cartrefi Hygrove) yn codi tai newydd i’w gwerthu’n breifat ac ar ran Cymdeithasau Tai yng Nghymru a Lloegr hefyd. Tra bod ei adran deunyddiau adeiladu (Agregau Hygrove) yn prosesu Carreg Grut (Gritstone) o’i chwarel yng Nghwm Nant Lleici (ger Pontardawe) i’w ddefnyddio mewn haenau treulio PSV uchel ar gyfer arwynebau ffyrdd.
Y 2018, cafodd Ben ei benodi i Gadair Polisi Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) Cymru, sefydliad busnes mwyaf Cymru. Penodwyd Ben am chweched tymor ym mis Mawrth 2023 ac mae’n gweithio gydag Uned Bolisi FSB Cymru (corff sy’n cynnwys aelodau o bob cwr o’r wlad) er mwyn penderfynu blaenoriaethau ymgyrchu a safbwynt FSB ar faterion allweddol yng Nghymru ac i lobïo Llywodraeth Cymru a Senedd y DU ar ran aelodau Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB).
Ben yw Llywydd Clwb Rygbi Pontarddulais ac ef oedd derbynnydd cyntaf Gwobr Sadwrn y Busnesau Bach Francesca Kemp am ei wasanaethau i’w gymuned busnesau bach.
-
Mike yw Prif Swyddog Gweithredol Foothold Cymru, elusen cyfiawnder cymdeithasol sydd wedi’i lleoli yng Ngorllewin Cymru. Mae’n arweinydd profiadol ac yn Gadeirydd a Chyfarwyddwr anweithredol gyda chefndir eang. Dechreuodd ei yrfa yn gweithio i frocer stoc yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain cyn ymuno â Llywodraeth Leol ac yna gweithiodd i nifer o Gymdeithasau Tai yn Llundain, yn y pendraw yn rhedeg Cymdeithas Tai Eglwysi Paddington (a elwir bellach yn Genesis), un o landlordiaid cymdeithasol mwyaf y DU. Yna treuliodd rai blynyddoedd yn y sector preifat fel Cyfarwyddwr gweithredol Quality Street Homes yn gyfrifol am raglen fuddsoddi hanner biliwn o bunnoedd.
Yng Nghymru, penodwyd Mike gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel cyfarwyddwr Cyswllt Busnes. Ef oedd y Cadeirydd wrth sefydlu Siambrau Cymru, roedd yn aelod o’r Pwyllgor Rheoli Rhaglen a oedd yn cyflwyno cronfeydd strwythurol Amcan Un yr UE lle bu’n gadeirydd y Pwyllgor Monitro, yn ogystal â chadeirio’r bartneriaeth a sefydlodd Banc Datblygu Cymru.
Am wyth mlynedd, bu’n aelod o Fwrdd y Loteri Fawr yng Nghymru gan gadeirio nifer o bwyllgorau ariannu a chynrychiolodd Gymru ar Bwyllgor Ariannu’r DU. Ar hyn o bryd mae’n aelod o Banel Cronfa Grant Busnes Cymdeithasol WCVA.
Mae Mike yn cadeirio’r Alternative Learning Company Limited ar hyn o bryd, ac fel cynghorydd tref mae’n cadeirio Pwyllgor Gwaith Cyngor y Dref. Ef yw Cadeirydd Un Llais Cymru, corff cynrychioliadol yr holl Gynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru. Mae Mike hefyd yn aelod o Gyngor Partneriaeth Gweinidogol Cymru. Yn ogystal, Mike yw Cadeirydd Shelter Cymru.
-
Addysgwyd Tracy Senchal yn Ysgol Bryngwyn, Llanelli. Mae gradd ganddi mewn Ffrangeg ac Almaeneg o Brifysgol Abertawe a Diploma Ôl-raddedig mewn Cyfieithu Technegol ac Arbenigol (Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Daneg) o Brifysgol Westminster, Llundain. Hefyd mae ganddi gymhwyster TAR mewn Ieithoedd Tramor Modern.
Dechreuodd ei gyrfa addysgu yn Ysgol Gyfun Cwmtawe, Pontardawe yn 1996 ac arhosodd hi yno tan 2001 pan gymerodd hi swydd Pennaeth y gyfadran Ieithoedd yn Ysgol Tre-Gib, Llandeilo. Yn fuan wedyn, cafodd ei dyrchafu i swydd Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Tre-Gib o 2004 i 2008. Symudodd i Ysgol Esgob Gore, Abertawe yn 2008 lle daeth yn Ddirprwy Bennaeth. Ym mis Ionawr 2012, penodwyd Tracy yn Bennaeth Ysgol Coedcae, Llanelli.
Cafodd Tracy ei secondio i ERW; Y Consortiwm Gwella Ysgolion Rhanbarthol fel Pennaeth y Sector Uwchradd ym mis Medi 2019 ond dychwelodd i’w swydd wreiddiol fel Pennaeth yn Ysgol Coedcae ym mis Mawrth 2020 pan ddigwyddodd y pandemig.
Mae Tracy yn arolygydd cymheiriaid profiadol gydag Estyn ac mae wedi bod ers tua 15 mlynedd. Mae hi’n aelod o Grŵp Cyfeirio Prifathrawon Estyn. Yn ogystal mae Tracy yn aelod o Grŵp Cyfeirio Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymwysterau Cymru.
-
Mae gan Rhys mwy na degawd o brofiad mewn cyfathrebu, polisi, ac ymgysylltiad gwleidyddol yn y sector elusennau a’r Senedd. Mae Rhys wedi cefnogi elusennau mawr wrth iddynt gyflwyno ymgyrchoedd llwyddiannus, gan gynnwys dylanwadu ar ddeddfwriaeth yng Nghymru. Yn ddiweddar mae wedi ymuno â chwmni ynni adnewyddadwy Bute Energy fel Rheolwr Materion Allanol, gan reoli perthnasoedd gwleidyddol y cwmni, ymgysylltiad â’r wasg a’r cyfryngau, ac ymgysylltiad cymunedol.
Astudiodd Rhys ar gyfer gradd israddedig mewn Hanes a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor cyn mynd ymlaen i astudio tuag at radd meistr mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’n gynghorydd awdurdod lleol, gyda phenodiadau i Gronfa Bensiwn Caerdydd a’r Fro ac fel Cyfarwyddwr Anweithredol i gwmni Bws Caerdydd. Hefyd mae Rhys yn ymddiriedolwr ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau.
-
-
Cyn darlithio yng Ngholeg Sir Gâr, bu John yn gweithio fel peiriannydd mecanyddol a rheolwr mewn amrywiol amgylcheddau, gan gynnwys y diwydiannau awyrennau a modurol, cyn newid i’r sector hyfforddi preifat yn 2004. Yn flaenorol roedd yn aelod cysylltiol o Sefydliad y Peirianwyr Cynhyrchu ac yn aelod cysylltiol o Sefydliad Siartredig yr Aseswyr Addysgol.
Mae wedi gweithio ar, ac wedi rheoli contractau ar gyfer cwmnïau lleol ac ystod o gwmnïau amlwladol fel, Airbus, Boeing, Nissan a Toyota. Mae’n archwiliwr profiadol ac mae wedi trin system ddogfennaeth ac ansawdd ISO 9001:2008 ac mae wedi ennill statws Buddsoddwyr mewn Pobl (Aur).
Bu John yn rheoli cwmni hyfforddi preifat tan 2012, yn gweithio gyda sefydliadau dyfarnu a Llywodraeth Cymru i gynnig rhaglenni dysgu yn y gwaith ar draws De Cymru. Hefyd mae wedi cyd–drafod contractau masnachol a rhaglenni hyfforddi, gyda chwmnïau megis, Amazon, Cartrefi Cymru a Remploy.
Mae wedi bod yn aelod rhanbarthol o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a bu’n ymwneud â rhaglenni peilot ar gyfer City & Guilds a’r Adran Addysg a Sgiliau (DfES).
-
Mae Louis yn angerddol o frwdfrydig dros addysg sy’n gwella cyflogadwyedd a datblygiad gyrfaol ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion sydd naill ai’n ddiwaith neu mewn rolau cyflog isel. Mae gweithio gydag adran Datblygu Busnes ac Arloesi’r Coleg wedi galluogi Louis i ddatblygu cysylltiadau cryf gyda’r sector hwn trwy weithio mewn partneriaeth â Remploy Maximus a’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Canolfannau Gwaith maen nhw’n eu rheoli.
Yn y gorffennol, mae Louis wedi dysgu TGCh (2004-2008), wedi arwain y Cwrs TGCh Cymhwysol yn Ysgol Maes Yr Yrfa (2008-2012) fel rhan o bartneriaeth 14-19 y Coleg, a bellach mae wedi’i gyflogi fel y Rheolwr e-Ddysgu ac Arloesi ar gyfer Grŵp PCYDDS (2017 -presennol).
Y tu allan i Goleg Sir Gâr mae diddordebau Louis yn cynnwys cefnogi twristiaeth leol. Yn ystod y pandemig cafodd Louis wahoddiad i gyfrannu at redeg grŵp cymorth ar-lein a oedd yn darparu arweiniad ariannol a chyfreithiol ynghylch gwe-lywio cyfnodau clo, cyfyngiadau, a phecynnau cymorth economaidd Covid.
-
-
- Mae’r disgrifiad rôl hwn yn crynhoi dyletswyddau, cyfrifoldebau a nodweddion personol aelodau annibynnol y Bwrdd. Mae’r termau ‘Bwrdd’ a ‘chorff llywodraethu’ yn cyfeirio at Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ill dau.
- Mae’r disgrifiad rôl yn mynd ochr yn ochr â, ac yn crynhoi agweddau ar, y Cod Llywodraethu Da ar gyfer Colegau yng Nghymru (‘y Cod’), sy’n darparu arweiniad i aelodau Bwrdd ar:
- y safonau ymddygiad ac atebolrwydd a ddisgwylir ganddynt yn eu rôl fel llywodraethwyr y Coleg ac ymddiriedolwyr elusen;
- egwyddorion a gwerthoedd y Coleg a gwasanaeth cyhoeddus yn fwy cyffredinol;
- dull y Coleg o fynd i’r afael â materion megis cyfrinachedd a datganiadau o fuddiant.
- Gofynnir i bob aelod o’r Cyngor ymrwymo i’r Cod ar benodiad ac i gadarnhau eu derbyniad parhaus o’i delerau yn flynyddol.
- Caiff y disgrifiad rôl ei lywio gan y canlynol, a ddarperir i aelodau newydd y Bwrdd ar eu penodiad a gellir eu diweddaru o bryd i’w gilydd yr:
- Erthyglau Cymdeithasu
- Cod Llywodraethu Addysg Bellach;
- Rheoliadau ac arweiniad y Comisiwn Elusennau.
- Protocol Gweithredol PCYDDS/CSG
- Caiff y disgrifiad rôl ei adolygu o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor Chwilio a Llywodraethu’r Bwrdd a chaiff ei gadarnhau ar ddechrau unrhyw broses recriwtio ar gyfer aelodau newydd o’r Bwrdd.
-
- Mae aelodau’n gyfrifol am arfer y swyddogaethau a’r pwerau a esbonir yn yr Erthyglau Cymdeithasu. Mae gan aelodau gyfrifoldeb dros sicrhau bod y corff llywodraethu’n ymddwyn yn unol â’r Erthyglau Cymdeithasu a gyda rheolau a rheoliadau mewnol y sefydliad. Dylent geisio cyngor gan y Clerc mewn unrhyw achos o ansicrwydd.
- Mae gan aelodau rôl allweddol i’w chwarae o ran sicrhau bod busnes y corff llywodraethu yn cael ei gyflawni’n effeithlon, yn effeithiol, ac mewn modd sy’n briodol ar gyfer ymddygiad cywir busnes cyhoeddus. Disgwylir i bob aelod baratoi’n iawn ar gyfer cyfarfodydd, i fynychu’r holl gyfarfodydd heblaw bod yna resymau neilltuol yn berthnasol, i wneud cyfraniadau rhesymol ac adeiladol i ddadleuon ac i wneud eu gwybodaeth a’u harbenigedd ar gael i’r corff llywodraethu wrth i gyfle godi.
- Yn ychwanegol i’w haelodaeth o’r corff llywodraethu, fel arfer gofynnir i aelodau ymuno ag un neu fwy o is-bwyllgorau. Efallai gofynnir iddynt hefyd i weithredu fel yr aelod arweiniol dynodedig ar gyfer maes busnes penodedig. Mae’n bosibl y gwahoddir aelodau hefyd i gynrychioli’r Corff Llywodraethu ar bwyllgorau priodol PCYDDS.
