BA Anrhydedd Dylunio Ffasiwn (Cwrs Prifysgol)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Mae gan Ysgol Gelf Caerfyrddin enw da sefydledig am hwyluso datblygiad creadigol myfyrwyr celf a dylunio. Trwy ddewis astudio gyda ni, nid rhif yn unig ydych chi. Rydym yn ysgol gelf fechan, gyfeillgar, bwrpasol sy’n cynnig ystod eang o gyfleusterau cyfoes, arloesol a thraddodiadol. Mae’r rhaglen BA (Anrh) mewn Dylunio Ffasiwn hon sydd wedi ennill ei phlwyf wedi datblygu mewn ymateb i ymarfer cyfoes, dylunio ffasiwn, diwylliant a diwydiant. Mae’r rhaglen yn caniatáu i chi archwilio’r cylch dylunio cyfan o ragweld gogwyddion ffasiwn drwodd i’r dilledyn gorffenedig.
Nod y cwrs yw datblygu eich sgiliau creadigol a thechnegol gan ganolbwyntio ar ennill gwaith yn y diwydiant ffasiwn. Caiff myfyrwyr eu hannog i fod yn unigolion annibynnol, ymholgar sy’n gallu ymateb i brosiectau’r diwydiant a gwaith y byddant yn cychwyn eu hunain. Mae’r cwrs yn annog creadigrwydd ac arloesedd mewn amgylchedd gwaith bywiog.
Caiff myfyrwyr fynediad i adnoddau diwydiant-benodol fel peiriannau diwydiannol, y technolegau uno Gerber a laser/uwchsonig diweddaraf a phecynnau meddalwedd digidol.
Rhoddir cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ac archwilio rhagweld gogwyddion ffasiwn, dylunio, darlunio, torri patrymau, llunio, steilio a chyfryngau traddodiadol a digidol hefyd. Anogir unigolion i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd drwy ymwneud â phrosiectau byw yn y diwydiant a osodir gan frandiau ffasiwn. Mae’r flwyddyn olaf yn cyrraedd ei hanterth gyda’r myfyrwyr yn arddangos eu casgliadau rhodfa ffasiwn mewn arddangosfa a sioe ffasiynau.
Mae ymarfer myfyrwyr yn cael ei ategu gan raglen theori integredig sy’n galluogi myfyrwyr i weithio’n hyderus ac yn broffesiynol o fewn y cyd-destun Ffasiwn. Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn darparu amgylchedd cyfeillgar, cefnogol ac anogol i fyfyrwyr archwilio cyfleoedd a datblygu eu steil unigol a photensial.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Rhaglen radd ag adnoddau da sy’n cynnwys corff amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Tanategir y rhain gan gysylltiadau diwydiannol cryf â brandiau’r stryd fawr sy’n darparu ymarfer diwydiannol hynod berthnasol i chi.
Yn ogystal, cynigiwn lefel uchel o arbenigedd tiwtoriaid mewn dylunio, torri patrymau a llunio.
Mae’r cwrs yn aelod-goleg o’r Cyngor Ffasiwn Prydeinig nodedig sy’n rhoi mynediad i’n myfyrwyr i brosiectau uchel eu parch yn y diwydiant, sgyrsiau, cystadlaethau ac interniaethau.
Mae maint dosbarthiadau yn fach sy’n caniatáu lefel uchel o gyswllt gyda thiwtoriaid a mynediad hawdd i adnoddau.
Mae blwyddyn olaf yr astudiaeth yn caniatáu i fyfyrwyr greu corff o waith annibynnol, personol ac unigryw, gyda chefnogaeth gan staff wrth greu casgliad terfynol. Wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer y diwydiant, mae staff yn gweithio’n agos gyda chi i greu portffolio terfynol o waith i’w arddangos i weithwyr proffesiynol y diwydiant.
Bydd y flwyddyn olaf yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich gwaith mewn arddangosfa a sioe ffasiynau.
Ein nod yw gwella unigoliaeth, creadigrwydd, arloesedd a dawn pob myfyriwr mewn amgylchedd cefnogol, cyfeillgar i fod yn barod ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant.
Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac astudiaeth annibynnol.
Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso’r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy’n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.
Dylunio ffasiwn, darlunio ffasiwn, prynu ffasiwn, rhagweld gogwyddion ffasiwn, steilio, marsiandïaeth weledol, dylunio gwisgoedd ar gyfer ffilmiau/teledu, torri patrymau, technoleg dillad, cynorthwyydd samplo, athro/darlithydd ac astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD).
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Gweithdrefnau dethol
Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein drwy UCAS. Ein cod Sefydliad UCAS yw C22 a chod y cwrs yw W2H0. Gwneir cynigion yn seiliedig ar y cais UCAS, graddau disgwyliedig (os yw’n berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a’ch bod chi’n iawn ar gyfer y cwrs. Oherwydd datblygu perthynas â chi o’r cychwyn cyntaf, mae ein cyfraddau tynnu’n ôl yn fach iawn. Rydym yn ymdrechu’n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.
Mae croeso i ymgeiswyr hŷn sydd â phrofiad blaenorol perthnasol ac fe’u hystyrir ar sail unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda
Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.
Nod y Fframwaith hwn yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth bwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credyd fesul lefel ar hyd eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae modiwlau’r Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a dangos tystiolaeth, o ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar yrfaoedd sy’n gysylltiedig â’ch maes pwnc chi. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gallu digidol, ymchwil a rheoli prosiect, yn ogystal â’r fath gymwyseddau personol â chyfathrebu, creadigrwydd, hunanfyfyrio, gwytnwch a datrys problemau.
Dewch i wybod mwy am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion