Clybiau a Chymdeithasau
Introduction




Anogir clybiau, grwpiau a chymdeithasau newydd ar draws yr holl gampysau.
Mae clybiau diweddar wedi cynnwys Clwb Ffilm, Clwb Dungeons and Dragons, Gwyddbwyll, Uno, grŵp Her Blazepod, Clwb Rhithwir, a llawer mwy. Yn syml, rydyn ni am i chi ddweud wrthym ba grwpiau neu glybiau hoffech chi eu creu a bydd y Tîm Lles yn gwneud eu gorau i helpu sefydlu a hwyluso hyn.
Yn aml, mae’r clybiau hyn angen cyllid o ryw fath i brynu cyfarpar er enghraifft, ac mae Undeb Myfyrwyr y coleg yn awyddus i helpu lle y gall gyda’i gyllid.
Yn ogystal â’r clybiau chwaraeon a chymdeithasol, mae hefyd gennym grwpiau’n cynnwys LGBTQ+, Anabl, Amgylcheddol, Gofalwyr Ifanc, yr Undeb Cristnogol, Niwroamrywiol ac ystod gyfan o rai eraill y gallech chi ymuno â nhw pe bai diddordeb gennych.
Mae rhai grwpiau’n benodol i gampws, ond mae bod ar-lein yn galluogi’r grwpiau hyn i gwrdd lan, waeth beth fo’u lleoliad. Mae hyn yn cryfhau’r gymuned ac yn caniatáu i’r grwpiau dyfu’n fwy, ac yn eu tro, yn gryfach.
Os hoffech chi sefydlu eich grŵp eich hun, cysylltwch ag Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr, y Cydlynydd Byddwch Actif neu’r Swyddog Lles ar eich campws.
Our Esports staff and Academy students recently attended BETT 2025, where our CSG Rocket League Team competed in this year’s British Esports Student Champs Rocket League Tournament.

The National Saturday Club is an initiative involving thousands of young people taking part in various clubs across the UK.

Poppy Bishop is a music technology student at Coleg Sir Gâr who has released her first ever music track.