- Disgwylir i aelodau gefnogi’r sefydliad yn ei weithgareddau myfyrwyr a chymunedol, gan gynnwys trwy bresenoldeb mewn digwyddiadau seremoniol a digwyddiadau cyflwyno gwobrau.
- Mae gan aelodau gyfrifoldeb cyfunol dros y penderfyniadau a gyrhaeddir gan y corff llywodraethu.
- Rhaid i aelodau gadw penderfyniadau’r corff llywodraethu a safbwyntiau a fynegir gan aelodau unigol yn gyfrinachol. Mae dyletswydd cyfrinachedd yn parhau hyd yn oed wedi i unigolyn beidio â bod yn aelod.
-
- Disgwylir i aelodau ddilyn y Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus a nodir gan Bwyllgor Nolan ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, sy’n annog anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, didwylledd, gonestrwydd, ac arweinyddiaeth. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod y corff llywodraethu yn cynnal ei hun yn unol â’r Egwyddorion hyn, a restrir yn llawn yn y Cod, trwy gymryd rhan weithredol mewn unrhyw broses o adolygu effeithiolrwydd llywodraethiant fel y pennir gan y Bwrdd.
- Yn ganolog i’r modd y cynhelir busnes cyhoeddus mae’r ffaith y dylai aelodau o’r corff llywodraethu ymddwyn yn ddiduedd, a chael eu gweld yn ymddwyn yn ddiduedd, ac ni ddylent gael eu dylanwadu yn eu rôl fel llywodraethwyr gan gysylltiadau cymdeithasol neu fusnes. Disgwylir i aelodau a benodir wneud datgeliad llawn ac amserol o fuddiannau o’r fath yn flynyddol yn unol â’r gweithdrefnau a gymeradwyir gan y corff llywodraethu. Wedi hynny mae rhaid iddynt, cyn gynted ag sy’n ymarferol, ddatgelu unrhyw fuddiant sydd ganddynt mewn unrhyw fater a drafodir, a derbyn dyfarniad y Cadeirydd mewn perthynas â rheoli’r sefyllfa honno. Darperir arweiniad manwl ar wneud a rheoli gwrthdaro buddiannau yn y Cod.
- Mae’r Coleg yn elusen gofrestredig a’i gorff llywodraethu felly yw corff llywodraethu’r elusen. Mae aelodau’r corff llywodraethu hefyd yn ymddiriedolwyr yr elusen. Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb dros sicrhau bod y corff llywodraethu yn goruchwylio defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau’r sefydliad er budd ei ddibenion elusennol, yn cynnal ei hyfywedd ariannol hirdymor, ac yn diogelu ei asedau. Hefyd bod mecanweithiau priodol yn bodoli i sicrhau rheolaeth ariannol ac ar gyfer atal twyll.
- Dan reolau’r Comisiwn Elusennau, mae rhai amgylchiadau’n atal penodi unigolyn fel ymddiriedolwr. Caiff yr amgylchiadau hyn eu gwirio cyn penodi. Yn dilyn penodiad, mae’r broses flynyddol o ddatgan buddiannau hefyd yn cael ei defnyddio fel mecanwaith i gadarnhau parhad cymhwyster aelodau i weithredu fel ymddiriedolwyr. Rhaid i aelodau hysbysu’r Clerc ar unwaith am unrhyw newidiadau i’w hamgylchiadau sy’n effeithio ar eu cymhwyster i fod yn ymddiriedolwyr.
-
- Mae gan aelodau gyfrifoldeb dros sicrhau bod y corff llywodraethu’n arfer rheolaeth dros gyfeiriad strategol y Coleg trwy broses gynllunio effeithiol, a bod perfformiad y Coleg yn cael ei asesu’n ddigonol yn erbyn yr amcanion y mae’r corff llywodraethu wedi’u cymeradwyo.
- Anogir aelodau i sefydlu perthnasoedd gwaith adeiladol a chefnogol gyda gweithwyr y Coleg y byddant yn dod i gysylltiad â nhw. Fodd bynnag, rhaid i aelodau adnabod y gwahaniad iawn rhwng llywodraethiant a rheolaeth weithredol a dylent osgoi ymwneud â rheolaeth weithredol y sefydliad o ddydd i ddydd.
-
- Efallai gofynnir i aelodau gynrychioli’r corff llywodraethu a’r Coleg yn allanol. Cânt eu briffio’n llawn gan y Coleg er mwyn eu galluogi i gyflawni’r rôl hon yn effeithiol.
- Efallai gofynnir i aelodau, ar ran y Coleg, i ddefnyddio eu sgiliau rhwydweithio am ystod o resymau er enghraifft, i gefnogi cyflogadwyedd myfyrwyr ac i ddenu grantiau a buddsoddiad.
- Mae’n bosibl y gofynnir i aelodau chwarae rôl yn ymwneud â chysylltu rhwng budd-ddeiliaid allweddol a’r Coleg. Cânt eu briffio’n llawn gan y Coleg er mwyn eu galluogi i gyflawni’r rôl hon yn effeithiol. Fodd bynnag, rhaid i’r rôl hon yn benodol gael ei chyflawni mewn dull a gydlynir yn ofalus gyda swyddogion a staff uwch eraill y Coleg.
-
- Disgwylir i aelodau feddu ar ymrwymiad personol cryf i Addysg Bellach ac Uwch ac i genhadaeth, gwerthoedd, nodau ac amcanion y Coleg.
- Disgwylir i aelodau ymddwyn mewn modd teg a diduedd bob amser er budd y Coleg cyfan, gan ddefnyddio barn annibynnol a chynnal cyfrinachedd fel bo’n briodol.
- Mae’r Coleg yn ymrwymedig i greu cymuned ddysgu a gwaith gynhwysol sy’n rhydd o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, a ble mae’r holl staff a myfyrwyr yn cael eu cefnogi, eu parchu ac yn gallu dangos eu potensial. Ei nod yw creu diwylliant o ddidwylledd lle mae pobl yn teimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi a lle mae perthnasoedd rhyngbersonol da. Disgwylir i aelodau’r corff llywodraethu arddangos yr un ymddygiadau a ddisgwylir gan staff a myfyrwyr.
- Ar ôl cael eu penodi rhaid i aelodau gymryd rhan mewn sesiwn gynefino a drefnir ar eu cyfer gan y Coleg. Wedi hynny disgwylir iddynt gymryd rhan mewn digwyddiadau datblygu a gweithgareddau a drefnir gan y Coleg i’w cefnogi yn eu rôl, a all gael eu darparu’n fewnol neu’n allanol, ac mewn unrhyw broses arfarnu.
