Cyflwyniad i Wneud Gemwaith (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Yn addas ar gyfer dechreuwyr, mae hwn yn gwrs 10 wythnos dwys llawn hwyl mewn dulliau gemwaith traddodiadol gan ddefnyddio ystod o fetelau cyffredin i ddysgu’r prosesau gemwaith wrth wneud cadwyni, sy’n arwain at wneud eich darn gorffenedig mewn arian.
Bydd gwneud eich cadwyn eich hun yn eich galluogi i bersonoli’ch gwaith ac yn caniatáu i chi wisgo’r darn gorffenedig fel eitem ddatganiad neu ei ddefnyddio i arddangos a gwella eich gemwaith arall.
Mae hon yn ffordd ddelfrydol o ddysgu rhai o sgiliau traddodiadol gwneud gemwaith, ac mae’n rhoi llawer o ymarfer i chi gyda’ch sodro!
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Wyneb i Wyneb
£90
Programme Description
Yn y dosbarth hwn byddwch yn dysgu’r sgiliau sylfaenol i ddylunio a chynllunio eich gemwaith pwrpasol unigryw eich hun. Sut i wneud eich modrwyau llam eich hun a linciau o bob siâp a maint, a sut i sodro modrwyau llam, creu cadwyni gorffenedig, gweadu a thorri metel a linciau, arbrofi gyda gwahanol ddyluniadau cadwyni o rai bach a chymhleth i rai amlwg, beiddgar.
Cynhelir y cwrs yn Ysgol Gelf Caerfyrddin y coleg sy’n addysgu popeth ynghylch celf a dylunio, o wneud printiau i decstilau a cherflunio.
Os oeddech chi dan 19 oed ar 1af Medi 2023 y gost fydd £25 yn unig.
Caiff deunyddiau sylfaenol eu darparu ond bydd eich tiwtor yn dweud wrthych am unrhyw ddeunyddiau ychwanegol y bydd angen i chi eu prynu eich hunan.
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar bob cwrs er mwyn caniatáu digon o hyfforddiant un i un. Os yw cwrs yn llawn pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn a rhoddir gwybod i chi pan ddaw lle ar gael.
Caiff yr holl leoedd eu harchebu ar sail ‘cyntaf i’r felin’.
Cysylltwch â susan.hayward@colegsirgar.ac.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr.