Academi Sgiliau Gwyrdd
Wedi’i sefydlu yn 2021, mae’r Academi Sgiliau Gwyrdd ar genhadaeth i egluro cynaladwyedd a hyrwyddo arferion byw a gweithio mwy gwyrdd. Mae ein gweledigaeth yn glir: rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i unigolion a sefydliadau i gefnogi Cymru i gyflawni Sero Net erbyn 2030.
Intro Text
Yn yr Academi Sgiliau Gwyrdd, rydym yn credu mai nid gair ffasiynol yn unig yw cynaladwyedd—mae’n ffordd o fyw. Trwy ymgysylltu â’r gymuned, gweithgareddau myfyrwyr, ac ystod gynhwysfawr o gyrsiau a chymwysterau, rydym yn grymuso ein dysgwyr i wneud cyfraniadau ystyrlon at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Pam astudio gyda'r Academi Sgiliau Gwyrdd?
Content
-
Ein hymrwymiad i ddysgu ymarferol.
Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i ddarparu mewnwelediadau gweithredadwy ac atebion byd go iawn y gellir eu rhoi ar waith ar unwaith. P’un a ydych chi’n unigolyn sy’n dymuno dyfnhau eich dealltwriaeth o gynaladwyedd neu’n sefydliad sy’n ymdrechu i integreiddio arferion gwyrddach i’ch gweithrediadau, rydym yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.
-
Mae ein cyrsiau wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion amrywiol dysgwyr ar bob cam o’u taith gynaladwyedd. P’un a ydych yn ddechreuwr sy’n edrych i ddeall y pethau sylfaenol neu’n weithiwr proffesiynol profiadol sy’n ceisio hyfforddiant uwch, mae gennym yr adnoddau a’r arbenigedd i’ch helpu i lwyddo. Fel Canolfan Ragoriaeth IEMA, mae ein hymrwymiad i ragoriaeth mewn rheolaeth amgylcheddol ac addysg cynaladwyedd yn cael ei gydnabod yn fyd-eang. Trwy ein gweithdai ymarferol, darlithoedd difyr, a phrosiectau ymarferol, byddwch yn magu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyflym. Ymunwch â ni a byddwch yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol yn eich cymuned a thu hwnt.
Meysydd Pwnc Academi Sgiliau Gwyrdd
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (CDP) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.