-
- Disgwylir i bob aelod annibynnol allu dangos y canlynol:
- Dealltwriaeth o Egwyddorion Nolan a pharodrwydd i gadw atynt.
- Ymrwymiad a brwdfrydedd ynghylch cenhadaeth a gwerthoedd y Coleg, ei ymdrech i gyflawni rhagoriaeth, ei genhadaeth ddinesig a’i uchelgeisiau strategol yng Nghymru a thu hwnt.
- Gwerthfawrogiad o’r gwerth a ddaw’r Coleg i’w gymunedau yng Nghymru.
- Gallu i gyfrannu at wella profiad myfyrwyr y Coleg a’u cyflogadwyedd.
- Ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
- Ymrwymiad i natur ddwyieithog y Coleg ac i wella iaith a diwylliant Cymru.
- Gonestrwydd, barn gadarn a meddwl ymchwilgar.
- Y gallu i feddwl yn strategol, gwneud penderfyniadau rhesymegol, dadansoddi gwybodaeth ac yna herio’n adeiladol fel ffrind critigol, gan gynnig cyngor call a doeth.
- Y gallu i gefnogi a gweithio’n effeithiol gydag aelodau eraill y corff llywodraethu ac uwch swyddogion y sefydliad.
- Sgiliau cyfathrebu da.
- Bod ar gael i baratoi ar gyfer cyfarfodydd y corff llywodraethu a phwyllgorau a bod yn bresennol ynddynt.
- Ymrwymiad i gymryd rhan yng ngwaith ehangach y Coleg trwy fynychu digwyddiadau priodol.
- Gallu a pharodrwydd i hyrwyddo’r Coleg yn y gymuned ehangach.
- Yn ychwanegol, disgwylir i aelodau fod â phrofiad mewn un maes neu fwy a bennir gan y corff llywodraethu yn unol â’i ofynion o ran galluogrwydd a sgiliau a phrofiad aelodau presennol. Mae’r corff llywodraethu wedi pennu bod y meysydd arbenigedd canlynol yn cynrychioli ei brif ofynion o ran galluogrwydd:
- Addysg bellach ac/neu uwch.
- Cynllunio strategol; busnes a chyllid; marchnata;
- Cyfrifeg, archwilio a risg;
- Taliadau; pensiynau;
- Entrepreneuriaeth; codi arian;
- Ystadau a datblygu eiddo;
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth;
- Materion cyfreithiol a rheoliadol;
- Adnoddau dynol;
- Y Gymraeg a dwyieithrwydd:
- Cenhadaeth ddinesig a chysylltiadau allanol;
- Disgwylir i bob aelod annibynnol allu dangos y canlynol:
-
- Bydd yr ymrwymiad o ran amser yn amrywio, ond amcangyfrifir y bydd yn golygu tua 8 - 15 diwrnod y flwyddyn i baratoi ar gyfer cyfarfodydd a bod yn bresennol ynddynt ac i fynychu digwyddiadau.
- Ni roddir tâl i aelodau’r corff llywodraethu ond gall aelodau, trwy weithdrefnau a nodir gan y Clerc, hawlio nôl costau teithio a thebyg a geir wrth gyflawni busnes y corff llywodraethu.
Dyddiad cymeradwyir gan y Bwrdd: 24 Mawrth 2022 Fersiwn: 1.0
Cyfarfod |
Campws |
Amser |
Dyddiad |
Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (cynllunio) | Y Graig | 4.00 PM | Dydd Iau 19eg Medi 2024 |
Pwyllgor Chwilio a Llywodraethiant | Pibwrlwyd | 10:30 AM | Dydd Iau 3ydd Hydref 2024 |
Cyfarfod Bwrdd (CSG a CC) | Y Graig |
3.30 PM (CC) 4.00 PM (CSG) |
Dydd Iau 17eg Hydref 2024 |
Hanner Tymor (28ain Hydref – 1af Tachwedd 2024) | |||
Pwyllgor Dysgwyr a Safonau | Y Graig | 4.00 PM |
Dydd Iau 7fed Tachwedd 2024 |
Pwyllgor Adnoddau Gwytnwch a Phartneriaethau | Y Graig | 4.00 PM | Dydd Iau 14eg Tachwedd 2024 |
Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg | Y Graig | 4.00 PM | Dydd Iau 21ain Tachwedd 2024 |
Pwyllgor Chwilio a Llywodraethiant | Pibwrlwyd | 10:30 AM | Dydd Mercher 27ain Tachwedd 2024 |
Cyfarfod Bwrdd (CSG a CC) | Pibwrlwyd |
3.30 PM (CC) 4.00 PM (CSG) |
Dydd Iau 12fed Rhagfyr 2024 |
Gwyliau’r Nadolig (23ain Rhagfyr 2024 – 3ydd Ionawr 2025) | |||
Pwyllgor Dysgwyr a Safonau | Y Graig | 4.00 PM | Dydd Iau 30ain Ionawr 2025 |
Pwyllgor Adnoddau Gwytnwch a Phartneriaethau | Y Graig | 4.00 PM | Dydd Iau 6ed Chwefror 2025 |
Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg | Y Graig | 4.00 PM | Dydd Iau 20fed Chwefror 2025 |
Hanner Tymor (24ain Chwefror – 28ain Chwefror 2025) | |||
Pwyllgor Chwilio a Llywodraethiant | Pibwrlwyd | 10:30 AM | Dydd Iau 20fed Mawrth 2025 |
Cyfarfod Bwrdd (CSG a CC) | Y Graig |
3.30 PM (CC) 4.00 PM (CSG) |
Dydd Iau 3ydd Ebrill 2025 |
Gwyliau’r Pasg (14eg Ebrill – 25ain Ebrill 2025) | |||
Pwyllgor Dysgwyr a Safonau | Y Graig | 4.00 PM | Dydd Iau 8fed Mai 2025 |
Pwyllgor Adnoddau Gwytnwch a Phartneriaethau | Y Graig | 4.00 PM | Dydd Iau 15fed Mai 2025 |
Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg | Y Graig | 4.00 PM | Dydd Iau 22ain Mai 2025 |
Hanner Tymor (26ain Mai – 30ain Mai 2025) | |||
Pwyllgor Tâl | Y Graig | 4.00 PM | Dydd Iau 5ed Mehefin 2025 |
Pwyllgor Chwilio a Llywodraethiant | Pibwrlwyd | 10:30 AM | Dydd Iau 12fed Mehefin 2025 |
