Skip page header and navigation

ReAct+

  • Hyd at £1,500 i’ch helpu i gael y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnoch - Grant Hyfforddiant Galwedigaethol;
  • Hyd at £4,550 i helpu talu costau gofal plant/gofal pan fyddwch chi’n hyfforddi;
  • Hyd at £500 o gymorth datblygu personol i’ch helpu i fynd i’r afael â’r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd - Cymorth Datblygu Personol;
  • Mentora a phrofiad gwaith;
  • Hyd at £300 o gymorth ar ben hynny tuag at gostau ychwanegol pan fyddwch chi’n hyfforddi, gan gynnwys teithio a llety.

Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth ReAct+ mae’n rhaid eich bod yn 18 oed neu’n hŷn, yn byw yng Nghymru, gyda hawl i fyw a gweithio yn y DU, ac yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:

  • Wedi cael hysbysiad colli swydd ffurfiol;
  • Wedi colli swydd neu ddod yn ddi-waith o fewn y 12 mis diwethaf;
  • Bod rhwng 18 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i hyd at £1500 i’ch helpu i gael y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnoch. Rhowch gipolwg ar y cyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Sir Gâr/Coleg Ceredigion a hefyd am rai astudiaethau achos gwych hyd yn hyn.

Gallwch gysylltu â ni o hyd i gael cyngor ynglŷn â pha gyllid a hyfforddiant arall sydd ar gael yn bdi@colegsirgar.ac.uk

Gall cymorth ReAct+ hefyd gynnwys help gyda chostau gofal plant/gofalu pan fyddwch yn hyfforddi, mentora a phrofiad gwaith a chostau eraill sy’n helpu i ddileu rhwystrau i gyflogaeth. I gael mwy o gyngor ynglŷn â hyn cysylltwch â Cymru’n Gweithio neu ffoniwch nhw’n rhad ac am ddim ar 0800 028 4844.

Cyfrifon Dysgu Personol (CDP)

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.