Skip page header and navigation

Rhagarweiniad

Ein huchelgais yng Ngholeg Sir Gâr / Coleg Ceredigion yw creu man cynhwysol i weithio ac astudio ynddo, un a nodweddir gan Undod rhwng ein holl gymuned. Lle mae yna ymdeimlad o gydraddoldeb, amrywiaeth, ac ymdeimlad o berthyn rhwng ein holl fudd-ddeiliaid.

Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu ac mae pawb yn cael eu trin yn deg, waeth beth fo’u rhyw, hunaniaeth rhywedd, anabledd, ethnigrwydd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol neu drawsryweddol, oed, neu genedligrwydd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd traws-gynhwysol i’n holl staff, myfyrwyr, partneriaid ac ymwelwyr, sy’n cefnogi pobl drawsrywiol, anneuaidd a phobl â hunaniaethau eraill. Byddwn yn cyflawni hyn drwy adolygu ein polisïau a’r arweiniad a’r hyfforddiant rydym yn eu darparu yn barhaus.

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol

Rydym wedi derbyn y symbol Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Mae’r statws hwn yn nodi’r cyflogwyr hynny sydd wedi cytuno i gymryd cyfres o gamau gweithredu’n ymwneud â recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd pobl anabl a’r rheiny â chyflyrau iechyd.

Ym mis Ionawr 23 gwnaethom lofnodi’r addewid Amser i Newid ar ôl cwblhau ein hunanasesiad a’n cynllun gweithredu, gan ddangos ein hymrwymiad i helpu codi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â’r stigma sy’n ymwneud ag iechyd meddwl ar gyfer ein staff a’n myfyrwyr.

Rhaglen a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yw Amser i Newid i herio stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl.

Fel rhan o’r addewid, rydym wedi llunio cynllun gweithredu sy’n cynnwys ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ar gyfer staff a myfyrwyr, a hyfforddiant ar gyfer rheolwyr llinell a staff rheng flaen.

Time to change wales logo

Mae’r Grŵp Arwain Pobl Dduon AB yn bodoli i herio hiliaeth systemig er budd yr holl gymunedau Du a chymdeithas ehangach y DU yn ei chyfanrwydd, i fod yn llais awdurdodol Gwrth-hiliaeth mewn F/AU, ysgolion, y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat, a hyrwyddo buddiannau pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol sy’n rhannu profiad byw o effeithiau hiliaeth.

Fel aelod o’r Grŵp Arwain Pobl Dduon AB, rydym wedi cwblhau hunanasesiad a Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth i ddangos ein hymrwymiad i fod yn goleg gwrth-hiliaeth i’n holl gymuned.

Black FE Leadership group logo

Yng Ngholeg Sir Gâr / Coleg Ceredigion, rydym yn gwerthfawrogi ac yn dathlu amrywiaeth hiliol ac ethnig o fewn ein cymuned ac rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol.

Ein nod yw hyrwyddo cyfleoedd a chanlyniadau teg i’n holl staff a myfyrwyr, ac nid oes gennym unrhyw oddefgarwch tuag at hiliaeth a gwahaniaethu o unrhyw fath.

Rydym yn canolbwyntio’n helaeth ar fod yn sefydliad gwirioneddol wrth-hiliaeth ac rydym yn gysylltiedig fel rhan o’r Grŵp Arwain Pobl Dduon sy’n ein cefnogi ni ynghyd â phob SAB arall yng Nghymru i ddatblygu eu Cynllun Gweithredu Gwrth Hiliaeth.