Cyfarfod Bwrdd (CSG a CC) | Y Man a’r Lle Aberteifi |
3.30 PM (CC) 4.00 PM (CSG) |
Dydd Iau 26ain Mehefin 2025 |
-
- 1.1 Disgwyliadau’r Cyhoedd a’r Coleg
Mae disgwyliadau uchel gan y cyhoedd yng Nghymru ynghylch y rheiny sy’n gwasanaethu ar Fyrddau cyrff cyhoeddus a’r ffordd y dylent ymddwyn wrth ymgymryd â’u dyletswyddau. Yn y Cod Ymddygiad hwn mae Byrddau Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion wedi nodi eu disgwyliadau mewn perthynas ag ymddygiad Aelodau Bwrdd a Phwyllgorau. - 1.2 Defnyddio’r Cod
Bwriedir y Cod hwn fel canllaw, i ddynodi’r safonau ymddygiad ac atebolrwydd a ddisgwylir gan Aelodau Bwrdd a Phwyllgorau, er mwyn eu galluogi i ddeall eu dyletswyddau cyfreithiol a moesegol a’u cynorthwyo nhw wrth iddynt gyflawni’r dyletswyddau hynny a hefyd yn eu perthynas gyda’r Bwrdd a’r Pennaeth/Prif Weithredwr. - 1.3 Nod y Cod
Felly nod y cod hwn yw hyrwyddo llywodraethiant coleg effeithiol, gwybodus ac atebol, ac nid yw wedi’i fwriadu i fod yn ddatganiad diffiniol neu awdurdodol o’r gyfraith neu o arfer da. - 1.4 Deall y Cod
Os yw Aelod Bwrdd/Aelod Pwyllgor yn ansicr ynghylch darpariaethau’r Cod hwn neu unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo, dylid ymgynghori ag Ysgrifennydd y Cwmni/y Clerc i’r Bwrdd ac, os yn angenrheidiol, dylid cael cyngor proffesiynol. Fodd bynnag, mae’r cyfrifoldeb eithaf am briodoldeb ymddygiad fel Aelod Bwrdd/Pwyllgor y Coleg ac am unrhyw weithred neu ddiffyg yn hynny o beth yn gorffwys gyda’r Aelod Bwrdd/Pwyllgor unigol. - 1.5 Cymhwyso’r Cod
Mae’r Cod hwn yn berthnasol i bob un o bwyllgorau neu weithgorau’r Bwrdd ac i bob is-gwmni neu fenter ar y cyd o eiddo’r Coleg y gellir penodi Aelodau Bwrdd a Phwyllgor iddynt. - 1.6 Derbyn y Cod
Trwy dderbyn penodiad i’r Bwrdd/i Bwyllgor, mae pob Aelod Bwrdd/Pwyllgor yn cytuno i dderbyn darpariaethau’r Cod hwn. Gwahoddir Aelodau i gadarnhau eu derbyniad parhaus o’r Cod bob blwyddyn.
- 1.1 Disgwyliadau’r Cyhoedd a’r Coleg
-
- 2.1 Dyletswydd Aelodau Bwrdd/Pwyllgor
Mae gan Aelodau Bwrdd a Phwyllgor ddyletswydd ymddiriedol i’r Coleg.
Golyga hyn y dylent ddangos y ffyddlondeb mwyaf a gweithredu gyda phob ewyllys da er ei les pennaf. Dylai pob Aelod Bwrdd/Pwyllgor weithredu’n onest, yn ddiwyd ac (yn amodol ar y darpariaethau a welir ym mharagraff 7.1 y Cod hwn yn ymwneud â chydgyfrifoldeb) yn annibynnol. Dylai gweithredoedd Aelodau Bwrdd a Phwyllgor hyrwyddo a diogelu enw da’r Coleg ac ymddiriedaeth a hyder y rheiny mae’n delio gyda nhw. - 2.2 Gwneud penderfyniadau gan Aelodau Bwrdd/Pwyllgor
Ni ddylai penderfyniadau a gymerir gan Aelodau Bwrdd a Phwyllgor mewn cyfarfodydd Bwrdd/Pwyllgorau fod i unrhyw ddibenion amhriodol neu reswm personol. Rhaid i benderfyniadau a gymerir fod er budd y Coleg, ei fyfyrwyr a staff a defnyddwyr eraill y Coleg bob amser, a dylid eu cymryd gyda’r bwriad o ddiogelu cyllid cyhoeddus. Yn unol â hynny, ni ddylai Aelodau Bwrdd a Phwyllgor fod dan rwymedigaeth yn eu trafod a’u pleidleisio i unrhyw fandadau a roddir iddynt gan gyrff neu bersonau eraill. - 2.3 Cyfrifoldebau Aelodau Bwrdd/Pwyllgor
Rhaid i Aelodau Bwrdd a Phwyllgor ddilyn darpariaethau Erthyglau
Cymdeithasu’r Coleg ac yn benodol y cyfrifoldebau a roddir i’r Bwrdd gan
Erthyglau Cymdeithasu’r Coleg (Erthygl 6). Mae’r cyfrifoldebau hynny, gan gynnwys rhestr o gyfrifoldebau “neilltuedig” a ddisgrifir yn yr Erthyglau , na ddylid eu dirprwyo, wedi’u nodi hefyd yn Erthygl 6 a 7. - 2.4 Cydymffurfiaeth gan Aelodau Bwrdd/Pwyllgor
Dylai Aelodau Bwrdd a Phwyllgor gydymffurfio â Rheolau Sefydlog y Bwrdd a chylch gwaith ei bwyllgorau i sicrhau bod y Bwrdd yn cynnal ei hun mewn modd teg, agored a thryloyw. Rhaid i’r Bwrdd gadw’r Rheolau Sefydlog a chylch gwaith hynny dan arolwg cyfnodol. - 2.5 Rôl y Pennaeth/Prif Weithredwr
Dylai Aelodau Bwrdd a Phwyllgor hefyd ystyried y cyfrifoldebau gwahanol, ond cyflenwol a roddir i’r Pennaeth fel Prif Weithredwr y Coleg. Nodir y cyfrifoldebau a roddir i’r Pennaeth gan Erthyglau Cymdeithasu’r Coleg yn Erthygl 28 yr Erthyglau Cymdeithasu. Gan weld mai swyddogaeth y Bwrdd yw penderfynu polisi strategol a chyfeiriad cyffredinol ac i fonitro perfformiad y Pennaeth ac unrhyw ddeiliaid swyddi uwch eraill, rôl y Pennaeth yw gweithredu penderfyniadau’r Bwrdd, a rheoli materion y Coleg o fewn y cyllidebau a’r fframwaith a osodwyd gan y Bwrdd. Dylai Aelodau Bwrdd gydweithio fel bod y Bwrdd a’r Pennaeth fel Prif Weithredwr yn cyflawni eu rolau priodol yn effeithiol. - 2.6 Dyletswyddau i’r Brifysgol (Aelod)
