BA (Anrhydedd) Ymarfer Celfyddyd Gain (BA (Hons))
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Mae rhaglen y Radd Ymarfer Celfyddyd Gain yn unigryw o fewn Cymru oherwydd cyfleusterau’r ffowndri bwrpasol a’r stiwdio brintiau ddynodedig. Mae’r cwrs yn rhoi pwyslais ar arbrofi mewn amgylchedd stiwdio cyffrous wedi’i gefnogi gan weithdai arbenigol; gan archwilio’r gorffennol i lywio ymarfer cyfoes.
Mae’r cwrs gradd yn ddynamig, yn heriol ac yn greadigol, ac yn cael ei redeg gan diwtoriaid sy’n arbenigwyr cydnabyddedig yn eu maes. Ein nod yw bod ein myfyrwyr yn ymchwilio a deall y byd celfyddyd gain cyfoes a’i safle datblygol parhaus o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol a gwleidyddol. Mae’r dirwedd leol yn chwarae rôl graff yn y ddarpariaeth i fyfyrwyr archwilio ymarfer gosodiadau, perfformiad a chelfyddyd y tir safle-benodol. Bydd hyn yn eich annog a’ch galluogi i ffurfio dulliau arbrofol trwy amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol. Caiff gweithdai dulliau a deunyddiau eu haddysgu mewn modd ymarferol; gan werthfawrogi pwysigrwydd meddwl trwy wneud.
Anogir pob myfyriwr i fynd i’r afael â maes eang celfyddyd gain trwy ddarlithoedd ar ei hanes, ei diwylliant a’i safle cyfoes. Ategir hyn trwy drafod eich gwaith mewn tiwtorialau un i un, seminarau, beirniadaethau grŵp a thrawsgyrsiol. Byddwch yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyflogadwyedd yn y diwydiannau creadigol. Mae gan lawer o gyn-fyfyrwyr yrfaoedd sefydledig yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn ffurfio iaith hyderus wrth ymateb i ymarfer celf gyfoes erbyn diwedd eu hastudiaethau.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hysgol gelf yn cynnig mannau gwaith unigol a gweithdai penodol i chi ar gyfer ffabrigo dur, cerfio carreg, coed, plastr, lluniadu’r byw, peintio, a stiwdio brintiau ar gyfer gwaith bloc pren, lithograffeg cerrig ac ysgythru. Mae’r adran yn cynnwys yr unig ffowndri yn y DU sy’n arbenigo mewn castio efydd, alwminiwm a haearn.
Mae’r flwyddyn gyntaf wedi’i strwythuro o gwmpas ymchwilio seiliedig ar sgiliau i gerflunio, peintio, a gwneud printiau, gan ddysgu drwy brofiad ymarferol mewn amgylchedd diogel a chynhwysol. Mae’r holl fyfyrwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau lluniadau cynrychiadol drwy arsylwi’n agos ar fywyd llonydd a’r ffurf. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn byddwch yn mynegi ac yn archwilio eich diddordebau artistig, cymdeithasol a phersonol yn annibynnol ac yn feirniadol, wedi eu llywio gan ymchwil canolbwyntiedig. Bydd sesiynau tiwtorial wythnosol gyda thiwtoriaid yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu a chreu corff personol o waith. Mae myfyrwyr yn cael mannau stiwdio pwrpasol mewn amgylchedd golau ac awyrog sydd â’r holl gyfarpar. Mae maint dosbarthiadau yn fach sy’n caniatáu lefel uchel o ryngweithio gyda thiwtoriaid a mynediad hawdd i adnoddau.
Mae’r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar grefft a sgil. Mae darlithoedd a deialogau cyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a’ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, fel y bydd gennych yr offer i fapio ac ymchwilio i’ch diddordebau eich hun. Mae cyfleoedd mynych ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau cyhoeddus yn eich paratoi’n broffesiynol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd posib. Mae’r holl sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol. Mae’r gallu hwn i feddwl yn greadigol a addysgir sy’n gysylltiedig ag ymarfer celfyddyd gain yn dod yn gynyddol bwysig ym myd masnach a busnes.
Ein nod yw helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial llawn o fewn amgylchedd gwaith cefnogol, cyfeillgar, meithriniol a chreadigol.
Artist hunan-gyflogedig, cerflunydd, cynorthwyydd artist, entrepreneur, dylunydd golygfeydd, therapydd celf, adeiladwr setiau, gweithiwr sector cyhoeddus, addysgwr, curadur arddangosfeydd, beirniad celf / newyddiadurwr, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), arloeswr, dylunydd.
Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac astudiaeth annibynnol.
Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso’r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy’n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesu ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Does dim ffi stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein drwy UCAS, ein cod Sefydliad UCAS yw C22 a chod y cwrs yw W105. Gwneir cynigion yn seiliedig ar y cais UCAS, graddau disgwyliedig (os yw’n berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a’ch bod chi’n iawn ar gyfer y cwrs. Oherwydd datblygu perthynas â chi o’r cychwyn cyntaf, mae ein cyfraddau tynnu’n ôl yn fach iawn. Rydym yn ymdrechu’n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.
Mae croeso i ymgeiswyr hŷn sydd â phrofiad blaenorol perthnasol ac fe’u hystyrir ar sail unigol.
Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.