Mae’n ofynnol i aelodau Bwrdd gydymffurfio â’r protocol sydd mewn grym ar gyfer y berthynas weithredol rhwng Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Choleg Sir Gâr. Mae’r protocol yn nodi sut, yn ymarferol, bydd PCYDDS yn gweithredu fel aelod o Goleg Sir Gâr a sut bydd CSG yn gweithredu fel is-gwmni PCYDDS, gan gynnwys cyfrifoldebau priodol, materion sydd angen eu cymeradwyo a’r llif gwybodaeth. - 2.7 Dyletswyddau i’r Comisiwn Elusennau
Mae aelodau Bwrdd yn Ymddiriedolwyr y Coleg ac mae angen iddynt
gyflawni eu dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol fel sy’n ofynnol gan y Comisiwn Elusennau. - 2.8 Dyletswydd i Lywodraeth Cymru
Mae aelodau’n gyfrifol ar y cyd am gadw at y dyletswyddau a nodwyd yn y Memorandwm Ariannol y mae’r Coleg wedi cytuno iddo gyda Llywodraeth Cymru fel amod o dderbyn cyllid cyhoeddus. - 2.9 Dyletswydd i asiantaethau ariannu eraill
Er mai Llywodraeth Cymru yw prif ddarparwr cyllid i’r Coleg, dylai aelodau nodi eu bod nhw hefyd yn gyfrifol am ddefnydd cywir incwm sy’n deillio o gyrff cyllido eraill.
- 2.1 Dyletswydd Aelodau Bwrdd/Pwyllgor
-
- 3.1 Diwydrwydd Dyladwy
Yn ei holl (g)waith e/hi ar gyfer y Coleg dylai Aelod Bwrdd/Pwyllgor ddangos yr holl sgil sydd ganddo fe/ganddi hi a’r fath ofal a diwydrwydd a ddisgwylid gan berson rhesymol dan yr amgylchiadau. Bydd hyn yn benodol o berthnasol pan fydd Aelodau Bwrdd a Phwyllgor yn gweithredu fel asiantau i’r Coleg, er enghraifft, pan ddirprwyir swyddogaethau i bwyllgor y Bwrdd neu i’r Cadeirydd.
- 3.1 Diwydrwydd Dyladwy
-
- 4.1 Gwrthdaro Buddiannau:
Fel personau eraill sydd â dyletswydd ymddiriedol, dylai Aelodau Bwrdd a
Phwyllgor geisio osgoi rhoi eu hunain mewn safle lle mae gwrthdaro (gwirioneddol neu bosibl) rhwng eu buddiannau personol a’u dyletswyddau i’r Bwrdd. Ni ddylent adael i unrhyw wrthdaro buddiannau ddigwydd a allai amharu arnynt yn arfer eu barn annibynnol. Dylid datgan unrhyw wrthdaro buddiant posibl i’r Bwrdd yn ystod eu cadarnhad blynyddol o gymhwyster i fod yn gyfarwyddwr cwmni neu, os yw’n digwydd yn ystod y flwyddyn, cyn gynted a bydd yn digwydd.
- 4.1 Gwrthdaro Buddiannau:
-
- 5.1 Pwerau’r Bwrdd
Mae Aelodau Bwrdd yn gyfrifol am gymryd penderfyniadau sydd o fewn y
pwerau a roddir i’r Bwrdd gan y Senedd dan adrannau 18 ac 19 Deddf
Addysg Bellach ac Uwch 1992. Ceir crynodeb o’r pwerau hynny yn Atodiad 6. Os yw Aelod o’r Bwrdd yn meddwl bod y Bwrdd yn debygol o weithredu’r tu hwnt i’w bwerau wrth wneud penderfyniad penodol, dylai ef neu hi gyfeirio’r mater ar unwaith i Ysgrifennydd y Cwmni/y Clerc i’r Bwrdd i gael cyngor.
- 5.1 Pwerau’r Bwrdd
-
- 6.1 Datgeliad
Rhaid i Aelodau Bwrdd a Phwyllgor ddatgelu i’r Bwrdd unrhyw fuddiannau ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol sydd ganddynt, neu a all fod ganddynt, ynghylch cyflenwi gwaith i’r Coleg neu gyflenwi nwyddau at ddibenion y Coleg, neu mewn unrhyw gontract neu gontract arfaethedig yn gysylltiedig â’r Coleg, neu mewn unrhyw fater arall yn ymwneud â’r Coleg neu unrhyw fuddiant arall o’r math a nodwyd gan y Bwrdd mewn unrhyw fater yn ymwneud â’r Coleg, neu unrhyw ddyletswydd sy’n faterol ac sydd yn gwrthdaro neu a all wrthdaro gyda buddiannau’r Bwrdd. - 6.2 Adrodd am Ddatgeliad
Os yw buddiant o unrhyw fath (gan gynnwys buddiant priod neu bartner Aelod Bwrdd/Pwyllgor neu berthynas agos yr Aelod Bwrdd/Pwyllgor neu ei bartner/phartner neu briod) yn debygol neu a ganfyddir, pe bai’n hysbys i’r cyhoedd, o fod yn debygol o amharu â gallu Aelod Bwrdd/Pwyllgor i arfer barn annibynol, yna: -- 6.2.1 dylid adrodd am y buddiant, boed yn ariannol neu fel arall, wrth Ysgrifennydd y Cwmni/y Clerc i’r Bwrdd;
6.2.2 dylid gwneud datgeliad llawn i’r Bwrdd o natur a maint y buddiant cyn bod y mater sy’n achosi’r buddiant yn cael ei ystyried;
6.2.3 os yw’r Aelod Bwrdd/Pwyllgor dan sylw’n bresennol mewn cyfarfod Bwrdd/Pwyllgor, neu unrhyw un o’i bwyllgorau, lle’r ystyrir cyflenwi, contract neu fater arall yn gysylltiedig â’r buddiant, dylai ef neu hi: -
a. ymatal rhag cymryd rhan yn y broses o ystyried neu bleidleisio ar unrhyw gwestiwn yn ymwneud â hyn ac ni chaiff ei gyfrif yn y cworwm ar gyfer y cyfarfod hwnnw; a
b. thynnu nôl o’r cyfarfod Bwrdd neu bwyllgor hwnnw pan ofynnir i wneud hynny gan fwyafrif Aelodau’r Bwrdd neu bwyllgor sy’n bresennol yn y cyfarfod.
- 6.2.1 dylid adrodd am y buddiant, boed yn ariannol neu fel arall, wrth Ysgrifennydd y Cwmni/y Clerc i’r Bwrdd;
- 6.3 Diffiniad o ‘berthynas agos’
At ddibenion cymal 6.2 mae “perthynas agos” yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i dad, mam, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr a llystad/llysfam llysfrawd/llyschwaer/llysblentyn. - 6.4 Derbyn buddion
Ni ddylai Aelodau Bwrdd a Phwyllgor dderbyn rhoddion, lletygarwch neu fuddion o unrhyw fath oddi wrth drydydd parti y gellid eu hystyried i fod yn peryglu eu barn neu gywirdeb personol. Dylid adrodd ar unwaith wrth Ysgrifennydd y Cwmni/y Clerc i’r Bwrdd am unrhyw gynnig neu dderbyn rhoddion, lletygarwch neu fuddion o’r fath. - 6.5 Cofrestru Buddiannau
Bydd Ysgrifennydd y Cwmni/y Clerc i’r Bwrdd yn cadw Cofrestr o Fuddiannau Aelodau a fydd yn agored i’w harchwilio gan y cyhoedd. Rhaid i Aelodau Bwrdd a Phwyllgor ddatgelu’n rheolaidd i’r Bwrdd pob buddiant busnes, ariannol neu fel arall, a all fod ganddynt, a bydd Ysgrifennydd y Cwmni/y Clerc i’r Bwrdd yn nodi’r fath fuddiannau ar y Gofrestr. Rhaid i Aelodau Bwrdd a Phwyllgor roi manylion digonol i ganiatáu i natur y buddiannau gael eu deall gan ymholwyr. Dylai Aelodau Bwrdd a Phwyllgor hysbysu Ysgrifennydd y Cwmni/y Clerc i’r Bwrdd pryd bynnag bydd eu hamgylchiadau’n newid a buddiannau’n cael eu caffael neu’u colli. Wrth benderfynu a ddylid datgelu buddiant, dylai Aelodau Bwrdd a Phwyllgor ystyried yr ystyr a roddir i “fuddiant” ym mharagraffau 6.2 a 6.3 y Cod hwn.
- 6.1 Datgeliad
-
- 7.1 Cydgyfrifoldeb
Mae’r Bwrdd yn gweithredu trwy Aelodau Bwrdd yn cymryd penderfyniadau mwyafrifol mewn modd corfforaethol mewn cyfarfodydd â chworwm. Felly, mae penderfyniad y Bwrdd, hyd yn oed pan nad yw’n unfrydol, yn benderfyniad a gymerwyd gan Aelodau’r Bwrdd yn gyfunol ac mae gan bob Aelod Bwrdd unigol ddyletswydd i’w gynnal, boed ef neu hi’n bresennol ai peidio yng nghyfarfod y Bwrdd pan wnaed y penderfyniad. - 7.2 Anghytuno â phenderfyniadau
Os yw Aelod Bwrdd yn anghytuno â phenderfyniad a gymerwyd gan y
Bwrdd, ei (d)dyletswydd gyntaf yw i gael trafod a chofnodi unrhyw anghytundeb. Os yw’r Aelod Bwrdd yn anghytuno’n gryf, dylai ef neu hi ofyn cyngor gan y Cadeirydd ac, os oes angen, yna codi’r mater gyda’r Bwrdd pan fydd yn cwrdd nesaf. Os nad oes cyfarfod wedi’i amserlennu, dylai’r Aelod Bwrdd gyfeirio at bŵer y Cadeirydd neu unrhyw bum Aelod Bwrdd dan Offeryn Llywodraethu’r Coleg i alw cyfarfod arbennig ac, os yn briodol, ei arfer, gan ofyn i Ysgrifennydd y Cwmni/y Clerc i’r Bwrdd am ddosbarthu safbwyntiau’r Aelod Bwrdd i Aelodau Bwrdd eraill ymlaen llaw. Fel arall, yn niffyg dim arall, gall yr Aelod Bwrdd benderfynu cynnig ei (h)ymddiswyddiad o’r rôl, ar ôl gofyn cyngor gan y Cadeirydd.
- 7.1 Cydgyfrifoldeb
-
- 8.1 Didwylledd ac eglurder
Oherwydd atebolrwydd cyhoeddus y Bwrdd a phwysigrwydd cynnal ei fusnes mewn modd didwyll ac eglur, dylai Aelodau Bwrdd a Phwyllgor sicrhau, fel egwyddor gyffredinol, bod myfyrwyr a staff y Coleg yn cael
mynediad rhydd i wybodaeth am achosion y Bwrdd. Yn unol â hynny, mae agendâu, cofnodion a phapurau eraill yn ymwneud â chyfarfodydd y Bwrdd fel arfer ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd pan fyddant wedi cael eu cymeradwyo i’w cyhoeddi gan y Cadeirydd. - 8.2 Eitemau agenda cyfrinachol a gwybodaeth sensitif
Fe fydd yna achlysuron pan na fydd cofnod trafodaethau a phenderfyniadau yn cael eu gwneud ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd; er enghraifft, pan fydd y Bwrdd yn ystyried materion sensitif neu unigolion penodol ac am resymau da eraill. Caiff y fath eitemau eithriedig eu cadw mewn ffolder cyfrinachol gan Ysgrifennydd y Cwmni/y Clerc i’r Bwrdd, a chânt eu dosbarthu’n gyfrinachol i Aelodau’r Bwrdd. Mae rhai eitemau cyfrinachol yn debygol o fod yn sensitif eu natur am gyfnod penodol o amser yn unig (er enghraifft gwybodaeth yn ymwneud â thrafodion masnachol arfaethedig neu gydweithio â sefydliad arall). Dylai’r Bwrdd nodi’n benodol am ba mor hir y dylid trin y fath eitemau fel cyfrinachol neu, os nad yw hyn yn bosibl, dylid adolygu’r fath eitemau’n rheolaidd i ystyried p’un a ddylid tynnu i ffwrdd y statws cyfrinachol neu p’un a yw’r buddiant i’r cyhoedd o ddatgeliad yn drech na’r statws cyfrinachol hwnnw ac yna gwneud yr eitem ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd. Wrth ystyried materion o’r fath, rhaid i Aelodau Bwrdd hefyd ystyried cynllun cyhoeddi’r Coleg a gyhoeddwyd dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. - 8.3 Cyfyngu mynediad i aelodau staff a myfyrwyr
Fodd bynnag, nid oes hawl mynediad gan Aelodau Bwrdd staff a myfyrwyr i gofnodion sy’n delio gyda materion y mae’n ofynnol iddynt adael y cyfarfodydd o’u herwydd dan Offeryn Llywodraethu’r Coleg. - 8.4 Cyfrinachedd
Mae’n bwysig bod y Bwrdd a’i Bwyllgorau yn cael trafodaethau llawn ac agored er mwyn cymryd penderfyniadau yn gyfunol. I wneud hynny, rhaid bod ymddiried rhwng Aelodau Bwrdd a Phwyllgor gyda chyfrifoldeb
corfforaethol rhanedig am benderfyniadau. Dylai Aelodau Bwrdd a Phwyllgor gadw’n gyfrinachol unrhyw fater, oherwydd ei natur, y mae Cadeirydd neu Aelodau unrhyw Bwyllgor y Bwrdd yn sicr y dylid delio ag ef yn gyfrinachol. - 8.5 Gwneud gwybodaeth yn gyhoeddus
Ni ddylai Aelodau Bwrdd a Phwyllgor wneud datganiadau i’r wasg neu’r cyfryngau neu mewn unrhyw gyfarfod cyhoeddus yn ymwneud ag achosion y Bwrdd neu ei Bwyllgorau heb yn gyntaf cael sêl bendith y
Cadeirydd neu, yn ei (h)absenoldeb ef/hi, yr Is-gadeirydd. Mae’n anfoesegol i Aelodau Bwrdd a Phwyllgor feirniadu’n gyhoeddus, canfasio neu ddatgelu safbwyntiau Aelodau Bwrdd a Phwyllgor eraill a fynegwyd yng nghyfarfodydd y Bwrdd neu ei Bwyllgorau.
- 8.1 Didwylledd ac eglurder
-
- 9.1 Gweithdrefn gwyno
Er mwyn sicrhau y caiff materion y Coleg eu cynnal mewn modd agored ac eglur a bod y Coleg yn atebol am ei ddefnydd o gyllid cyhoeddus ond hefyd i’w gyflogeion, ei fyfyrwyr a’r gymuned mae’n ei gwasanaethu, mae’n bwysig bod yna weithdrefnau cwyno priodol yn eu lle ac i’r rhain fod yn dra hysbys. Atgoffir Aelodau Bwrdd a Phwyllgor o’u cyfrifoldeb penodol dan yr Erthyglau Cymdeithasu i wneud rheolau’n nodi’n benodol y gweithdrefnau yn unol â’r rhain y gall cyflogeion geisio iawn am unrhyw achwynion yn ymwneud â’u cyflogaeth, o bwysigrwydd cael gweithdrefnau cwyno ffurfiol yn eu lle i drin materion a godir gan fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a thrydydd partïon ac o’r gofynion cyfreithiol i gael gweithdrefn chwythu’r chwiban yn ei lle. - 9.2 Ymchwilio i Gwynion
Atgoffir Aelodau Bwrdd a Phwyllgor fod rhaid i’r coleg ymchwilio i:- bob honiad o afreoleidd-dra (ymddygiad anghyfreithlon neu anfoesegol, camymddwyn ariannol, materion cydraddoldeb ac amrywiaeth a risgiau iechyd a diogelwch i staff, dysgwyr neu’r cyhoedd;
- ansawdd neu reolaeth darpariaeth ddysgu, oedi gormodol neu ddiffyg cydymffurfio â gweithdrefnau cyhoeddedig, a chwynion a wnaed gan ddysgwyr.
- 9.1 Gweithdrefn gwyno
-
- 10.1 Presenoldeb Aelodau Bwrdd/Pwyllgor Members
Disgwylir lefel uchel o bresenoldeb mewn cyfarfodydd Bwrdd/Pwyllgor [dylid cyfeirio at Reolau Sefydlog y Coleg am ofyniad presenoldeb manwl] fel bod Aelodau Bwrdd a Phwyllgor yn gallu cyflawni eu swyddogaethau’n briodol.
- 10.1 Presenoldeb Aelodau Bwrdd/Pwyllgor Members
-
- 11.1 Dewis Aelodau Bwrdd/Pwyllgor
Bydd y Bwrdd/Pwyllgor yn ceisio sicrhau bod yr holl Aelodau Bwrdd a Phwyllgor yn cael eu penodi ar sail teilyngdod, yn unol â gweithdrefn ddewis agored a gyflawnir gan Bwyllgor Chwilio a Llywodraethiant y Bwrdd, ac yn cael eu tynnu’n helaeth o’r gymuned y mae’r Coleg yn ei
gwasanaethu er mwyn bod yn gynrychiadol o’r gymuned honno. Dylai’r Bwrdd ystyried y darpariaethau’n ymwneud ag aelodaeth y Bwrdd yn Erthyglau’r Coleg, yr angen i ymladd yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cydraddoldeb, a’r angen i wneud ystod o sgiliau angenrheidiol a phrofiad ar gael er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni ei swyddogaethau dan Erthyglau Cymdeithasu’r Coleg. - 11.2 Cymryd rhan mewn hyfforddiant
Rhaid i Aelodau Bwrdd a Phwyllgor gael sylfaen drylwyr yn eu dyletswyddau a chyfrifoldebau trwy gymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddi a chynefino llywodraethiant a ddarperir yn fewnol ac yn allanol, gan gynnwys gweithdai diweddaru rheolaidd. - 11.3 Adolygu Perfformiad yn Flynyddol
Er mwyn hyrwyddo llywodraethiant mwy effeithiol, bydd Aelodau Bwrdd yn cynnal adolygiad dwyflynyddol o’r perfformiadgan y Bwrdd, a’i Bwyllgorau, o’u dyletswyddau a chyfrifoldebau, fel rhan o broses hunanwerthuso feirniadol a pharhaus.
- 11.1 Dewis Aelodau Bwrdd/Pwyllgor